x
Cuddio'r dudalen

Cyngor Noson Cyn yr Arholiad

Mae arholiadau yn straen ar bawb, hyd yn oed y rhai sydd yn dweud nad ydynt yn poeni! Mae’r teimlad o straen yn ddealladwy. Rwyt ti eisiau llwyddo ond ddim yn siŵr beth fydd yn cael ei ofyn yn yr arholiad. Mae disgwyl i ti fedru canolbwyntio a chynhyrchu llwyth o waith mewn cyfnod byr. Darllena gyngor Meic am noson cyn yr arholiad isod.

Mae gan Meic lawer o flogiau a chyngor i helpu ti trwy gyfnod yr arholiadau – cer yma i weld.

Mae’r noson cyn arholiad yn gallu bod yn straen mawr. Mae dyddiad yr arholiad wedi bod yn gysgod drosot ti ers sbel, ond dyma ni o’r diwedd. Noson cyn yr arholiad ac rwyt ti’n teimlo nad wyt ti wedi astudio digon. Mae pob person ifanc sydd wedi sefyll arholiad dros flynyddoedd maith wedi teimlo fel hyn. Nid ti yw’r unig un.

Mae teimlo bod angen stwffio cymaint o adolygu â phosib yn yr oriau sydd yn weddill yn normal, ond nid dyma’r syniad gorau ar gyfer ti, dy gorff, a dy feddwl. Gall olygu nad wyt ti’n perfformio i dy allu gorau. Anaml iawn mae cramio yn gweithio. Nid yw’r meddwl yn cadw nac yn adalw gwybodaeth yn dda iawn os o dan bwysau, wedi gorflino, neu heb gael digon o faeth. Felly, dyma ychydig o gyngor i baratoi ar gyfer noson cyn arholiad.

Merch cartŵn yn symyfyrio gyda phensel yn ei llaw a phapur ysgrifennu o'i blaen - erthygl cyngor noson cyn arholiad

Cer dros y pethau rwyt ti’n gwybod

Os nad wyt ti wedi ei ddysgu eisoes, nid dyma’r amser i ddysgu gwybodaeth newydd. Nid yw’r ymennydd yn debygol o gofio gwybodaeth newydd mor hwyr â hyn, ond mae’n gallu bod yn fuddiol i adalw gwybodaeth rwyt ti wedi’i ddysgu yn barod. Dyma gyngor sut i wneud hyn:

  • Gofyn i ffrind neu aelod teulu i brofi ti gan ddefnyddio’r pethau rwyt ti wedi bod yn defnyddio i astudio. Bydd hyn yn helpu ti i adalw gwybodaeth fel sydd ei angen, gan gofio a  meddwl am nodiadau dy hun cyn arholiad yfory.
  • Ail-lunio/ysgrifennu nodiadau yn hytrach nag ail-ddarllen yn unig. Mae hyn yn helpu iddo aros yn y cof hirdymor, fel ei bod yn haws i ti eu hadalw yfory.
  • Defnyddio mapiau meddwl/pry cop yn hytrach nag cymryd nodiadau confensiynol. Mae’r ymennydd yn ymateb yn well i adalw gwybodaeth gan ddefnyddio cysylltiadau a gweledol. Gall hyn helpu ti i gofio yn well nag ysgrifennu brawddegau.
Cartŵn - Merch gyda sbectol oren a'i hymenydd yn llawn pethau (bwlb golau, darn jigsô a mwy) - erthygl cyngor noson cyn arholiad

Gofala am yr ymennydd

  • Ymarfer corff: Os yn bosib, ceisia gael ychydig o ymarfer corff yn y nos fel bod y gwaed, ocsigen a’r maeth yn pwmpio trwy’r ymennydd. Mae ymarfer corff yn gallu gwella’r cof a sgiliau datrys problem ac yn gallu helpu ti i gael noson dda o gwsg.
  • Yfed: Mae yfed digon o ddŵr yn hanfodol fel bod ein hymennydd yn gweithio i’r gallu gorau ac i helpu cadw pethau’n dawel. Mae hydradu yn bwysig! Sicrha dy fod di’n yfed digon o ddŵr (gan osgoi diodydd gyda siwgr neu gaffein).
  • Bwyta: Mae’r ymennydd angen bwyd i weithio’n iawn. Nid ryw snac fach sydyn, ond fitaminau a phrotein iach. Bwyta digon o lysiau, ychydig o gig, pysgod neu rywbeth addas i lysieuwr, noson cyn yr arholiad. Ceisia osgoi snaciau gyda gormod o siwgr. Mae siwgr yn gallu cael effaith gorfywiog ar yr ymennydd ac yn gallu lleihau’r gallu i ganolbwyntio a chadw’n llonydd.
  • Cysgu: Y peth cyntaf mae llawer o bobl yn ei aberth y noson cyn arholiad, ond mae’n un o’r pethau pwysicaf. Mae’r ymennydd angen digon o gwsg o ansawdd, neu nid yw’n gallu gweithio i’w allu gorau’r diwrnod canlynol. Mae’n normal teimlo’n bryderus y noson cynt, a gall hyn dorri ar ein cwsg weithiau. Dyna pan mae’n bwysig lleihau snaciau llawn siwgr, yfed dŵr, ac ymarfer y corff i helpu ymwared ar y teimladau pryderus yma a rhoi llonydd i’r ymennydd.
Cartŵn - Bachgen gyda her oren yn symyfyrio - erthygl cyngor noson cyn arholiad

