x
Cuddio'r dudalen

Beth yw Eiriolaeth a Sut Gall Meic Helpu?

Wyt ti erioed wedi bod angen siarad gyda rhywun am rywbeth ond ddim yn sicr sut i gael dy bwynt drosodd yn iawn, neu ddim yn teimlo’n gyfforddus yn siarad â nhw? Mae yna rywbeth gelwir yn eiriolaeth ble gall rhywun siarad ar dy ran a helpu ti i ddweud dy ddweud. Mae hyn yn rhywbeth mae Meic yn ei gynnig.

This article is also available in English  – to read this content in English – click here

Beth yw eiriolaeth a sut gall Meic helpu?

Mae eiriolaeth yn hawl sydd gen ti fel plentyn neu berson ifanc. Mae’n helpu ti i siarad am y pethau sydd yn bwysig i ti a bod yn rhan o benderfyniadau sydd yn cael ei wneud ar dy ran. Bydd eiriolwr yn helpu ti i siarad a sicrhau bod pobl yn gwrando os yw’n anodd i ti gael rhywun i wrando arnat ti neu rwyt ti’n teimlo fel na fedri di siarad.

Os wyt ti’n cysylltu â Meic ac angen help i siarad gyda rhywun, i gael dy farn di drosodd, neu i rywun wrando arnat ti, yna gall ein cynghorwyr helpu. Maent yn gallu bod yn eiriolwr i ti a siarad gyda phobl ar dy ran gan ddefnyddio dy eiriau di. Gallem hyd yn oed creu galwad tair ffordd fel bod y tri ohonom yn gallu bod ar yr alwad gyda’n gilydd a gallem helpu ti i ddweud dy ddweud a deall yr hyn sydd yn digwydd.

Llun o fideo newydd meic ar gyfer erthygl eiriolaeth

Pa fath o eiriolaeth ydw i’n gallu cael?

Gall fod yn unrhyw beth ble rwyt ti angen help i siarad â rhywun. Efallai dy fod di’n cael dy fwlio yn yr ysgol ac rwyt ti angen help i siarad gyda’r athrawon. Efallai dy fod di eisiau gweld doctor am orbryder, ond rwyt ti’n poeni am gysylltu gyda nhw i wneud apwyntiad. Neu efallai dy fod di’n anhapus gyda rhywbeth sydd yn digwydd gyda’r gwasanaethau cymdeithasol ac rwyt ti angen help i siarad gyda rhywun.

Dim ond ychydig o esiamplau yw’r rhain. Mae yna sawl sefyllfa ble gallet ti deimlo dy fod angen help i sicrhau bod dy lais yn cael ei glywed. Gall Meic helpu gyda hyn.

Sut ydw i’n cael eiriolaeth gan Meic?

Mae posib cysylltu â Meic gydag unrhyw bryderon neu gwestiynau sydd gen ti. Bydd ein cynghorwyr yn darganfod y datrysiad gorau i ti. Gallant gynnig gwybodaeth a chyngor a gallant gynnig eiriolaeth mewn dwy ffordd. Efallai byddant yn gweithio gyda thi tuag at hunan-eiriolaeth. Byddant yn helpu ti i ddeall yr hyn rwyt ti eisiau dweud fel dy fod di’n teimlo‘n hyderus i siarad drosot ti dy hun. Neu gallant eirioli ar dy ran. Ar ôl siarad gyda thi a darganfod y pethau rwyt ti angen ei ddweud, byddant yn siarad gyda rhywun ar dy ran, gan ddefnyddio dy eiriau di, i ddweud yn union yr hyn rwyt ti eisiau. Gallet ti fod yn rhan o’r sgwrs yma gyda galwad tair ffordd os wyt ti’n dymuno.

Mae yna flogiau gwych i’w darllen ar Meic sydd yn gallu cynnig llawer o wybodaeth dda, hawdd i’w ddeall heb orfod siarad gydag un o’n cynghorwyr cyfeillgar. Efallai byddi di’n cael yr atebion rwyt ti ei angen yma. Mae posib chwilio am eiriau penodol wrth ddefnyddio’r chwyddwydr ar dop dde’r sgrin neu gallet ti fynd drwy’r blogiau yn ein hadran erthyglau.

Cer i edrych ar ein blog ‘Beth Sy’n Digwydd Pa Dwi’n Cysylltu â Meic?’ neu os wyt ti eisiau dod i adnabod ein cynghorwyr yn well cer draw i’r blog ‘Cyfweliad gyda Chynghorydd’.

Os nad wyt ti’n gallu gweld beth rwyt ti angen ar ein gwefan, neu os hoffet ti siarad â rhywun, gallet ti gysylltu â llinell gymorth Meic bob dydd rhwng 8yb a hanner nos ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar-lein. Mae’r gwasanaeth yn gyfrinachol, yn ddienw ac am ddim.

Gallet ti bwyso ar Meic am gefnogaeth bob tro – rydym wedi bod yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc ledled Cymru ers dros 10 mlynedd. Cer draw i’n blog i wylio ein fideo newydd ac i edrych ar y pethau sydd wedi bod yn digwydd dros y byd dros y 10+ mlynedd o Meic.