Gwynebu Bod Yn Ddigartref – Beth i’w Wneud
Mae sawl rheswm y gall rhywun fod mewn perygl o ddod yn ddigartref. Dyma gyngor Meic i bobl ifanc am beth i’w wneud a ble i fynd os wyt ti angen help gyda dy sefyllfa byw.
Mae’r stigma sydd ynghlwm â bod yn ddigartref yn gallu atal rhai pobl rhag chwilio am help, ond mae pobl yn dod yn ddigartref am sawl rheswm. Efallai bod perthynas yn chwalu, rwyt ti mewn perygl o niwed, yn cael trafferth talu’r rhent, neu mae’r denantiaeth yn dod i ben.
Oes gobaith?
Mae byw dan yr un to â rhywun yn gallu achosi perthnasau cymhleth. Os yw perthynas dan gymaint o straen fel dy fod di’n teimlo bod rhaid i ti adael, neu fod rhywun yn gofyn i ti adael, mae yna rhai pethau gallet ti geisio i wella’r sefyllfa:
- Siarada am y sefyllfa, os yw’n ddiogel i ti wneud hynny. Dewis amser pan fydd neb yn brysur neu rywbeth arall yn tynnu sylw. Efallai gallech chi fynd am dro. Gall hyn helpu sgyrsiau anodd i deimlo’n llai trwm
- Byddwch yn onest â’ch gilydd. Siaradwch am y pethau sydd yn anodd a sut mae’n gwneud i chi deimlo
- Cofia wrando a chydnabod eu teimladau nhw hefyd
- Meddyliwch am ffyrdd i wella pethau. Efallai rhannu tasgau tŷ yn deg, talu/cyfrannu at filiau, bod yn ystyriol o bobl eraill a pharchu anghenion pobl am ofod ac amser eu hunain
- Cytunwch ar y pethau gallech chi wneud i sicrhau bod byw â’ch gilydd yn haws
- Meddyliwch am dasgau hwyl i’w gwneud â’ch gilydd i helpu gwella’r berthynas
Rhy anodd i siarad wyneb i wyneb?Pawb i ysgrifennu eu teimladau ar bapur, yn nodi beth hoffech chi ddigwydd a beth allech chi gynnig i wella pethau. Rhannwch y rhestr â’ch gilydd.
Cyngor os wyt ti o dan 18
Os yw perthnasau adref dan straen, ac mae’n amhosib i ti a dy rieni/gofalwyr wella’r sefyllfa, yna cysyllta â dy Wasanaeth Tai a Phlant lleol. Mae pobl ifanc 16 ac 17 oed yn cael eu hystyried fel ‘angen blaenoriaethol’, sydd yn golygu bod rhaid iddynt, yn ôl y gyfraith, asesu dy angen tai a chynnig llety i ti os oes angen.
Os wyt ti’n profi camdriniaeth adref, gofynna i athro, tiwtor coleg, neu oedolyn gallet ti ymddiried ynddynt, i helpu ti i gysylltu â Gwasanaethau Plant. Mae’n rhaid i Wasanaethau Plant archwilio adroddiadau o niwed. Os ydynt o’r farn nad yw’n ddiogel i ti aros adref, byddant yn archwilio opsiynau gwahanol, gan gynnwys aros gydag aelod o’r teulu neu mewn cartref maeth nes bydd yn ddiogel i ti ddychwelyd adref neu pan fyddi di’n ddigon hen i fyw’n annibynnol.
Os wyt ti angen help i ddarganfod manylion cyswllt dy Wasanaethau Tai neu Blant lleol, cysyllta â ni ar linell gymorth Meic yn gyfrinachol ac am ddim. Mae ein cynghorwyr yma i wrando a helpu i roi ti ar y llwybr cywir i gael yr help sydd ei angen. Manylion cyswllt isod.
Dyma fydd yn digwydd ar ôl i ti gysylltu â’r Gwasanaethau Plant:
- Byddant yn cynnig apwyntiad i ti
- Paratoi ar gyfer yr apwyntiad wrth ysgrifennu datganiad yn nodi beth sydd wedi bod yn digwydd adref, pam ti’n teimlo bod y berthynas gyda dy rieni/gofalwyr wedi chwalu, a pam bod angen help arnat ti i symud allan. Os oes unrhyw niwed neu gamdriniaeth wedi bod yn digwydd, cynnwys y manylion yma
- Cer â ID gyda thi – tystysgrif geni, pasbort, trwydded yrru, cerdyn meddygol, neu ddatganiad banc gyda chyfeiriad arno
- Os yw dy rieni wedi gofyn i ti adael, gofynna iddynt ysgrifennu llythyr yn cadarnhau hyn
- Os nad ydynt yn ystyried dy sefyllfa yn argyfwng, yna gall gymryd wythnosau neu fisoedd cyn i Wasanaethau Tai neu Blant ddod i benderfyniad am yr hyn fydd yn digwydd nesaf. Os yw’r perthynas adref yn gwaethygu yn y cyfnod yma, gad iddynt wybod
- Bydd Gwasanaethau Tai a Phlant yn gofyn cwestiynau i ti a dy rieni/gofalwyr am y sefyllfa, i weld os yw’n bosib i ti barhau i fyw gartref. Yn aml maent yn cynnig cyfryngu teuluol trwy sefydliad digartrefedd fel Llamau
Cyngor os wyt ti dros 18, mewn sefyllfa annioddefol, neu mewn perygl mawr
Os oes ffraeo parhaus sy’n cynnwys ymddygiad bygythiol, camdriniaeth neu drais, mae’n rhaid i ti chwilio am help i gadw dy hun yn ddiogel a newid dy sefyllfa cyn gynted â phosib.
