x
Cuddio'r dudalen

Sut i Ymdopi Gyda Straen

Mae straen yn beth normal ym mywyd bob dydd y mwyafrif o bobl ac er nad yw’n teimlo fel hynny weithiau, mae ychydig o straen yn gallu bod yn iach ac yn ysgogi rhywun. Ond gall straen fod yn broblem os nad wyt ti’n gallu ymdopi ac mae’n cael effaith ar dy iechyd emosiynol neu gorfforol.

To read this article in English, click here.

Gall straen positif roi hwb o adrenalin sydd yn gallu bod o gymorth i orffen dy waith cwrs mewn amser neu orffen gyntaf mewn ras. Straen negyddol ydy pan fydd sefyllfa neu ddigwyddiadau yn rhoi gormod o bwysau arnat ti, fel symud ysgol, rhieni’n ffraeo, poeni am arian neu salwch yn y teulu. Mae hyd yn oed pethau neis fel priodasau, baban newydd neu wyliau yn gallu achosi straen negyddol. Pan fydd straen negyddol yn digwydd, mae angen i rywbeth newid.

Ydy straen yn broblem iechyd meddwl?

Nid yw’n gyflwr seiciatrig wedi ddiagnosio, ond mae’r gweithwyr meddygol proffesiynol yn credu bod straen yn gallu achosi problemau iechyd meddwl fel pryder neu iselder. Mae straen hefyd yn gallu gwneud y broblem yn waeth os yw pobl yn cael trafferth ymdopi. Mae problemau iechyd meddwl fel pryder, iselder neu anhwylder personoliaeth ffiniol yn gallu achosi straen hefyd: y pwysau o gymryd meddyginiaeth, trefnu a mynychu apwyntiadau meddygol ac ati.

Sut effaith mae straen yn ei gael arnom?

Mae straen yn gallu effeithio rhywun yn emosiynol (ein meddwl) ac yn gorfforol (ein corff). Mae hyn yn gallu cael effaith ar ein hymddygiad, fel cael trafferth gwneud penderfyniadau, colli tymer gyda phobl, cnoi ewinedd, bwyta gormod neu ddim digon ac yn ddagreuol.

Mae symptomau emosiynol yn gallu gwneud rhywun yn bigog, yn ymosodol, yn ddiamynedd, meddyliau’n rasio, yr anallu i ddiffodd, diffyg hiwmor, teimlad o esgeuluso, unigrwydd a syniadau hunanladdol.

Gall symptomau corfforol gynnwys anadlu’n ddofn, goranadlu, pyliau o banig, tyndra cyhyrau, blinder, cur pen, poen yn y frest, problemau bola fel rhwymedd neu ddolur rhydd, teimlo’n sâl a phendro.

Pam bod rhai’n ymdopi’n well nag eraill?

Mae pawb yn wahanol. Mae faint o straen rwyt ti’n ei deimlo mewn sefyllfaoedd gwahanol yn ddibynnol ar sawl peth:

Sut rydym yn gweld pethau – mae gan bawb brofiadau gwahanol ac yn teimlo’n wahanol am eu hunain. Mae rhai pobl yn fwy positif yn naturiol, bydd rhai wedi ymdopi gyda sefyllfaoedd anodd yn barod, a rhai yn fwy gwydn. Mae gwydnedd yn helpu lot, ac yn rhywbeth sydd yn gallu cael ei ddysgu, darganfydda’ fwy yma.

Pwysau eraill – mae ymdopi gydag un sefyllfa straenus yn ddigon drwg, ond os oes 2 neu 3 peth gwahanol yn achosi straen, yna gall fod yn anoddach ymdopi ag ef.

Cefnogaeth – Os nad wyt ti’n derbyn cefnogaeth gan rieni, ffrindiau, athrawon ayb. yna mi all hyn achosi mwy o straen. Mae cael cefnogaeth dda yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r ffordd rydym yn ymdopi.

Beth i wneud i ymdopi gyda straen?

Mae yna lawer o bethau gellir ei wneud i ymdopi gyda gormod o straen. Y peth cyntaf i wneud ydy darganfod beth sy’n achosi’r straen. Ydy hyn yn gyfuniad o sawl peth bach na fydda’n fater enfawr ar ben ei hun? Neu un peth yn unig (sefyllfa neu berson) ydy’r broblem?

