x
Cuddio'r dudalen

Camdriniaeth Ddomestig a Thrais Rhywiol – Dweud “DIM MWY”

Camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol – mae siarad amdano yn gallu bod yn sgwrs anodd a phoenus iawn. Ond, os yw hyn yn effeithio ti, yna mae’n bwysig deall nad wyt ti ar ben dy hun. Mae yna lawer o lefydd sydd yn gallu cynnig gofod diogel, cyngor a chefnogaeth.

Dweud ‘Dim Mwy’ – camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol

Mae wythnos ‘NO MORE’ yn cael ei gynnal yn flynyddol i godi ymwybyddiaeth o gamdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol. Y bwriad yw ysbrydoli pobl i wneud gwahaniaeth.

Mae cael y sgyrsiau yma yn bwysig iawn er mwyn lledaenu’r neges ei bod yn iawn i siarad am y pethau yma a bod cymorth ar gael i ti.

Gall camdriniaeth ddomestig gynnwys trais corfforol, camdriniaeth economeg ac ariannol, camdriniaeth ar-lein, camdriniaeth seicolegol ac emosiynol, rheolaeth drwy orfodaeth (coervice control) a chamdriniaeth rywiol. Darganfod mwy yma.

Mae trais rhywiol yn golygu unrhyw fath o weithred neu weithgaredd rhywiol na ddymunir, gan gynnwys rêp, ymosodiad rhywiol, camdriniaeth rywiol a mwy. Darganfod mwy yma.

Logo Safe Spaces i blog camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol

Darganfod Man Diogel

Mae ‘Safe Spaces’ yn gynllun sydd yn darparu mannau diogel mewn dros 7,000 o fanciau, fferyllfeydd ac archfarchnadoedd yn y DU. Gall unrhyw berson sydd yn profi camdriniaeth ddomestig fynd yno a chael gwybodaeth am gefnogaeth camdriniaeth ddomestig. Gallant helpu ti i ffonio llinell gymorth, gwasanaeth cefnogol neu ffrindiau/teulu.

Cychwynnodd ‘Safe Spaces’ fel rhan o’r ymgyrch ‘UK SAYS NO MORE‘. Yn ystod cyfnod clo Covid roedd pobl yn ei chael yn anodd cael help gan wasanaethau cymorth ac felly cychwynnwyd ‘Safe Spaces’ a ‘Online Safe Spaces’. Mae Mannau Diogel Ar-lein yn borth ar-lein ble gall pobl dderbyn cefnogaeth. Ni fydd yn dangos ar dy hanes pori. Clicia yma i ddarganfod mwy am Fannau Diogel Ar-lein.

Logo Gofyn am Ani i blog camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol

Gofyn am ANI os wyt ti angen help ar unwaith

Mae llawer o’r llefydd diogel yn y DU hefyd yn cynnig y gwasanaeth ‘Gofyn am ANI‘. Mae ANI yn golygu Angen Gweithredu ar Unwaith (Action Needed Immediately) ac mae’n hysbysu’r person dy fod di angen help ar unwaith am gamdriniaeth ddomestig. Bydd aelod o staff yn symud ti i le preifat lle byddant yn helpu ti i ffonio’r heddlu, llinell gymorth camdriniaeth ddomestig neu deulu/ffrindiau.

Nid oes rhaid iddo fod yn ddiweddar i gael help

Os wyt ti’n oroeswr camdriniaeth ddomestig neu drais rhywiol sydd wedi digwydd yn y gorffennol, mae cymorth ar gael i ti o hyd. Gall camdriniaeth hanesyddol gael effaith arnat ti hyd heddiw ac mae’n bosib cael help a chefnogaeth o hyd.

Logo Bright Sky App i blog camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol

Helpu rhywun arall

Os wyt ti’n adnabod unrhyw un sydd yn profi, neu wedi profi, camdriniaeth ddomestig neu drais rhywiol, yna anoga nhw i siarad â rhywun a chwilio am help. Rhanna’r erthygl yma a’r dolenni isod gydag unrhyw un rwyt ti’n credu bydda’n buddio o gefnogaeth. Efallai nad ydynt yn ymwybodol bod angen cymorth arnynt.

