x
Cuddio'r dudalen

Wythnos Caniatâd: Geiriau Caneuon Anaddas

Mae hi’n Wythnos Iechyd Rhywiol 2018 yr wythnos hon a thema’r wythnos eleni ydy Caniatâd. Yma yn Meic rydym yn rhedeg ymgyrch am yr wythnos yn edrych ar y pwnc. Byddem yn rhannu ein animeiddiadau arbennig, yn edrych ar y pwnc mewn mwy o fanylder gydag erthyglau ac yn rhannu gwybodaeth a dolenni.

(To read this article in English click here)


Yn ein hymgyrch caniatâd heddiw rydym yn edrych ar eiriau caneuon ac os gallant normaleiddio ymddygiad sydd ddim yn iach iawn pan ddaw at ganiatâd, a’r mater o ferched yn cael eu hystyried fel eiddo mewn cerddoriaeth boblogaidd.

Wyt ti’n gwrando’n astud?

Wyt ti wedi bod yn dawnsio i dy hoff gân ac yna’n clywed y geiriau… eu clywed yn iawn, a’u deall am y tro cyntaf? Beth am glywed cân o dy blentyndod oedd yn swnio’n iawn i glustiau diniwed, ond nawr dy fod di’n hŷn ti’n sylweddoli nad yw’r geiriau yn neis iawn wedi’r cwbl?

Os wyt ti’n sylweddoli bod canwr/band yn defnyddio iaith rywiaethol neu ddifrïol (derogatory) ydy hyn yn newid dy deimladau tuag at y gân neu’r artist yna? Neu ti ddim yn poeni am bethau fel yna?

Rydym wedi bod yn gwrando ar lwyth o ganeuon, yn pigo’r geiriau’n ddarnau, i’w rhannu gyda thi i glywed dy farn.

Ymuna yn y sgwrs ar ein sianel cyfryngau cymdeithasol ar Facebook a Twitter gyda #CaniatâdMeic #geiriaucânanaddas. Rhanna geiriau anaddas dy hun. Rhanna dy farn am y rhai sydd wedi’u rhannu yma. Hwyl ddiniwed neu wyt ti’n meddwl bod y math yma o ganeuon yn cael dylanwad ar rai pobl?

1. Aaliyah – Try Again

Blwyddyn cyn iddi farw mewn damwain awyren yn 2001, rhyddhawyd Try Again, sef prif sengl trac sain Romeo Must Die. Mae’n cael ei ddisgrifio fel cân am gariad, ond ydy’r gwir ychydig yn fwy sinistr? “If at first you don’t succeed… Dust yourself off and try again”. Wrth ystyried caniatâd, ydy hi’n iawn i ti barhau i fynd ar ôl rhywun os ydynt wedi rhoi ‘na’ clir i ti sawl gwaith? Ydy hi’n annog y math yma o ymddygiad?

https://www.youtube.com/watch?v=aRcAvsZgjXA

“What would you do, to get to me? What would you say, to have your way? Would you give it up or try again? If I hesitate to let you in? Now would you be yourself, or play a role? Tell all the boys, or keep it low? If I say no, would you turn away; Or play me off or would you stay? Oh. If at first you don’t succeed (first you don’t succeed); Dust yourself off, and try again; You can dust it off and try again, try again; Cause if at first you don’t succeed (first you don’t succeed); Dust yourself off, and try again; You can dust it off and try again; dust yourself off and try again, try again.”

2. Robin Thicke ft. T.I., and Pharrell Williams – Blurred Lines

Er iddo dorri sawl record, efallai bod naws niweidiol y gân yma o 2013 yn llawer mwy amlwg na rhai o’r caneuon eraill yn y rhestr. Roedd y gân yma yn eithaf dadleuol efo fideo anweddus gyda merched noeth a phobl fel Miley Cyrus yn hawlio’i rhan yn y gwarth gan rwbio’i hun yn erbyn Thicke ar lwyfan Gwobrau Fideo MTV.

Mae cyhuddiadau o ‘ misogyny’ (casineb, atgasedd neu ragfarn yn erbyn merched) a’i fod yn annog treisio dêt. Er hyn, roedd y gân yn llwyddiant ysgubol ac yn rhif 1 mewn sawl gwlad gan gynnwys Prydain ac America. Mae rhai yn honni bod llinellau fel “you know you want it”, “go ahead/get at me” a siarad am “blurred lines” yn annog y syniad nad yw na yn golygu na mewn gwirionedd. Mae eraill wedi dweud bod y gân yn sôn am roi grym i ferched. Beth ydy dy farn di?

“OK now he was close, tried to domesticate you; But you’re an animal, baby it’s in your nature; Just let me liberate you; Hey, hey, hey; You don’t need no papers; Hey, hey, hey; That man is not your maker; Hey, hey, hey. And that’s why I’m gon’ take a good girl; I know you want it (x3); You’re a good girl; Can’t let it get past me; You’re far from plastic; Talk about getting blasted; Everybody get up; I hate these blurred lines; I know you want it.”