Pan rwyt ti’n ymwybodol o’r pethau sy’n achosi’r straen yna gallet ti feddwl sut i newid pethau. Nid yw hyn yn hawdd bob tro, a ddim yn bosib bob tro chwaith. Os yw person yn achosi straen i ti – yna cadwa draw. Os yw sefyllfa yn yr ysgol yn achosi straen, gofynna am gymorth ffrindiau, teulu, athrawon. Mae pawb angen help weithiau.

Bydd rhai sefyllfaoedd yn achosi lefel penodol o straen bob tro a gall hyn fod yn anodd osgoi. Y peth pwysicaf ydy gwybod sut i ymdopi gyda straen, a darganfod ffyrdd i’w reoli.

myfyrdod ffordd o ymdopi gyda straen

15 o Awgrymiadau i Leihau Straen


  1. Balans gwaith/bywyd – dysgu i ddweud na os oes gen ti ormod ymlaen
  2. –<>–
  3. Treulio amser gyda phobl sy’n gwneud ti’n hapus
  4. –<>–
  5. Gwylio ffilm, gwrando ar gerddoriaeth, chwarae gemau bwrdd, cael llyfr lliwio
  6. –<>–
  7. Ymlacio yn y bath gyda llyfr neu gylchgrawn da, canhwyllau a bom bath neu eistedd yn yr ardd gyda’r haul ar dy wyneb
  8. –<>–
  9. Cychwyn hobi newydd – mae dysgu rhywbeth newydd yn gallu rhoi ffocws gwahanol ac atal ti rhag poeni gormod.
  10. –<>–
  11. Ymarfer corff – ffordd wych i leihau straen – cer i’r gampfa, dawnsio, pêl droed, yoga, rhedeg neu gerdded – darganfydda’ Parkrun lleol yma
  12. –<>–
  13. Cael gwared â’r dyfeisiau am un noson – swnio’n ofnus ond gallet ti osgoi’r straen o edrych ar fywydau ar-lein ‘perffaith’ pobl eraill
  14. –<>–
  15. Cysgu – mae noson dda o gwsg yn gwneud gwahaniaeth mawr – rho’r dyfeisiau i lawr o leiaf hanner awr cynt
  16. –<>–
  17. Clirio’r annibendod – byddi di’n teimlo bodlonrwydd, trefn a rheolaeth
  18. –<>–
  19. Diet iach, cytbwys – gwella iechyd, edrych a theimlo’n well a bod yn fwy hyderus
  20. –<>–
  21. Meddwl yn bositif – gall penderfynu meddwl yn bositif helpu – fe ddoi di i arfer gweld y positif mewn sefyllfa ac yn teimlo llai o straen
  22. –<>–
  23. Chwerthin yw’r feddygaeth orau – dewisa’r pethau ti’n ei wneud yn ddoeth – Pobl Hapus, Ffilmiau Hapus, Cerddoriaeth Hapus, Cyfryngau Cymdeithasol Hapus ayb.
  24. –<>–
  25. Anadludysga dechnegau anadlu syml
  26. –<>–
  27. Myfyrio ymwybodol (mindfulness)/myfyrdod/yoga – mae’r technegau yma yn gweithio i rai – syniadau yma
  28. –<>–
  29. Siarad – dweud wrth bobl am y ffordd ti’n teimlo – efallai gallant helpu.

Er rhoi tro ar y pethau yma, weithiau byddi di’n parhau i deimlo straen. Bydda’n garedig i ti dy hun. Mae pawb yn ddynol ac mae’n rhaid i ti wneud y pethau pwysig i wneud i ti deimlo’n well. Weithiau mae llefain, cwtsh mawr, neu edrych ar luniau ci bach ciwt yn gallu gwneud pethau ymddangos yn well. Yn anffodus, nid oes gwialen hud, ond mae gwybod beth sydd yn achosi’r straen a gwybod beth allem ni ei wneud ein hunain i reoli’r lefelau straen yn bwysig iawn. Gobeithiwn fod rhai o’r syniadau uchod yn helpu.


Galwa Meic

Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am fater iechyd meddwl, gall Meic gyfeirio ti at y lle cywir i gael yr help sydd ei angen arnat. Os oes rhywbeth arall yn dy boeni (nid oes rhaid iddo fod yn fater iechyd meddwl) yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.