Os na fedri di aros ble wyt ti, cysyllta ag Opsiynau Tai dy gyngor lleol. Darganfod dy gyngor lleol yma. Byddant yn cynnig cyngor ac yn ceisio darganfod rhywle i ti aros mewn argyfwng. Nid oes rhaid i ti fod yn cysgu ar y stryd i gael cymorth. Os wyt ti angen help i ddarganfod dy wasanaeth Tai lleol, cysyllta â ni yn gyfrinachol ac am ddim ar linell gymorth Meic. Mae ein cynghorwyr yma i wrando a helpu i roi ti ar y llwybr cywir i gael yr help sydd ei angen. Manylion cyswllt isod.
Mae gan Shelter Cymru dudalen wybodaeth gyda manylion am gysylltu adran tai dy gyngor lleol a beth fydd yn digwydd. Mae ganddynt ganllaw cam wrth gam ar wneud cais digartrefedd hefyd. Os wyt ti eisiau siarad gyda chynghorydd tai arbenigol ar frys, galwa llinell gymorth Shelter Cymru ar 08000 495 495 (Llun i Gwener, 9yb to 4yp).
Galwa 999 os wyt ti mewn perygl mawr. Os wyt ti’n profi camdriniaeth ddomestig neu drais rhywiol, cysyllta â llinell gymorth Byw Heb Ofn am ddim 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Manylion cyswllt isod.
Gwasanaethau gall helpu
Siarad â Meic
Mae Meic yn llinell gymorth ddwyieithog i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. Cysyllta os wyt ti’n poeni am rywbeth, gyda chwestiynau, neu angen gwybodaeth neu gyngor. Gallem dy roi ar y llwybr cywir os wyt ti’n cael trafferth gwybod pwy i gysylltu. Gallem hyd yn oed helpu ti i siarad gydag eraill os yw hyn yn anodd i ti. Mae Meic yn gyfrinachol, ond os wyt ti’n dweud rhywbeth wrthym sydd yn achosi ni i boeni am dy ddiogelwch, bydd rhaid i ni ddweud wrth rywun gan fod gennym gyfrifoldeb i gadw ti’n ddiogel. Ni fyddem yn gwneud hyn heb siarad trwyddo gyda thi gyntaf.
Ffonia: 080 880 23456
Tecstia: 84001
Sgwrs ar-lein
Shelter Cymru
Elusen tai sydd yn amddiffyn yr hawl i gartref diogel yng Nghymru wrth gynnig cyngor annibynnol, cyfrinachol, am ddim. Cyngor penodol i rai dan 25 yma.
Clicia am y wefan
Llinell gymorth brys: 08000 495 495 (9yb-4yp Llun i Gwener)
Sgwrs ar-lein
Llamau
Elusen ddigartrefedd yn cefnogi pobl ifanc a merched yng Nghymru.
Clicia am y wefan
Byw Heb Ofn
Llinell gymorth i ferched sy’n dioddef camdriniaeth neu drais rhywiol yn y cartref.
Clicia am y wefan
Ffonia: 0808 80 10 800
Tecstia: 07860077333
E-bost: info@livefearfreehelpline.wales
Sgwrs ar-lein
Y Samariaid
Os wyt ti mewn trallod emosiynol, yn cael trafferth ymdopi, neu mewn perygl o hunanladdiad, gallet ti siarad â’r Samariaid.
Clicia am y wefan
Ffonia: 116 123 (gwasanaeth 24/7 am ddim)
Am wasanaeth Cymraeg: 0808 164 0123 (bob dydd 7yh – 11yh)
E-bost: jo@samaritans.org
Sgwrs ar-lein (cynllun peilot oedd hwn pan ysgrifennwyd y blog yma)
Yr Heddlu
Os wyt ti mewn perygl mawr ar hyn o bryd, ffonia’r heddlu ar 999. Os wyt ti eisiau adrodd camdriniaeth neu niwed, galwa 101.