x
Cuddio'r dudalen

Ymgyrch Arholiadau Meic

Mae llawer ohonoch yn sefyll arholiadau eleni. Mae gan Meic lawer o flogiau a chyngor i helpu ti yn y cyfnod yma.

Cer i weld y blogiau yma:

Logo Lefel Nesa ar gyfer blog ymgyrch arholiadau Meic

Lefel Nesa

Cer draw i wefan Lefel Nesa i gael canllawiau arholiadau ac asesu, cyngor gyrfaoedd ac awgrymiadau lles ar gyfer dysgwyr yng Nghymru. Mae Gyrfa Cymru, E-sgol, Cymwysterau Cymru, CBAC a Llywodraeth Cymru wedi gweithio mewn partneriaeth i ddarparu llawer o adnoddau ychwanegol i helpu dysgwyr sydd yn cymryd arholiadau ac asesiadau eleni.

Manylion cyswllt Meic ar gyfer blog ymgyrch arholiadau Meic

Cysyllta â Meic

Mae arholiadau ac asesiadau yn gallu bod yn anodd ar unrhyw un. Weithiau efallai byddet ti’n hoffi siarad am bethau gyda rhywun fel nad yw pethau yn dod yn ormod o bwysau. Mae Meic yma i ti bob dydd rhwng 8yb a hanner nos. Bydd ein cynghorwyr cyfeillgar yn gwrando ac yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth gyfrinachol ac am ddim. Cysyllta ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we.