Ymdopi Gyda Galar Dros y Nadolig

Mae’r Nadolig yn gyfnod mae’r mwyafrif yn treulio gyda theulu, ffrindiau a phobl agos. Ond mae digwyddiadau tymhorol fel hyn yn gallu bod yn atgof poenus o absenoldeb rhywun. Mae gan Meic gyngor ar ymdopi gyda’r galar yma.
To read this content in English – click here
Gall y teimlad o alar fod mor gryf yn y flwyddyn gyntaf yn dilyn marwolaeth rhywun, ac efallai y byddet ti’n hoffi petai’r Nadolig yn diflannu’n gyfan gwbl. Ond i rai pobl mae ‘parhau gyda phethau’ yn gallu helpu.
Dylet ti ddathlu’r Nadolig?
Beth bynnag yw dy deimladau di am y peth – nid oes ffordd gywir nac anghywir i ymdopi gyda galar. Mae’n bwysig bod pobl yn deall ac yn parchu hyn. Mae yna lawer o gyngor ar wefan yr elusen profedigaeth Cruse am sut i ymdopi dros y Nadolig gallai fod yn fuddiol. Darganfod os dylet ti ddathlu neu beidio, pa mor bwysig yw cofio, a chymryd amser a gofalu am dy hun. Darganfod mwy yma.
Mae rhannu dy deimladau gyda theulu a ffrindiau yn gallu helpu iddynt ddeall dy brofiad di o alar. Bydd hyn yn help iddynt i ddeall y ffordd orau i dy gefnogi.
Rhai pethau gallet ti feddwl amdanynt
Meddwl am y teimladau sydd gen ti a chynllunio sut y gallet ti ymdopi â nhw. Mae hyn yn cynnwys caniatáu dy hun i grio a theimlo gofid os wyt ti angen gwneud hynny.
Gwybod ble i chwilio am gyngor a chefnogaeth os wyt ti angen. Caniatâ dy hun i ymateb yn y ffordd rwyt ti ei angen ar y pryd.
Mae gan Young Minds wybodaeth grêt ar y wefan gyda chyngor i ymdopi gyda cholled dros y Nadolig, fel darganfod pethau i dynnu sylw, mudo geiriau penodol sydd yn cynhyrfu ar gyfryngau cymdeithasol, caniatáu i dy hun i deimlo emoisynau, a siarad.
Os wyt ti angen siarad gyda chynghorwr galar, ffonia Llinell Gymorth Cruse ar 0808 808 1677 neu siarada gyda nhw ar-lein drwy’r gwasanaeth CruseChat.
Clywed hanes pobl eraill
Mae llawer o bobl wedi cael profiad o alar, ac efallai bydd darganfod sut y maen nhw’n cofio pobl agos dros y Nadolig yn helpu ti i feddwl am syniadau dy hun. Os wyt ti’n teimlo’n gyfforddus yn gwneud, siarada gyda’r bobl o dy gwmpas a gofynna sut y maen nhw’n ymdopi gyda galar dros y Nadolig. Cer draw i weld y blog Grieving at Christmas yma ar wefan Metro. Mae pobl yn rhannu eu straeon o ddathlu a chofio pobl agos dros y Nadolig. Maent yn amrywio o wrando ar eu hoff gerddoriaeth, teithio, edrych ar luniau, a bwyta sbrowts (er eu bod nhw’n casáu sbrowts!). Mae yna syniadau ar waelod y blog ar ffyrdd i gofio pobl dros y Nadolig.
Cer draw i’n blog ‘Angen Cefnogaeth Dros y Nadolig? Cysyllta â Meic’ am gyngor a chysylltiadau ychwanegol.
Creu defodau (rituals)
Gall creu defodau dy hun helpu leddfu’r boen o golli rhywun agos. Mae gwefan The Good Therapy yn argymell pethau fel tanio cannwyll, gwylio’u hoff ffilm neu roi rhodd i elusen roeddent yn ei gefnogi. Syniadau defodau pellach yma.
Gobeithiwn y bydd y cyngor a’r dolenni uchod yn fuddiol i ti yn y cyfnod anodd yma. Cofia bod yn garedig i dy hun. Gwna’r hyn rwyt ti’n teimlo sydd orau i ti yn ystod y Nadolig cyntaf hebddynt.

Galwa Meic
Os wyt ti’n cael trafferth ymdopi gyda galar dros y Nadolig, neu os oes unrhyw beth arall hoffet ti gael cyngor neu wybodaeth amdano, yna gallet ti siarad â Meic.
Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) neu sgwrsio ar y we yn rhad ac am ddim.