Paratoi o flaen llaw i leihau straen yn y bore

Osgoi straen diangen a phethau sydd yn tynnu sylw yn y bore, wrth baratoi popeth y noson cynt. Meddwl am yr hyn rwyt ti eisiau gwneud yn ystod y dydd fel dy fod di’n gallu ymdawelu yn y ffaith bod popeth yn barod i fynd.

  • Casglu dy fag, dillad, cinio, diodydd, nodiadau adolygu, beiro, pensel ac ati yn barod.
  • Creu rhestr chwarae sydd yn gwneud i ti deimlo’n dda, a bod y batri’n llawn ar dy glustffonau. Beth am roi tro ar fyfyrio neu drefn meddylgarwch i gychwyn y bore yn y ffordd gywir. Rho dro ar apiau fel Calm neu Headspace i gael sesiynau wedi’u harwain.
  • Y peth pwysicaf – cer i’r gwely yn fuan. Osgoi sgriniau os yn bosib i helpu’r ymennydd orffwys a pharatoi ei hun ar gyfer y diwrnod sydd i ddod.
Cartŵn - bachgen gyda'i ben ynn ei ddwylo o flaen sgrin cyfrifiadur a sgribl dros ei ben i ddangos ei fod yn poeni - erthygl cyngor noson cyn arholiad

Mae’n normal teimlo’n bryderus neu fel bod pethau’n ormod

Mae pawb yn teimlo’n bryderus cyn arholiad. Mae hyn yn hollol normal. Mae’n wahanol i broblemau pryder hirdymor. Y peth da ydy bod yna dechnegau syml sydd yn gallu helpu gyda’r math yma o bryder sefyllfaol.

  • Adnabod yr arwyddion a chydnabod teimladau. Mae hyn yn bwysig i deimlo bod gen ti reolaeth dros y meddwl a’r corff. Gall helpu ti i ryddhau ychydig o gemegau tawelu’r meddwl.
  • Defnyddio technegau tawelu’r meddwl. Mae myfyrio a thechnegau anadlu yn gallu helpu ti i ymdopi a theimlo bod gen ti reolaeth.
  • Siarada a rhanna dy deimladau gyda theulu, ffrindiau, neu linell gymorth. Mae siarad am dy deimladau yn ffordd wych i gael y teimladau yma allan o dy ben a helpu ti i beidio teimlo fel bod pethau’n ormod. Os nad wyt ti’n teimlo’n gyfforddus yn siarad gyda ffrind neu aelod o’r teulu, mae posib cysylltu â ni yma yn Meic (manylion cyswllt isod).

Lefel Nesa

Cer draw i wefan Lefel Nesa i gael canllawiau arholiadau ac asesu, cyngor gyrfaoedd ac awgrymiadau lles ar gyfer dysgwyr yng Nghymru. Mae Gyrfa Cymru, E-sgol, Cymwysterau Cymru, CBAC a Llywodraeth Cymru wedi gweithio mewn partneriaeth i ddarparu llawer o adnoddau ychwanegol i helpu dysgwyr sydd yn cymryd arholiadau ac asesiadau eleni.

Cysyllta â Meic

Mae arholiadau ac asesiadau yn gallu bod yn anodd ar unrhyw un. Weithiau efallai byddet ti’n hoffi siarad am bethau gyda rhywun fel nad yw pethau yn dod yn ormod o bwysau. Mae Meic yma i ti bob dydd rhwng 8yb a hanner nos. Bydd ein cynghorwyr cyfeillgar yn gwrando ac yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth gyfrinachol ac am ddim. Cysyllta ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we.