x
Cuddio'r dudalen

Cyngor i Rai Dan 18 Os Nad Yw’n Bosib Aros Gartref

Mae rhannu cartref pan fydd perthnasau dan straen yn gallu bod yn anodd iawn beth bynnag, ond yn fwy fyth yn y cyfnod yma o gyfyngiadau Covid-19. Yn yr erthygl yma byddem yn edrych ar beth i wneud os wyt ti o dan 18 oed a ddim yn gallu aros gartref, neu ei bod yn anniogel i ti aros.

Dyma ran 2 o 3 mewn cyfres o erthyglau yn edrych ar dai a pherthnasau yn ystod Covid-19. Yn Rhan 1 mae gennym awgrymiadau ar sut i ddod ymlaen yn well gyda’r bobl sydd yn byw gyda thi. Yn Rhan 3 rydym yn edrych ar beth i’w wneud os wyt ti dros 18 oed a ddim yn gallu byw gartref.

 ———

To read this article in English, click here

I ddarllen mwy o’n cynnwys Covid-19, clicia yma.

Os ydy dy brofiad di yn un llawer gwaeth nag beth fydda’n cael ei ystyried yn arferol neu’n dderbyniol, fel ffraeo parhaus, angharedigrwydd gormodol neu ymddygiad ymosodol, efallai dy fod di’n meddwl am sut gallet ti newid dy sefyllfa.

Mae’r cyfyngiadau presennol yn golygu bod llai o opsiynau yn nhermau newid ble rwyt ti’n byw, ond gallet ti ddechrau ymchwilio pa fath o gymorth gallai fod yn agored i ti os wyt ti’n teimlo bod hyn yn rhywbeth sydd angen digwydd. Mae’r gefnogaeth sydd ar gael yn ddibynnol ar dy oedran a dy amgylchiadau presennol. Os wyt ti o dan 18 ac yn cael dy niweidio gan rywun sydd yn byw gyda thi, mae posib cael cymorth gan y gwasanaethau a’r llinellau cymorth canlynol:

Gwasanaethau Plant

Yn cael ei redeg gan gynghorau lleol a’i staffio gan weithwyr cymdeithasol. Mae ganddynt linell ffôn arbennig i ti (neu rywun arall ar dy ran) gysylltu i ddweud beth sy’n digwydd gartref. Mae’n rhaid i’r Gwasanaethau Plant ymateb i adroddiadau o niwed neu gamdriniaeth tuag at blant neu bobl ifanc. Fel arfer byddant yn siarad gyda thi a’r bobl rwyt ti’n byw â nhw i weld os oes ffordd i wella’r sefyllfa. Os ydynt yn credu nad yw’n ddiogel i ti aros gartref, efallai byddant yn gofyn os gall aelod o’r teulu ofalu amdanat ti. Os nad yw hyn yn bosib efallai mai’r opsiwn nesaf yw cartref maeth. Gallet ti aros nes bydd yn ddiogel i ti ddychwelyd adref, neu pan fyddi di’n ddigon hen i fyw’n annibynnol. Cysyllta â’r cyngor lleol am rif ffôn.

Opsiynau Tai (os wyt ti’n 16 neu 17)

Mae’n rhaid i adrannau tai lleol a Gwasanaethau Plant helpu rhai 16 a 17 oed sydd mewn perygl o ddigartrefedd. Cysyllta â’r cyngor lleol am y rhif ffôn.

Meic

Mae Meic yn llinell gymorth ddwyieithog i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. Gallet gysylltu â’n cynghorwyr os wyt ti eisiau siarad am rywbeth sydd yn digwydd gartref sydd yn gwneud ti’n anhapus. Mae Meic yn gyfrinachol ond os wyt ti’n dweud rhywbeth sydd yn achosi i ni boeni am dy ddiogelwch yna bydd rhaid hysbysu Gwasanaethau Plant (gweler uchod). Os ydym yn credu dy fod di mewn perygl mawr bydd rhaid gadael i’r heddlu wybod. Mae gennym gyfrifoldeb i gadw ti’n ddiogel.

Galwa: 080 880 23456       Tecstia: 84001         Sgwrsio ar-lein: www.meic.cymru

Childline

Mae Childline yn llinell gymorth sydd yn gallu helpu os wyt ti’n profi niwed.

Galwa: 0800 1111

Heddlu

Os wyt ti’n poeni am dy ddiogelwch ac mewn perygl mawr o niwed neu gamdriniaeth yna galwa’r heddlu ar 999. Os ydynt yn credu dy fod di mewn perygl byddant yn dod i dy gartref. Byddant hefyd yn dweud wrth Wasanaethau Plant eu bod wedi bod draw.

Bydda’n amyneddgar

Os nad yw dy sefyllfa byw yn cael ei ystyried fel argyfwng sydd angen ymateb syth, mae’n annhebygol bydd posib newid ble rwyt ti’n byw mor sydyn ag yr hoffet ti. Gall gymryd wythnosau, misoedd weithiau, i Wasanaethau Plant a/neu Wasanaethau Tai i gael yr holl wybodaeth sydd ei angen i wneud penderfyniad am yr hyn sydd angen digwydd nesaf.

Tra rwyt ti’n disgwyl i gyfarfod gyda nhw, beth am ddefnyddio’r amser i baratoi ar gyfer cyfarfodydd neu gyfweliadau:

  • Ysgrifenna ddatganiad am yr hyn sydd yn gwneud ti’n anhapus gartref – cynnwys crynodeb neu fanylion am unrhyw niwed neu gamdriniaeth
  • Os wyt ti dros 16 byddant yn gofyn am brawf ID felly chwilia amdanynt yn barod. Gall fod yn dystysgrif geni; pasbort; trwydded gyrru; cerdyn meddygol; cyfriflen banc gyda dy gyfeiriad
  • Os wyt ti dros 16 ac yn chwilio am help oherwydd bod perthynas gyda rhieni neu ofalwyr wedi chwalu, ceisia gael llythyr ganddynt yn cadarnhau hyn – os yw’n ddiogel i ti wneud hynny

Mae’r wybodaeth uchod i blant a phobl ifanc o dan 18 oed. Os wyt ti’n hŷn nag 18 yna dyma’r cyngor i ti:

Os nad yw pethau mor ddrwg â’r sefyllfa uchod, ac angen cyngor wyt ti ar sut i ddod ymlaen yn well gyda’r bobl rwyt ti’n byw â nhw, yna edrycha ar yr erthygl yma: