x
Cuddio'r dudalen

Cyngor i Rai Dros 18 Os Nad Yw’n Bosib Aros Gartref

Mae rhannu cartref pan fydd perthnasau dan straen yn gallu bod yn anodd iawn beth bynnag, ond yn fwy fyth yn y cyfnod yma o gyfyngiadau Covid-19. Yn yr erthygl yma byddem yn edrych ar beth i wneud os wyt ti dros 18 oed a ddim yn gallu aros gartref, neu ei bod yn anniogel i ti aros.

Dyma ran 3 o 3 mewn cyfres o erthyglau yn edrych ar dai a pherthnasau yn ystod Covid-19. Yn Rhan 1 mae gennym awgrymiadau ar sut i ddod ymlaen yn well gyda’r bobl sydd yn byw gyda thi. Yn Rhan 2 rydym yn edrych ar beth i’w wneud os wyt ti dan 18 oed a ddim yn gallu byw gartref.

To read this article in English, click here

I ddarllen mwy o’n cynnwys Covid-19, clicia yma.

Os ydy dy brofiad di yn un llawer gwaeth nag beth fydda’n cael ei ystyried yn arferol neu’n dderbyniol, fel ffraeo parhaus, angharedigrwydd gormodol neu ymddygiad ymosodol, efallai dy fod di’n meddwl am sut gallet ti newid dy sefyllfa.

Mae’r cyfyngiadau presennol yn golygu bod llai o opsiynau yn nhermau newid ble rwyt ti’n byw, ond gallet ti ddechrau ymchwilio pa fath o gymorth gallai fod yn agored i ti os wyt ti’n teimlo bod hyn yn rhywbeth sydd angen digwydd. Os wyt ti’n hŷn nag 18 ac yn cael dy gam-drin neu dy niweidio gan rywun sydd yn byw gyda thi, mae posib cael cymorth gan y gwasanaethau a’r llinellau cymorth canlynol:

Opsiynau Tai

Mae gan bob cyngor dîm Opsiynau Tai sydd yn gallu rhoi cyngor a gwybodaeth tai. Galwa’r cyngor lleol.

Shelter Cymru

Mae Shelter yn elusen tai sydd yn helpu atal a lleihau digartrefedd.

Galwa: 0808 178 1120

Heddlu

Os wyt ti mewn perygl mawr galwa’r heddlu ar 999. Os wyt ti eisiau adrodd achosion niweidio neu gamdriniaeth i’r heddlu galwa 101.

Meic

Mae Meic yn llinell gymorth ddwyieithog i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. Gallet gysylltu â’n cynghorwyr os wyt ti eisiau siarad am rywbeth sydd yn digwydd gartref sydd yn gwneud ti’n anhapus. Mae Meic yn gyfrinachol ond os wyt ti’n dweud rhywbeth sydd yn achosi i ni boeni am dy ddiogelwch yna bydd rhaid hysbysu Gwasanaethau Plant (gweler uchod). Os wyt ti’n dweud rhywbeth sydd yn gwneud i ni boeni am dy ddiogelwch byddem yn helpu ti i ddarganfod gwasanaethau gall gynnig cymorth penodol.

Galwa: 080 880 23456                   Tecstia: 84001                   Sgwrsio ar-lein: www.meic.cymru

Byw Heb Ofn

Mae Byw Heb Ofn yn llinell gymorth camdriniaeth ddomestig yng Nghymru.

Galwa: 0808 80 10 800

Bydda’n amyneddgar

Os nad yw dy sefyllfa byw yn cael ei ystyried fel argyfwng sydd angen ymateb syth, mae’n annhebygol bydd posib newid ble rwyt ti’n byw mor sydyn ag yr hoffet ti. Gall gymryd wythnosau, misoedd weithiau, i Wasanaethau Tai i gael yr holl wybodaeth sydd ei angen i wneud penderfyniad am yr hyn sydd angen digwydd nesaf.

Mae’r wybodaeth uchod i bobl ifanc dros 18. Os wyt ti’n iau nag 18 yna dyma’r cyngor i ti:

Os nad yw pethau mor ddrwg â’r sefyllfa uchod, ac angen cyngor wyt ti ar sut i ddod ymlaen yn well gyda’r bobl rwyt ti’n byw â nhw, yna edrycha ar yr erthygl yma: