O Blentyn i Riant – Canllaw Beichiogrwydd yn Dy Arddegau
Un o’r canlyniadau o gael rhyw heb amddiffyniad yw beichiogrwydd (yn ogystal â STIs). Efallai bod hyn yn fwriadol, yn gamgymeriad, neu bod dull atal cenhedlu wedi ffaelu. Os wyt ti’n meddwl gallet ti fod yn disgwyl babi, darllena’r blog yma am wybodaeth ar brofi, atal cenhedlu brys, dy ddewisiadau, cadw’r babi, a’r help sydd ar gael.
RHYBUDD: Oherwydd natur y pwnc, efallai bydd y cynnwys yn y blog yma yn anaddas i rai o’n darllenwyr iau.
Mae’r blog yma yn rhan o’r ymgyrch Dim Cywilydd Dim Cyfrinachau – Iechyd a Lles Rhyw, ble edrychwn ar sawl elfen o gadw dy hun yn iach ac yn ddiogel o ran rhyw. Mae dolenni i holl flogiau’r ymgyrch yma, a dilyna ein sianeli cyfryngau cymdeithasol (gweler gwaelod y blog) i wylio ychydig o fideos hwyl.
Sut i wybod os wyt ti’n disgwyl babi
Nid yw’n bosib cael yn feichiog trwy gusanu, cyffwrdd na chael rhyw geneuol (y geg). Mae’n rhaid i semen gael i mewn i’r fagina er mwyn i ti fod yn feichiog. I ddarganfod mwy am y cylch misol a sut mae beichiogrwydd yn digwydd, cer yma.
Mae methu mislif yn gallu bod yn arwydd o feichiogrwydd, ond mae rhesymau eraill dros fislif afreolaidd hefyd. Os yw dy fislif yn hwyr ond dwyt ti heb gael rhyw fagina, yna nid yw’n bosib bod yn feichiog. Weithiau mae pobl yn parhau i waedu tra maent yn feichiog.
Yr unig ffordd i fod yn sicr ydy gwneud prawf beichiogrwydd. Mae pecynnau profi gartref ar gael yn y mwyafrif o archfarchnadoedd neu fferyllfeydd, ond fe allet ti gael prawf am ddim o’r clinig iechyd rhyw leol neu’r doctor. Fel arfer mae angen pipi ar ffon. Os yw’r prawf yn bositif, ac rwyt ti wedi dilyn y cyfarwyddiadau yn iawn, yna mae’n eithaf sicr dy fod di’n disgwyl gan eu bod mor gywir. Ond gall canlyniadau negyddol fod yn anghywir weithiau. Fel arfer mae dau brawf mewn pecyn, felly gwna’r ail brawf os wyt ti dal i feddwl gallet ti fod di’n feichiog. Os yw’n dal i fod yn negyddol, a dyw dy fislif dal heb gychwyn, yna gwna apwyntiad gyda’r doctor.
Beth sy’n digwydd os ydw i wedi cael rhyw heb amddiffyniad?
Paid croesi dy fysedd a gobeithio na fyddi di’n disgwyl babi. Mae yna opsiynau atal cenhedlu brys.
Y bilsen atal cenhedlu brys
Neu’r bilsen fore wedyn (er mae gen ti ychydig mwy o amser i’w gymryd). Gellir cymryd hwn o fewn 3 i 5 diwrnod o gael rhyw heb amddiffyniad, ond gorau po gyntaf – paid disgwyl. Os wyt ti’n taflyd i fyny o fewn ychydig oriau o gymryd y bilsen, bydd rhaid dychwelyd a’i gymryd eto. Mae posib cael hwn am ddim (hyd yn oed os wyt ti dan 16) mewn clinigau iechyd rhywiol (GUM) neu unedau anafiadau mân, neu mewn rhai meddygfeydd, clinigau pobl ifanc, fferyllfeydd, neu A&E. Os wyt ti dros 16 oed, mae posib prynu yn y mwyafrif o fferyllfeydd.
Dyfais Fewngroth (IUD)
Gellir dewis cael ffitio IUD fel atal cenhedlu brys o fewn 5 diwrnod o gael rhyw heb amddiffyniad. Mae hwn yn ddyfais blastig a chopr sydd yn cael ei osod yn y groth. Mae posib cadw hwn i mewn wedyn a’i ddefnyddio fel dy ddull atal cenhedlu arferol. Cofia – tra gall atal beichiogrwydd, condom yw’r unig ffordd i amddiffyn rhag STI.
Efallai mai dyma’r amser perffaith i edrych ar dy opsiynau atal cenhedlu. Cer draw i’n blog Dulliau Atal Cenhedlu yma.
Os wyt ti wedi cael rhyw heb gondom gyda rhywun sydd ddim yn bartner rheolaidd, yna byddai’n syniad da i gael prawf STI hefyd. Gwybodaeth bellach am hyn yn ein blog Canllaw Coslyd STIs a Phrofi.