3. RaeLynn – God Made Girls

Cafodd y gân yma, gan yr artist canu gwlad, ei ryddhau yn 2014 ar ôl iddi ddod yn enwog ar raglen The Voice yn America. Mae’n ymddangos fel bod y geiriau yn nodi bod merched yn bodoli i edrych yn ddel i’r bechgyn, yn beth rhywiol sydd yno i fodloni dynion. Wyt ti’n uniaethu efo’r gân yma neu’n wyt ti’n cyfogi wrth feddwl amdano?

“Somebody’s gotta wear a pretty skirt; Somebody’s gotta be the one to flirt; Somebody gotta wanna hold his hand so God made girls. Somebody’s gotta make ’em get dressed up; Somebody’s gotta give ’em a reason to wash that truck; Somebody gotta teach ’em how to dance so God made girls. He needed something soft and loud and sweet and proud; But tough enough to break a heart; Something beautiful and breakable that lights up in the dark. So God made girls; God made girls he stood back and told the boys; I’m bout to rock your world”

4. Ed Sheeran – Shape Of You

Gall yr hyfryd Ed Sheeran ddim gwneud dim o’i le siawns? Yn ôl yn 2017 rhyddhawyd y gân hynod boblogaidd Shape Of You, yn sôn am gyfarfod merch mewn bar ac yn treulio’r noson gyda hi.. Mae rhai pobl yn feirniadol gan ddweud bod y cân yn amharchus tuag at ferched, yn canolbwyntio ar ei chorff a’i siâp yn hytrach nag deallusrwydd a phersonoliaeth. Codi merch i fyny mewn bar, rhwbio’u cyrff yn erbyn ei gilydd wrth ddawnsio, cysgu gyda’i gilydd – yn fwy crîpi nag rhamantus efallai?

“Girl you know I want your love; Your love was handmade for somebody like me; Come on now follow my lead; I may be crazy, don’t mind me; Say boy let’s not talk too much; Grab on my waist and put that body on me; Come on now follow my lead; Come come on now follow my lead. I’m in love with the shape of you; We push and pull like a magnet do; Although my heart is falling too; I’m in love with your body; Last night you were in my room; And now my bed sheets smell like you; Every day discovering something brand new”

5. Tom Jones – Delilah

Yn olaf ar ein rhestr mae’r Cymro hoffus Tom Jones. Mae Delilah o 1967 yn gân eiconig, yn cael ei ganu’n uchel ac yn angerddol gan gefnogwyr rygbi Cymru ac mewn tafarndai ledled y wlad. Mae’r rhan fwyaf ohonom yn gwybod rhai o’r geiriau… ond dau funud bach… beth oedd hynna? “She was my woman… I felt the knife in my hand and she laughed no more”. Ymmmm….. beth?

Felly gad i ni edrych ar hyn yn fwy manwl. Delilah oedd ei gariad. Mae’n ei gweld gyda dyn arall drwy’r ffenest felly mae’n disgwyl tan y bore, yn curo ar y drws ac yn ei thrywanu i farwolaeth! Ac rydym ni’n canu’r gân yma yn llon ar y cae rygbi! Ydy hyn ychydig yn od?

https://www.youtube.com/watch?v=S87jWwzvwd8

“I saw the light on the night that I passed by her window; I saw the flickering shadow of love on her blind; She was my woman; As she deceived me I watched and went out of my mind. My my my Delilah; Why why why Delilah; I could see, that girl was no good for me; But I was lost like a slave that no man could free. At break of day when that man drove away I was waiting; I crossed the street to her house and she opened the door; She stood there laughing; I felt the knife in my hand and she laughed no more.”


Felly dyna ti, dyma rai o’r geiriau caneuon anaddas daethom ni ar eu traws. Trafoda a rhanna rhai eraill ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol gyda #CaniatâdMeic #geiriaucânanaddas.

I ysgafnhau’r awyrgylch tipyn ar ôl yr holl rywiaeth a llofruddiaeth cawn gloi gyda A Kiss Is Not A Contract gan y doniol Flight of the Choncords. Cân wych i’w rannu yn ystod Wythnos Iechyd Rhyw.

Edrycha ar ein herthyglau eraill ar gyfer Wythnos Iechyd Rhyw: Caniatâd:

Galwa Meic

Os wyt ti’n poeni am unrhyw beth i wneud â chaniatâd, neu os oes unrhyw beth arall yn dy boeni, gallet ti gysylltu â llinell gymorth Meic am gyngor a gwybodaeth. Mae posib ffonio, gyrru neges testun neu sgwrsio ar-lein.

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.