x
Cuddio'r dudalen

Wythnos Caniatâd: Na Yw Na

Mae hi’n Wythnos Iechyd Rhywiol 2018 yr wythnos hon a thema’r wythnos eleni ydy Caniatâd. Yma yn Meic rydym yn rhedeg ymgyrch am yr wythnos yn edrych ar y pwnc. Rydym wedi creu animeiddiadau arbennig, byddem yn edrych ar y pwnc mewn mwy o fanylder gydag erthyglau ac yn rhannu gwybodaeth a dolenni. Felly, dere draw i’n gweld bob dydd, ymwela â’n sianeli cyfryngau cymdeithasol ar Facebook, Twitter ac Instagram, defnyddia’r hashnod MeicCaniatâd, a gad sylwad, hoffa a rhanna i helpu lledaenu’r neges.

(To read this article in English click here)


Felly, yn ôl at heddiw…. ‘Na’ yw ‘na’, a dyw absenoldeb ‘na’ ddim yn golygu ‘ia’! Dyma’r neges sy’n cael ei rannu heddiw gyda’n fideo parodi’r Dywysoges Hir Ei Chwsg (Sleeping Beauty). Ein bwriad ydy rhannu neges am ganiatâd rhywiol.

Tywysoges yn cysgu erthygl caniatâd

Hanes cryno o’r Dywysoges Hir Ei Chwsg

Yn y stori wreiddiol, mae Tywysoges brydferth yn cael ei melltithio i farwolaeth gan dylwyth teg drwg. Bydd yn digwydd ar ei phen-blwydd yn 16 oed wrth iddo bigo ei bys ar droell nyddu. Er nad all y tylwyth teg da stopio’r felltith, gallant ei leihau a’i newid o farwolaeth i drwmgwsg, a dim ond gyda chusan gan Dywysog gellid ei heffro. 100 mlynedd wedyn mae’r Tywysog yn dod o hyd i’w Dywysoges, yn ei heffro gyda chusan cyn priodi a byw’n hapus byth bythoedd.

Gweld y broblem?

Felly dyma ni yn y byd modern a gallem bigo’r stori wreiddiol yma’n ddarnau. Ar ôl cysgu am 100 mlynedd mae’r Dywysoges yn effro i fyd cwbl wahanol. Ar ôl hawlio ei Frenhines, mae’r Tywysog, gyda’i holl arian a’i rym, yn arwain y ferch fregus yn ôl i’w balas – a’r gwely priodasol – i gychwyn bywyd newydd. Os wyt ti’n edrych arno mewn ffordd wahanol mae’n teimlo ychydig mwy sinistr. Ble mae’r ystyriaeth am ei theimladau a’i phenderfyniadau hi?

A beth am safbwynt y Tywysog? Beth os yw’n rhoi ei hun mewn sefyllfa ble mae’n dioddef bywyd o dristwch ac unigrwydd. Sut wyddai bod y Dywysoges yn ei garu mewn gwirionedd? Efallai nad oes ganddi ddewis arall heblaw am ei gusanu a’i briodi.

Ein fersiwn fodern o’r stori

Dyma’n fersiwn modern ni o’r stori yma. Mae’n cychwyn gyda’r ffantasi, y stori dylwyth teg, gyda’r Dywysoges yn cysgu a chusan y Tywysog. Ond mae hyn yn newid i osodiad modern; bachgen ifanc mewn parti yn ei thrio gyda merch sydd wedi pasio allan ar ôl yfed gormod. Mae’r ferch yn deffro ar ôl teimlo’r gusan ac yn ymateb wrth roi slap ar foch y bachgen!

Mae’r byd modern yn un llawer mwy cyfartal, yn bell o ddyddiau castelli a Brenhinoedd. Mae merch efo bob hawl i wrthod dyn, ac i ddweud os yw eisiau cael cyswllt rhywiol neu beidio. Gelwir hyn yn ganiatâd.

Am fod y ferch yn cysgu nid oedd yn bosib iddi roi caniatâd. Pa un ai wyt ti’n meddwl y byddai’n ei hoffi neu beidio, mae’n bwysig iawn bod yn sicr. A’r unig ffordd i fod yn siŵr ydy wrth sicrhau bod y person yna mewn cyflwr ble gallant ddweud “na”.

Ac yn olaf… oes gen ti farn am hyn? Beth am gymryd rhan yn y sgwrs draw ar Facebook neu Twitter gan ddefnyddio’r hashnod #MeicCaniatâd?

Edrycha ar ein herthyglau eraill ar gyfer Wythnos Iechyd Rhyw: Caniatâd:

Galwa Meic

Os wyt ti’n poeni am unrhyw beth i wneud â chaniatâd, neu os oes unrhyw beth arall yn dy boeni, gallet ti gysylltu â llinell gymorth Meic am gyngor a gwybodaeth. Mae posib ffonio, gyrru neges testun neu sgwrsio ar-lein.

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.