x
Cuddio'r dudalen

6 Cam i’w Cymryd Os Wyt Ti’n Cael Dy Fwlio

Bwlio ydy pan fydd rhywun yn gwneud rhywbeth drosodd a throsodd sydd yn achosi niwed i rywun arall yn emosiynol neu’n gorfforol. Nid yw bwlio byth yn iawn. Mae gan yr ysgol a’r llywodraeth leol ddyletswydd gyfreithiol i stopio hyn. Dyma 6 cam i’w dilyn os wyt ti’n cael dy fwlio.

This article is also available in English  – to read this content in English – click here

Delwedd cartŵn o gynghorydd Meic o flaen cefndir piws gyda Cam 1 wedi ysgrifennu uwchben ar gyfer blog 6 Cam i’w Cymryd Os Wyt Ti’n Cael Dy Fwlio

1. Siarad â rhywun

Mae bwlio yn gallu gwneud i rywun deimlo’n ddrwg iawn, ac mae’n debyg bod angen cymorth arnat ti. Meddylia am rywun gallet ti ymddiried ynddynt a siarada gyda nhw am yr hyn sydd wedi bod yn digwydd. Efallai gallet ti siarad gyda rhiant, athro neu ffrind gorau. Paid poeni bod dweud wrth rywun yn gwneud ti’n ‘snitch’, mae gen ti hawl i beidio cael dy fwlio, ac os yw’n digwydd yna fe ddylet ti geisio gwneud rhywbeth am y peth.

Os wyt ti’n dweud wrth rywun gallet ti ymddiried ynddynt, yna gallet ti ofyn iddynt gadw’r peth yn ddienw. Mae ffyrdd y gallan nhw daclo bwlio heb dynnu sylw at dy sefyllfa di, fel gwasanaeth bwlio i’r ysgol gyfan yn hytrach nag targedu’r bwlïod yn uniongyrchol. Os wyt ti’n siarad â rhywun yna gallet ti gael cefnogaeth emosiynol a gallech chi drafod pa gamau i’w cymryd. Bydd yn helpu ti i daflu goleuni ar bethau, ac efallai bydd rhywun arall yn gweld peryglon sydd ddim yn amlwg i ti. Efallai gallant awgrymu ffyrdd i ymdopi. Mae rhannu’r baich yn gallu tynnu’r pwysau oddi arnat ti.

Delwedd cartŵn o gynghorydd Meic o flaen cefndir piws gyda Cam 2 wedi ysgrifennu uwchben ar gyfer blog 6 Cam i’w Cymryd Os Wyt Ti’n Cael Dy Fwlio

2. Cyfathrebu gyda’r bwlïod

Pobl normal yw’r bwlïod hefyd. Os wyt ti’n teimlo’n ddigon hyderus, ac os yw’n ddiogel, yna beth am geisio siarad gyda’r bwlïod? Efallai nad ydynt yn sylweddoli’r effaith mae eu geiriau neu weithred yn ei gael arnat ti. Gofyn iddynt ddychmygu sut bydda’n nhw’n teimlo yn dy sefyllfa di. Os ydynt yn fodlon, efallai gallech chi ddod i gytundeb iddynt stopio. Os wyt ti’n cael dy fwlio gan fwy nag un person, yna ceisia gael sgwrs gyda phob un yn ei dro. Gall hyn roi mwy o gyfle i ti i gael dweud popeth heb ofni gorfod dweud o flaen grŵp mawr. Os yw’r bwlio yn gorfforol, ac nad yw’n bosib trafod pethau heb berygl o niwed, yna byddai’n well osgoi’r cam yma. Paid rhoi dy hun mewn sefyllfa beryglus!!

Os yw’r bwlïod yn ymosod arnat ti yna mae hyn yn erbyn y gyfraith ac mae posib adrodd hyn i’r heddlu ar 101.