Mae posib lawr lwytho’r app Bright Sky hefyd. Mae’n cynnig cyngor a chefnogaeth os wyt ti’n poeni am rywun. Gall helpu ti i ddeall arwyddion camdriniaeth, cynghori ar y ffordd orau i ymateb a sut i gael cefnogaeth.

Mae help ar gael

Os wyt ti yn (neu wedi) profi camdriniaeth ddomestig neu drais rhywiol yna mae yna lawer o wasanaethau sydd yn cynnig cefnogaeth. Dyma ychydig ohonynt:

Logo Byw HEb OFn i i blog camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol

Byw Heb Ofn – Mae Byw Heb Ofn yn wasanaeth Llywodraeth Cymru. Maent yn darparu gwybodaeth a chyngor i rai sydd yn dioddef o drais yn erbyn merched, camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol. Mae ganddynt linell gymorth hefyd ar 0808 8010 800 neu wasanaeth sgwrs byw ar y wefan.

Logo Cymorth i Ferched i blog camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol

Cymorth i Ferched – cefnogi goroeswyr gydag amrywiaeth o wasanaethau i helpu merched a phlant. Sgwrs fyw, cefnogaeth e-bost, llawlyfr goroeswyr a fforwm i siarad gyda goroeswyr eraill.

Logo The Dyn Project i blog camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol

Y Prosiect Dyn – Cefnogi dynion heterorywiol, hoyw, deurywiol a trawsrywiol yn dioddef o gamdriniaeth ddomestig i gael mynediad i wasanaethau. Cefnogaeth gyfrinachol am ddim. Mae ganddynt linell gymorth hefyd ar 0808 801 0321.

Logo Rape Crisis i blog camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol

Rape Crisis – Cymorth os wyt ti neu rywun rwyt ti’n adnabod wedi profi rêp, camdriniaeth rywiol plentyn ac/neu unrhyw fath o drais rhywiol. Llinell gymorth am ddim: 0808 802 9999

Logo NSPCC i blog camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol

NSPCC Camdriniaeth Rywiol – Gwybodaeth am gamdriniaeth rywiol plant a sut i’w adnabod a chefnogi plentyn sydd yn ddioddefwr. Os wyt ti’n poeni am blentyn galwa 0808 800 5000, 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Mae yna wybodaeth am ecsploetiaeth rywiol plant ar wefan yr NSPCC hefyd, sydd yn fath o gamdriniaeth rywiol.

Logo Survivors UK i blog camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol

Survivors UK – Gwasanaeth cwnsela i gefnogi goroeswyr gwrywaidd o gamdriniaeth rywiol, ymosodiad rhywiol neu rêp fel oedolyn, neu os oeddent wedi profi hyn fel plentyn. Maent yn cynnig sgwrsio ar-lein ar eu gwefan. Neu gyrra neges testun ar 020 3322 1860 neu Whatsapp ar 07491 816 064.

Logo Safe Spaces i blog camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol

Safe Spaces – Mae UK Says No More yn gweithio gyda fferyllfeydd, archfarchnadoedd a banciau i ddarparu mannau diogel i bobl sydd yn profi camdriniaeth yn y cartref. Byddant yn helpu ti i ymestyn allan at ffrindiau a theulu a chysylltu â gwasanaethau cefnogol arbenigol. Darganfod Man Diogel yn agos i ti yma.

Baner Manylion cyswllt Meic

Siarad â Meic

Meic yw’r llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc ledled Cymru. Cysyllta os wyt ti angen siarad â rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni. Mae’n gyfrinachol ac am ddim. Mae’r gwasanaeth yn agored rhwng 8yb a hanner nos pob dydd, ac mae posib cysylltu ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar-lein.

Os yw’n anodd i ti siarad â rhywun, yna cer draw i’n blog am gyngor, neu siarada gydag un o’n cynghorwyr cyfeillgar ar wefan Meic, fydd yn gallu helpu ti i siarad â rhywun.