x
Cuddio'r dudalen

Arholiadau – Beth i’w Ddisgwyl ar y Diwrnod

Efallai mai dyma’r tro cyntaf i ti sefyll arholiad. Dyma ganllaw fydd yn helpu ti i ddeall beth fydd yn digwydd, fel dy fod di’n gallu paratoi ar gyfer diwrnod arholiad.

Mae gan Meic lawer o flogiau a chyngor i helpu ti trwy gyfnod yr arholiadau – cer yma i weld.

Offer ysgol fel llyfrau nodiadau, beiros, cyfrifiannell, cês pensiliau - ar gyfer blog Beth i’w Ddisgwyl ar Ddiwrnod Arholiadau

Beth i fynd gyda thi i’r arholiad

Rwyt ti angen sicrhau bod gen ti’r offer cywir ar gyfer yr arholiad. Mae angen pethau gwahanol yn ddibynnol ar y pwnc, fel:

  • Beiros du
  • Pensiliau
  • Miniwr
  • Rhwbiwr
  • Pren mesur
  • Amlygwr (highlighter)
  • Cwmpawd
  • Onglydd
  • Cyfrifiannell gwyddonol (ar gyfer arholiad cyfrifiannell yn unig)

Syniad da fydda roi pethau mewn cês pensiliau clir fel bod popeth gyda’i gilydd. Tyrd a phethau sbâr gyda thi hefyd, rhag i’r beiro orffen neu dorri.

Tyrd a photel dŵr clir i’r neuadd arholiad. Os wyt ti’n defnyddio potel blastig dafladwy, bydd angen tynnu’r label cyn mynd i’r neuadd.

Cyn mynd i’r neuadd arholiad, gwagia dy bocedi o unrhyw beth sydd ddim ei angen, gan gynnwys offer electroneg a nodiadau. Bydd yr athrawon yn dweud wrthyt ble i roi dy gôt, bag ac unrhyw eiddo fel arall.

Cartŵn bachgen yn sefyll o flaen amserlen enfawr ar gyfer blog Beth i’w Ddisgwyl ar Ddiwrnod Arholiadau

Cyn yr arholiad

Edrycha ar dy amserlen arholiadau eto i sicrhau bod y dyddiad a’r amser cywir gen ti.

Ateba ychydig o gwestiynau i ymarfer, neu lenwi hen bapurau arholiad – mae’n ffordd dda i ddeall beth i’w ddisgwyl ar y diwrnod.

Mae’n syniad ceisio cofio dy rif ymgeisydd. Mae hwn yn rif pedwar digid bydd angen ei roi, ynghyd â dy enw, ar bob papur arholiad. Paid poeni os wyt ti’n anghofio’r rhif, gallet ti ofyn i rywun.

Ffôn clyfar mewn cylch coch gyda llinell drwyddo (fel arwydd stop) ar gyfer blog Beth i’w Ddisgwyl ar Ddiwrnod Arholiadau

Ar ddiwrnod yr arholiad

Mae arholiadau yn gallu bod yn hir, felly deffra mewn digon o amser i fwyta brecwast iach sydd yn danwydd i’r corff a’r meddwl.

Ceisia gyrraedd yr arholiad yn fuan fel nad wyt ti’n teimlo’r straen o fod yn hwyr. Unwaith i ti gyrraedd y lleoliad, edrycha ar gynllun eistedd yr arholiad a noda ble rwyt ti’n eistedd.

Mae electroneg (fel ffôn neu oriawr glyfar ayb.) wedi’u gwahardd mewn arholiad, hyd yn oed os ydynt wedi’u diffodd. Mae peryg y byddant yn stopio dy arholiad os wyt ti’n cael dy ddal, felly mae dilyn y rheol yma yn hanfodol. Cadwa unrhyw offer electroneg yn dy fag cyn yr arholiad, neu eu gadael adref.

Rwyt ti’n cael mynd i’r toiled mewn arholiad os wyt ti angen, ond mae’n well mynd cyn cychwyn yr arholiad os yn bosib.

Mae llawer o bobl yn edrych ar nodiadau cyn arholiad i geisio cramio mwy o wybodaeth. Efallai dy fod di’n meddwl bod hyn yn helpu, ond gall wneud i ti deimlo mwy o straen. Syniad gwell i ymlacio ydy anadlu’n ddofn ac yfed dŵr. Mae hyn yn gallu rhoi rhywun mewn cyflwr gwell i berfformio i’w gallu gorau.

Sicrha bod gen ti’r offer cywir a photel ddŵr yn barod i fynd i mewn i’r neuadd.

Merch mewn neuadd arholiad yn eistedd wrth ddesg gyda'i llaw i fyny ar gyfer blog Beth i’w Ddisgwyl ar Ddiwrnod Arholiadau

Yn ystod yr arholiad

Pan fyddi di’n mynd i mewn i’r neuadd arholiadau, bydd angen i ti eistedd yn y sedd wedi ei benodi i ti ar y cynllun eistedd. Ar ôl i bawb eistedd, gwranda’n ofalus ar y cyfarwyddiadau fydd yn cael eu rhoi. Bydd hyn yn cynnwys ysgrifennu dy enw llawn, rhif ymgeisydd, a rhif y ganolfan ar y papur arholiad. Byddant yn dweud beth yw rhif y ganolfan yn yr arholiad.

Byddi di’n derbyn cyfarwyddiadau ysgrifenedig ar flaen y papur, gan gynnwys hyd yr arholiad a’r offer sydd ei angen. Os nad oes gen ti rywbeth sydd ei angen, coda dy law i ofyn i oruchwyliwr (person sydd yn sicrhau bod yr arholiad yn cael ei gynnal yn gywir ac yn sicrhau bod pawb yn dilyn y rheolau).