Delwedd cartŵn o gynghorydd Meic o flaen cefndir piws gyda Cam 3 wedi ysgrifennu uwchben ar gyfer blog 6 Cam i’w Cymryd Os Wyt Ti’n Cael Dy Fwlio

3. Edrych ar ôl dy hun

Mae yna bethau gallet ti wneud bydd yn helpu ti i ymdopi.

Cadw trac o’r bwlio. Os wyt ti’n penderfynu dy fod di am adrodd y bwlio wedyn, yna bydd yn helpu ti i nodi lawr popeth sydd wedi digwydd, fel pwy oedd yn cymryd rhan, dyddiadau ayb. Bydd hyn yn helpu i greu darlun a chasglu tystiolaeth. Gallet ti ffilmio’r bwlio ar dy ffôn hefyd os yw’n ddiogel i ti wneud hynny. Efallai bydd hyn yn atal y bwlïod rhag gwneud dim gan y gallet ti ddefnyddio hwn fel tystiolaeth.  Efallai bydd bwlïod yn meddwl ddwywaith rhag iddynt gael eu gweld yn greulon neu’n fygythiol. Os wyt ti’n ffilmio rhywbeth yna paid rhannu hyn ar gyfryngau cymdeithasol, cadwa ef fel tystiolaeth.

Mae bwlio yn gallu cael effaith corfforol ac emosiynol ar rywun felly mae’n bwysig iawn i edrych ar ôl dy hun yn feddyliol. Os wyt ti’n teimlo’n isel neu’n bryderus yna gofynna am help. Gallet ti siarad gydag un o’r cynghorwyr ar linell gymorth Meic (manylion cyswllt isod) neu mae Llywodraeth Cymru wedi creu Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl ar Hwb gyda llawer o gysylltiadau am help a chyngor.

Delwedd cartŵn o gynghorydd Meic o flaen cefndir piws gyda Cam 4 wedi ysgrifennu uwchben ar gyfer blog 6 Cam i’w Cymryd Os Wyt Ti’n Cael Dy Fwlio

4. Gwneud apwyntiad i siarad â’r ysgol

Os nad yw pethau’n gwella, yna efallai ei fod yn hen bryd gwneud rhywbeth yn swyddogol. Siarada gydag oedolyn rwyt ti’n gallu ymddiried ynddynt. Gofyn iddynt drefnu apwyntiad gydag athro neu bennaeth blwyddyn i weld sut gallan nhw dy gefnogi. Mae’n rhaid i bob ysgol gael polisi gwrth fwlio. Efallai ei fod ar wefan yr ysgol neu gofynna amdano gan fod gen ti hawl i gael mynediad iddo. Bydd y polisi yn nodi’r camau dylai’r ysgol ei gymryd i gefnogi rhywun sydd yn cael ei fwlio a rhoi diwedd arno. Yn y cyfnod yma, dylai’r ysgol osod camau i helpu. Mae’n bwysig siarad gydag oedolyn cefnogol am yr hyn sydd wedi bod yn digwydd pob dydd. Bydd hyn yn helpu ti, ac yn rhoi cyfle i gofnodi’r holl ddigwyddiadau o fwlio i gefnogi dy achos yn yr ysgol ymhellach.

Delwedd cartŵn o gynghorydd Meic o flaen cefndir piws gyda Cam 5 wedi ysgrifennu uwchben ar gyfer blog 6 Cam i’w Cymryd Os Wyt Ti’n Cael Dy Fwlio

5. Dilyn i fyny

Os yw’r bwlio’n parhau, ac os nad yw’r ysgol yn gwneud digon i atal hyn, neu fod y camau sydd wedi’u cymryd ddim yn gweithio, dylai dy rieni/gwarchodwyr fynd yn ôl i’r ysgol am gyfarfod arall. Gallant ystyried camau pellach i ddatrys y broblem. Yn y cyfnod yma, efallai byddai’n syniad ysgrifennu llythyr i’r ysgol, yn dweud bod y bwlio’n parhau.

