x
Cuddio'r dudalen

Bwlio Neu Dynnu Coes?

Mae’n ffîn denau rhwng tynnu coes (“banter”) a bwlio. Mae’r gair “banter” ei hun yn deillio o strydoedd Llundain, ac yn golygu’r cyfnewid chwareis rhwng cyfeillion neu ffrindiau”. Gall tynnu coes fod yn rhywbeth bositif: gall arwain at berthnasau cryf, ac hwyl a sbri.

(Gellir darllen yr erthygl yma yn Saesneg hefyd – To read this content in English, click here)

Ond, rydyn ni gyd a’r allu i frifo teimladau rhywun arall, neu eu pechi heb feddwl gwneud, felly mae’n rhaid i ni fod yn ofalus o’r pethau rydyn ni’n dweud a’r effaith caiff hyn ar berson arall. Dydy hyn ddim yn hawdd: nid yw profiadau pawb yr un peth, felly gall pobl cael ei ypsetio gan pethau gwahanol.


Er mwyn cyfri fel tynnu coes, a nid bwlio, mae’n bwysig bod pawb sy’n cael eu cynnwys yn y “banter” yn mwynhau’r cyfnewid. Os yw rhywun yn chwerthin ar y pethau rwyt ti’n dweud amdanynt, mae’n debygol nad ydynt wedi cymryd drwg o’r peth (ond cofiwch bod rhai yn chwerthin er mwyn cuddio’r poen maen nhw’n teimlo).

Os yw pawb yn mwynhau, mae’n “banter”. Ond os yw unrhyw un yn teimlo’n drwg am y peth, mae’n bwlio.

Os yw rhywun yn ymateb yn negyddol i’r hyn dwedaist, paid ceisio newid eu meddwl neu cyfiawnhau dy eiriau. Yn lle, ceisiwch gofio i beidio son am y peth eto, achos mae’n amlwg nad ydynt yn gyfforddus yn trafod y pwnc yna. (Gallwch hefyd ofyn i’ch ffrindiau eraill i weld os ydyn nhw’n cytuno bod hi’n ansensitif.)

Hefyd, os yw rhywun yn gwneud hwyl am ben rhywun arall am eu nodweddion (eu sbectol newydd) neu profiadau (y tro wnaethon nhw camu mewn baw ci), mae’n bosib eu bod nhw’n teimlo bod nhw’n cael eu bwlio, hyd yn oed os nad oedd hyn yn fwriadol.

Nid yw bwlio wastad yn gorfforol

Mae unrhyw ymddygiad sy’n achosi boen i rhywun arall yn bwlio. Er enghraifft: galw enwau ar rhywun, cario clecs, bygwth neu tanseilio nhw. Gall ddigwydd unrhywe le, i unrhyw un, ar unrhyw adeg.

Os yw un person yn targed pob amser, mae hynny’n arwydd sicr o fwlio. Os yw pawb yn cael tro ac yn cymryd rhan, mae hynny’n “banter”.

Mae’n bwysig bod pawb yn deall y gwahaniaeth rhwng fwlio a banter, fel ein bod ni’n gallu bod yn gwrtais ac yn ymwybodol o’r bobl sydd o’n cwmpas.

Os wyt ti’n teimlo bod rhywun yn dy fwlio di, siarada â rhywun. Weithiau, mae’n rhaid i bobl clywed bod y pethau maen nhw’n ei ddweud neu’n gwneud yn achosi poen, codi ofn neu’n sarhau rhywun arall. Am wybodaeth bellach, edrycha ar Sut i Ymdopi Gyda Bwlio a chysyllta â Meic.