Gwneud Rhywbeth Caredig ar Wythnos Gwrth-Fwlio
Thema Wythnos Gwrth-Fwlio (15-19 Tachwedd) eleni ydy Un Gair Caredig, yn annog pobl i fod yn garedig a’i gilydd. Rydym am edrych pam bod yr wythnos hon yn bwysig ac yn rhannu ychydig o syniadau am bethau caredig gallet ti ei wneud.
This article is also available in English – to read this content in English – click here
Beth ydy Wythnos Gwrth-Fwlio?
Mae Wythnos Gwrth-Fwlio yn cael ei drefnu gan yr Anti-Bulling Alliance i godi ymwybyddiaeth o fwlio ac i annog pawb i fod yn fwy caredig a gwneud yr hyn y gallem i helpu atal bwlio. Mae’r wythnos yn cael llawer o sylw ar y teledu, mewn papurau newydd, ar wefannau neu yn y Senedd hyd oed ac efallai byddi di’n gwneud gwaith ar y thema yma yn yr ysgol hefyd.
Pam bod hyn yn bwysig?
Mae ymchwil sydd wedi ei rannu gan yr Anti-Bullying Alliance yn dangos bod 30% o blant wedi cael eu bwlio yn y flwyddyn ddiwethaf, ac 17% o’r rhain yn cael eu bwlio ar-lein. Mae’r ymchwil hefyd yn datgan bod 1 plentyn ymhob dosbarth yn cael profiad o fwlio bob dydd. Mae’n brofiad mor gyffredin fel dy fod di’n debygol iawn o fod wedi ei weld yn digwydd, bod hynny yn dioddef o fwlio dy hun, yn gweld rhywun yn cael ei fwlio neu wedi cymryd rhan mewn ymddygiad bwlio dy hun.
Mae bwlio yn gallu cael effaith negyddol ar lawer o bethau, gan gynnwys iechyd meddwl a chorfforol, perthnasau gydag eraill a rhagolygon y dyfodol weithiau.
Beth wyt ti’n gallu gwneud?
Beth am ddefnyddio Wythnos-Gwrth Fwlio i wneud addewid:
- Dweud wrth rywun os wyt ti’n cael dy fwlio – dweud wrth rywun gallet ti ymddiried ynddynt
- Paid gwylio rhywun yn cael ei fwlio a gwneud dim – anoga nhw i siarad gyda rhywun gall helpu
- Paid dweud neu wneud pethau sydd yn gallu brifo pobl eraill – chwilia am help os wyt ti’n teimlo bod gen ti broblem sydd yn gwneud i ti ymddwyn fel hyn
Gall un gair caredig neu weithred fach o garedigrwydd wneud gwahaniaeth mawr i ddiwrnod rhywun, efallai mai’r caredigrwydd bach yma fydd y peth gorau ddigwyddodd iddyn nhw’r diwrnod/wythnos/mis hwnnw. Mae’n gallu gwneud i ti deimlo’n dda hefyd. Nid oes rhaid i garedigrwydd gostio dim. Beth am edrych ar rai o’r syniadau yma a dewis ychydig ohonynt i’w cyflawni’r wythnos hon?
- Gadael sylwad positif ar bost cyfryngau cymdeithasol rhywun
- Canmol rhywun
- Gwenu a dweud helo
- Cynnig rhannu snac
- Ysgrifennu llythyr neis neu yrru cerdyn
- Gyrru neges i ffrind yn dweud beth rwyt ti’n hoffi amdanynt
- Creu rhestr chwarae cerddoriaeth i rywun
- Coginio pryd o fwyd neu wneud paned
- Galw draw neu ffonio rhywun sydd yn unig
- Cynnig helpu rhywun
- Gyrru neges i rywun ar ôl cyrraedd adref i ddweud faint rwyt ti wedi mwynhau treulio amser â nhw
- Rhoi benthyg llyfr rwyt ti wedi ei fwynhau
- Os wyt ti’n gweld rhywun ar ben ei hun, gofynna a ydynt eisiau ymuno â chi
- Dweud sori wrth rywun rwyt ti wedi bod yn gas iddynt
- Cysyllta gyda hen ffrind
- Gwranda ar rywun a dangos bod gen ti ddiddordeb yn yr hyn maent yn ei ddweud
- Creu anrheg i rywun heb reswm
- Rhoi cwtsh i rywun (cofia gadw’n ddiogel gyda Covid)
- Gofyn i rywun ddod i glwb ar ôl ysgol/sinema/caffi gyda thi
- Cefnoga rhywun i wneud rhywbeth maen nhw ofn
- Os yw rhywun yn edrych yn swil ac ar ben ei hun, siarada gyda nhw
- Cefnoga rhywun i fynd i siarad gydag oedolyn os oes ganddynt broblem
Galwa Meic
Mae gan Meic flog defnyddiol yn dweud wrtha ti y camau i’w cymryd os wyt ti’n cael dy fwlio. Os wyt ti’n poeni am fwlio, neu os oes unrhyw beth arall yn dy boeni di, yna cysyllta â Meic. Gall ein cynghorwyr cyfeillgar helpu. Ffonia (080880 23456) gyrra neges tesun (84001) neu sgwrsia gyda ni ar-lein.