Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl Yn Arbennig i Ti

Mae Meic wedi ei gynnwys fel adnodd mewn Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl datblygwyd gan Lywodraeth Cymru.
To read this article in English, click here
I ddarllen mwy o’n cynnwys Covid-19, clicia yma.
Gellir cael mynediad i’r pecyn cymorth yn hawdd trwy Hwb, y platfform digidol ar gyfer dysgu ac addysgu yng Nghymru. Mae hwn yn llwyfan cyfarwydd yn barod i rai sydd yn mewngofnodi i’w cyfrif adref i dderbyn a chwblhau gwaith ysgol ar-lein yn y cyfnod yma.
Rhywbeth i bawb
Mae yna chwe chategori i’r Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl Pobl Ifanc:
- Coronafeirws a’ch lles
- Argyfwng
- Gorbryder
- Hwyliau isel
- Cadw’n Iach
- Profedigaeth a cholled
Bydd pob un o’r categorïau yma yn rhoi rhestr o wefannau ac apiau hunangymorth, llinellau cymorth a phethau eraill gall helpu i gefnogi iechyd meddwl a llesiant.
I gael mynediad i’r pecyn cymorth clicia yma. Gall unrhyw un gael mynediad i’r pecyn, nid oes angen mewngofnodi i gyfrif Hwb i’w weld.
Ymateb i’r pandemig coronafeirws
Wedi’i lansio ar gyfer pobl ifanc 11-25 oed gan Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, a Vaughan Gething, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Bwriad y pecyn cymorth ydy ymateb i’r effaith gall Covid-19 ei gael ar lesiant emosiynol a meddyliol yn y cyfnod heriol yma.
Mae’r pecyn yn hawdd ei ddefnyddio ac yn casglu rhestr o adnoddau at ei gilydd ymhob categori, gyda disgrifiad byr o’r hyn mae pob gwasanaeth yn ei ddarparu a dolen i’r gwasanaeth.
Bydd y pecyn cymorth yn cael ei ddiweddaru ac yn datblygu i unrhyw newidiadau fel sydd ei angen.
Siarada â Meic
Mae Meic yn rhywun ar dy ochr di. Os ydy pethau’n anodd ac rwyt ti angen siarad â rhywun neu os oes gen ti gwestiwn am rywbeth yna gallet ti gysylltu â Meic yn gyfrinachol ac am ddim ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar-lein rhwng 8yb a hanner nos, bob dydd o’r flwyddyn. Gallem siarad am dy opsiynau a helpu ti i ddarganfod y llwybr gorau ymlaen.