Delwedd cartŵn o gynghorydd Meic o flaen cefndir piws gyda Cam 6 wedi ysgrifennu uwchben ar gyfer blog 6 Cam i’w Cymryd Os Wyt Ti’n Cael Dy Fwlio

6. Gwneud cwynion swyddogol

Yr ysgol:

Os wyt ti’n teimlo nad yw’r ysgol yn gwneud digon efallai bydd dy rieni/gwarchodwyr eisiau ystyried gwneud cwyn i’r ysgol. Y ffordd orau i wneud hyn ydy ysgrifennu llythyr i’r pennaeth. Mae gan BulliesOut lythyrau templed gwych i wneud cwyn.

Llywodraethwyr yr Ysgol:

Os nad yw pethau’n newid, neu fod pethau’n waeth ers gwneud cwyn i’r pennaeth, ac os wyt ti’n teimlo nad yw’r ysgol wedi gwneud yr hyn y dylent, yna efallai mai dyma’r amser i fynd yn uwch. Gyrra gwyn i’r Bwrdd Llywodraethwyr i weld os yw’n bosib datrys pethau ar y lefel yma. Mae’r ysgol a’r pennaeth yn atebol i’r bwrdd. Edrycha ar dempled llythyr cwyn i fyrddau llywodraethwyr ysgolion ar wefan BulliesOut (Saesneg yn unig).

Yr Awdurdod Addysg:

Mae angen i ti sicrhau bod yr ysgol wedi cael digon o amser i ymateb a gweithredu ar y cwynion. Gall disgwyl fod yn anodd, ond mae’n rhan bwysig o’r broses. Os nad yw’r camau cynt wedi datrys pethau, mae yna opsiynau pellach i’w hystyried. Y cam nesaf i dy rieni/gwarchodwyr ydy gwneud cwyn i’r Awdurdod Addysg Leol. Mae manylion y swyddfa ar wefan dy gyngor lleol. Mae yna dempled ar gyfer y llythyr yma ar wefan BulliesOut hefyd (Saesneg yn unig).

Yr Ombwdsmon:

Os nad yw’r Awdurdod Addysg yn datrys pethau yna gall dy rieni/gwarchodwyr fynd at Ombwdsmon Cymru. Gallant edrych ar unrhyw gwynion am y cyngor lleol neu unrhyw wasanaethau cyhoeddus. Darganfod sut i gwyno ar eu gwefan.

Y Llywodraeth

Mae posib siarad yn uniongyrchol i gynrychiolwyr y llywodraeth sydd yn gyfrifol am greu cyfreithiau a pholisi yng Nghymru:

Y Comisiynydd Plant

Mae’r Comisiynydd Plant yn eiriolwr annibynnol (yn brwydro am hawliau) i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae’r CCUHP (darganfod mwy yma) yn sicrhau bod gan blant a phobl ifanc hawliau ac mae’r Comisiynydd Plant yn sicrhau bod yr hawliau yma yn cael eu cyfarfod yng Nghymru. Mae gen ti hawl i beidio cael dy fwlio.

Yr Heddlu

Weithiau bydd bwlio yn anghyfreithlon ac mae posib adrodd hyn at yr heddlu ar 101. Os wyt ti mewn perygl mawr galwa 999:

  • Trais
  • Ymosodiad
  • Dwyn
  • Harasio
  • Bygwth
  • Troseddau casineb (anabledd, hil, crefydd, tueddfryd rhywiol, neu hunaniaeth drawsrywiol)

Blogiau bwlio eraill ar Meic:

Angen gwybodaeth bellach?

Gobeithio wir na fydd rhaid i ti ddilyn pob cam yn y rhestr uchod, ond mae’r camau yma yn agored i ti a dy rieni/gwarchodwyr os oes angen. Os yw unrhyw beth yn yr erthygl yma yn aneglur neu os hoffet siarad ymhellach yna cysyllta â Meic.

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) neu sgwrsio ar y we yn rhad ac am ddim.