Paid agor y papur arholiad cyn i rywun ddweud dy fod di’n cael. Byddant yn dweud wrthyt ti pan fydd hi’n amser cychwyn. Bydd cloc yn yr ystafell arholiad i ti gadw llygaid ar yr amser.

Os oes gen ti gwestiynau, angen cymorth, neu eisiau gadael yr ystafell am unrhyw reswm, coda dy law i ofyn am help. Efallai nad wyt ti’n teimlo’n dda, neu angen defnyddio’r toiled. Efallai byddant yn dy hebrwng allan o’r neuadd ac yn ôl.

Paid troi rownd, siarad, neu wneud unrhyw arwydd i unrhyw ddisgybl arall yn y neuadd arholiad.

Cymera amser i ddarllen y cwestiynau yn ofalus. Os wyt ti’n ansicr sut i ateb cwestiwn, paid mynd i banig. Symuda i’r cwestiwn nesaf, a dychwelyd i’r cwestiwn yma os oes gen ti amser wedyn.

Sicrha dy fod di’n ysgrifennu’r atebion yn glir, eu bod yn hawdd i’w darllen, ac i mewn yn y bylchau ar y papur. Os wyt ti’n rhedeg allan o amser, defnyddia’r papur yng nghefn y llyfryn arholiad neu ofyn am bapur ychwanegol.

Cofia ganolbwyntio ar dy hun yn unig. Mae’n naturiol bod eisiau edrych ar y disgyblion eraill i weld sut mae pawb yn dod ymlaen, ond gwastraff amser yw hyn.

Clock wedi osod ar 10 munud wedi 10 ar gyfer blog Beth i’w Ddisgwyl ar Ddiwrnod Arholiadau

Ar ddiwedd yr arholiad

Fel arfer maent yn rhoi rhybudd 5 munud cyn diwedd yr arholiad. Dyma gyfle da i geisio gorffen y cwestiynau, rhoi ail dro ar unrhyw rai roeddet ti wedi methu ateb, a mynd dros yr atebion.

Ar ôl i’r goruchwyliwr gyhoeddi diwedd yr arholiad, rhaid rhoi’r beiro i lawr a chau’r papur. Er mai dyma yw diwedd yr arholiad, nid wyt ti’n cael siarad â neb eto.

Bydd y goruchwylwyr yn dod o gwmpas i gasglu’r papurau. Gad unrhyw offer rwyt ti wedi’i fenthyg ar y bwrdd.

Ar ôl i’r holl bapurau gael eu casglu, rydych chi’n cael gadael y neuadd rhes wrth res. Cofia, mae rhai pobl yn cael amser ychwanegol mewn arholiadau, ac efallai byddant yn gweithio o hyd. Dangosa barch a chadw’n ddistaw nes yr wyt ti allan o’r neuadd.

Os oes gen ti amser ychwanegol ac eisiau ei ddefnyddio, rwyt ti’n cael parhau i weithio tra bydd myfyrwyr eraill yn gadael. Byddi di’n cael rhybudd 5 munud cyn diwedd yr arholiad.

Merch yn eistedd gyda ffrindiau ar y llawr yn pwyso yn erbyn wal ar gyfer blog Beth i’w Ddisgwyl ar Ddiwrnod Arholiadau

Ar ôl yr arholiad

Mae’n beth cyffredin i ddisgyblion drafod yr atebion ar ôl gadael yr arholiad, a siarad am sut aeth pethau. Weithiau gall hyn boeni rhywun os yw dy atebion di yn wahanol i rai dy ffrindiau. Cofia, dim ond yr archwilwyr fydd yn gwybod sut rwyt ti wedi dod ymlaen yn yr arholiad nes diwrnod y canlyniadau.

Hyd yn oed os wyt ti’n teimlo fel bod yr arholiad wedi mynd yn ddrwg, cymeradwya dy hun am orffen arholiad. Ceisia atgoffa dy hun nad oes dim y gallet ti ei wneud am yr arholiad nes i ti gael y canlyniadau. Mae’n well canolbwyntio ar yr arholiadau sydd gen ti’n weddill a pharatoi ar eu cyfer.

Os oes gen ti arholiad yn y prynhawn, efallai dy fod di’n awyddus i ddechrau adolygu yn syth. Cofia gymryd saib ar ôl arholiad. Rwyt ti wedi bod dan bwysau mawr am gyfnod hir felly bwyta cinio, cael diod, cer am dro i ymestyn y coesau a chael awyr iach.

Logo Lefel Nesa

Lefel Nesa

Cer draw i wefan Lefel Nesa i gael canllawiau arholiadau ac asesu, cyngor gyrfaoedd ac awgrymiadau lles ar gyfer dysgwyr yng Nghymru. Mae Gyrfa Cymru, E-sgol, Cymwysterau Cymru, CBAC a Llywodraeth Cymru wedi gweithio mewn partneriaeth i ddarparu llawer o adnoddau ychwanegol i helpu dysgwyr sydd yn cymryd arholiadau ac asesiadau eleni.

Logo a manylion cyswllt Meic

Cysyllta â Meic

Mae arholiadau ac asesiadau yn gallu bod yn anodd ar unrhyw un. Weithiau efallai byddet ti’n hoffi siarad am bethau gyda rhywun fel nad yw pethau yn dod yn ormod o bwysau. Mae Meic yma i ti bob dydd rhwng 8yb a hanner nos. Bydd ein cynghorwyr cyfeillgar yn gwrando ac yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth gyfrinachol ac am ddim. Cysyllta ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we.