Dweud wrth rywun gallet ti ymddiried ynddynt
Os wyt ti’n feichiog, yna mae gen ti benderfyniadau mawr i’w gwneud. Mae’n gallu bod yn anodd meddwl am yr opsiynau ar ben dy hun, ac rydym yn argymell i ti chwilio am gymorth i’w trafod. Dewis rhywun gallet ti ymddiried ynddynt, fel dy bartner, ffrind, aelod o’r teulu, athro, gweithiwr cymdeithasol neu ddoctor. Os wyt ti’n teimlo na fedri di siarad â neb, yna mae Meic yma i wrando a chynnig cyngor a gwybodaeth er mwyn i ti wneud penderfyniad gwybodus am dy ddyfodol.
Siarad am dy deimladau. Paid poeni am ddweud y peth anghywir. Mae’n iawn teimlo’n ofn, pryder neu gyffro. Mae’n bwysig mai ti sydd yn gwneud unrhyw benderfyniad, ni ddylai neb orfodi ti i wneud rhywbeth nad wyt ti eisiau.
Dy ddewisiadau
Dy gorff di ydyw a dy ddewis di ydy beth sy’n digwydd nesaf.
Mae gen ti dri opsiwn:
- Cadw’r babi – gweler isod
- Cael erthyliad (abortion) – darllena mwy am hyn ar wefan GIG Cymru
- Mabwysiadu – darllena mwy am fabwysiadu ar wefan Childline
Mae tudalen Gwneud Penderfyniad am Feichiogrwydd Brook yn trafod y gwahanol opsiynau yma a’r pethau dylet ti eu hystyried. Efallai bydd hyn yn helpu gwneud pethau yn fwy clir i ti.
Efallai bod hyn yn benderfyniad hawdd, neu efallai dy fod di’n teimlo’n ddryslyd a ddim yn gwybod beth yw’r penderfyniad cywir i ti. Unwaith eto, rydym yn awgrymu i ti siarad gyda rhywun gallet ti ymddiried ynddynt, rhywun ti’n hyderus fydd yn helpu ti i siarad am dy opsiynau yn hytrach nag dweud wrthyt ti beth ddylet ti ei wneud. Mae Meic yma os nad oes gen ti neb gallet ti siarad â nhw (manylion cyswllt isod).
Cadw’r babi
Unwaith rwyt ti’n gwybod dy fod di am barhau gyda’r beichiogrwydd, yna gwna apwyntiad gyda’r fydwraig (trwy’r feddygfa) fel dy fod di’n cael yr holl archwiliadau a’r driniaeth sydd ei angen ar gyfer beichiogrwydd iach. Gelwir hyn yn ofal cyn geni.
Mae beichiogrwydd yn parhau am tua 40 wythnos. Bydd dy fydwraig yn gallu dyfalu’r dyddiad geni disgwyliedig. Byddi di’n cael apwyntiadau rheolaidd i sicrhau dy fod di a’r babi yn iawn. Mae apwyntiadau cyn geni yn cynnwys:
- mesur y bwmp i sicrhau bod y babi yn tyfu fel y dylai
- gwrando ar galon y babi
- gwneud siŵr dy fod di’n iach
- cyngor ar stopio ysmygu, alcohol a bwyta’n iach
- cyngor ar gymryd asid ffolig a fitaminau
- trafod opsiynau geni
Byddi di hefyd yn cael sgan yn wythnos 8-14 a 18-21. Bydd rhai pobl angen cael eu sganio’n fwy rheolaidd i fonitro’r beichiogrwydd yn agos. Bydd yna brofion gwaed a sgrinio hefyd ar gyfer pethau fel STIs a syndrom Down.
Bydd y fydwraig yn rhoi gwybod am unrhyw ddosbarthiadau cyn geni yn dy ardal, a bydd hyn yn helpu ti i baratoi ar gyfer y geni a gofalu am y babi.
Dysga fwy am ofal cyn geni yng Nghanllaw Beichiogrwydd GIG Cymru.
Ceir llawer o wybodaeth ar fod yn iach tra’n feichiog ar wefan Tommy’s.
Cymorth i rieni ifanc
Addysg
Nid yw cael babi yn golygu bod rhaid i ti orffen dy addysg. Mae’r Gyfraith Cydraddoldeb yn amddiffyn dy hawliau mewn addysg ac yn y gwaith os wyt ti’n feichiog.
Mae’n rhaid i ti aros mewn addysg nes i ti droi’n 16 oed. Nid yw bod yn feichiog yn golygu bod rhaid i ti stopio, a bydd cymorth ar gael i ti. Efallai na fydd hyn yn hawdd, ond nid oes rhaid i ti newid cynlluniau’r dyfodol am fod gen ti fabi. Mae posib aros mewn addysg nes y diwrnod geni a chymryd hyd at 18 wythnos i ffwrdd yn union cyn ac ar ôl y geni.
Bydd rhywun yn cael ei benodi i helpu ti i setlo yn ôl i addysg ar ôl yr enedigaeth. Gallant roi cyngor i ti ar ofal plant a gweld os oes help ariannol ar gael i ti. Efallai bod gen ti aelodau’r teulu fydda’n gallu helpu gyda gofal plant, fydd yn gallu hawlio arian os ydynt yn derbyn Credyd Treth Gwaith neu Gredyd Cynhwysol.
Efallai byddi di’n gallu hawlio’r LCA (Lwfans Cynhaliaeth Addysg) sydd yn ymwneud ag incwm y cartref. Mae myfyrwyr cymwys rhwng 16 a 18 oed yn cael £40 yr wythnos i helpu gyda chostau addysg bellach.
Aros yn iach
Mae’r cynllun Cychwyn Iach yn rhoi cerdyn gydag arian arno i helpu prynu llaeth, ffrwythau a llysiau, corbys a fformiwla babi. Mae posib cael fitaminau i ti a’r babi hefyd.
Dim ond pobl sydd ar fudd-daliadau penodol ac sydd dros 10 wythnos yn feichiog neu gyda phlentyn dan 4 oed sydd yn gymwys am y cynllun yma fel arfer. Ond, os wyt ti o dan 18 oed a dros 10 wythnos yn feichiog, rwyt ti’n gymwys nes bydd y babi yn cael ei eni. Ni fyddi di’n gymwys wedyn oni bai dy fod di’n cael unrhyw un o’r budd-daliadau wedi’u rhestru ar y dudalen yma. Gwna gais am gerdyn Cychwyn Iach yma.
Tai
Os wyt ti’n poeni am ble byddi di’n byw fel rhiant ifanc, mae gan Shelter gyngor ar opsiynau ac unrhyw help sydd ar gael i ti fel rhiant ifanc. Cer yma i weld.
Budd-daliadau
Os wyt ti o dan 16 oed, nid wyt ti’n gymwys ar gyfer budd-daliadau heblaw Budd-dal Plant fel arfer.
Os wyt ti dros 16 oed, defnyddia Teenage Parents Benefits Finder ar wefan Gingerbread i weld os yw’n bosib i ti hawlio budd-daliadau a chredydau treth o dan 18 oed.
Gwybodaeth bellach a chymorth
- Dim Cywilydd Dim Cyfrinachau – ymgyrch iechyd rhyw Meic gyda llawer o wybodaeth am iechyd a lles rhyw, gan gynnwys gwahanol ddulliau atal cenhedlu, adnabod a thrin STIs, a porn.
- Gingerbread – gwybodaeth budd-daliadau, arian, tai a gofal plant i rieni sengl neu ferched ifanc sydd yn byw gyda rhiant. Cer draw i’r Teenage Parents Benefits Finder i weld os wyt ti’n gymwys am unrhyw beth
- Cefnogaeth beichiogrwydd yn yr arddegau – GIG Cymru
- Brook– gwasanaeth iechyd, addysg a lles rhyw i bobl ifanc. Cer draw i’r tudalennau beichiogrwydd
- Dewis – Rhieni yn eu harddegau ac addysg – gwybodaeth a dolenni i helpu rhieni ifanc gyda’u haddysg. Mae yna dudalen am Rieni yn eu harddegau a’r coleg hefyd.
- Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd – gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar wahanol wasanaethau yn ymwneud â phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd, gan gynnwys gofal plant, gwasanaethau plant, gweithgareddau gwyliau a grwpiau chwarae
- Shelter Cymru – cyngor tai i rieni ifanc
- Dechrau’n Deg – cymorth gyda phlant dan 4 os wyt ti’n byw mewn ardal Dechrau’n Deg
- Teuluoedd yn Gyntaf – arian i brosiectau lleol i gefnogi teuluoedd (rhai yn benodol i bobl ifanc). Mae pob awdurdod lleol yn penderfynu ar yr angen lleol yn eu hardal
- Magu Plant. Rhowch amser iddo – tips ymarferol a chyngor arbenigol ar gyfer holl heriau magu plant
- Family Lives – cefnogi rhieni cyn iddynt gyrraedd pwynt argyfwng
- Tommy’s – elusen beichiogrwydd yn darparu cyngor arbenigol i rieni cyn, yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd. Maent hefyd yn cefnogi’r rhai sydd wedi colli babi
Siarad â Meic
Meic yw’r llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc ledled Cymru. Cysyllta os wyt ti angen siarad â rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni. Mae’n gyfrinachol ac am ddim. Mae’r gwasanaeth yn agored rhwng 8yb a hanner nos pob dydd, ac mae posib cysylltu ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar-lein.