x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Herio Rolau Rhyw a Gwrywdod Gwenwynig

Tri bachgen yn sefyll wrth ymyl wal, mae un yn dal pêl.

Mae’n gyfarwydd i bawb; golygfa mewn ffilm ble mae merch wedi mopio gyda bachgen, mae o’n gwahodd hi am ddêt, yn talu am swper ac yn awgrymu’r gusan gyntaf.

Mae’r ystrydebau yma’n rai cyfarwydd. Maent yn rhoi pwysau aruthrol ar ddynion ifanc i ddilyn rolau rhyw hen ffasiwn. Mae’r disgwyliadau yma yn gallu achosi gorbryder, hunan hyder isel, ac ymddygiad a meddylfryd niweidiol.

Beth os gallwn ni ailddiffinio gwrywdod i ganolbwyntio ar rinweddau fel empathi, parch a pharodrwydd i ddangos emosiynau yn hytrach na stereoteipiau traddodiadol? Beth am i ni archwilio be mae’n ei olygu i ailddiffinio disgwyliadau cymdeithas ar ddynion?

Bachgen yn ei arddegau yn eistedd ar fainc gyda clustffonau ymlaen.

Y pwysau i ddilyn y drefn

Mae cymdeithas yn aml yn portreadu’r ‘dyn delfrydol’ fel rhywun tal, cyhyrog, sy’n llwyddiannus yn ariannol a ddim yn or-emosiynol. O oedran ifanc, mae bechgyn yn dysgu bod disgwyl iddynt ddechrau sgwrs, awgrymu’r cam nesaf a darparu’n ariannol yn eu perthnasau. Mae disgwyl i ti wybod sut i siarad gyda merched ac i fod yn hyderus a phendant.

Mae’r pwysau i fod yn llwyddiannus a chryf yn gallu bod yn llethol. Yn enwedig os nad yw hynny’n naturiol i ti. Efallai dy fod yn teimlo fel llai o ddyn, ddim digon da neu fod rhywbeth yn bod arnat ti.

Mae hyn wedi achosi cynnydd sylweddol mewn problemau iechyd meddwl ymysg dynion ifanc. Fel dyn ifanc, efallai dy fod yn teimlo nad wyt ti’n gallu mynegi sut ti’n teimlo neu chwilio am gymorth, sy’n gallu gwneud i ti deimlo’n unig, pryderus neu’n isel. Yn anffodus, mae hyn wedi achosi cynnydd mewn cyfraddau hunanladdiad ymysg dynion ifanc.

Tri bachgen yn eu harddegau yn gwenu ac yn dal caniau o gwrw.

Gwrywdod gwenwynig

Wrth i ddynion ifanc drio ymdopi gyda’r disgwyliadau yma, mae nifer yn troi at y we, cyfryngau cymdeithasol neu porn am arweiniad. Mae rhai bechgyn a dynion ifanc yn cael eu drysu’n llwyr gan y stereoteip o fod yn ‘ddyn go iawn’ ac mae hyn yn datblygu gwrywdod gwenwynig.

Gwrywdod gwenwynig yw pan mae bechgyn a dynion yn cymryd rolau rhyw traddodiadol yn rhy ddifrifol. Mae’r diffiniad cul yma o wrywdod yn gallu arwain at ymddygiad niweidiol megis trais a cham-drin sylweddau. Mae dynion sy’n teimlo pwysau i gyrraedd y disgwyliadau yma yn cael trafferth mynegi eu hemosiynau, chwilio am gymorth, a ffurfio perthnasau iach.

Bechgyn yn eu harddegau yn gwenu a chwerthin tra'n eistedd ar wal frics.

Modelau rôl gwrywaidd

Mae cyfryngau cymdeithasol wedi dod yn blatfform pwerus ble gall dynion ifanc gael eu dylanwadu gan fywydau unigolion enwog a chyfoethog. Yn aml, mae’r unigolion yma yn dangos ffordd o fyw moethus, llwyddiannus a phwerus. Gall hyn apelio at ddynion ifanc sy’n chwilio am rywun i’w dilysu a’u derbyn nhw.

Fodd bynnag, drwy ganolbwyntio ar bethau materol, edrychiad corfforol a buddugoliaethau rhywiol, mae’r dylanwadwyr yma yn hyrwyddo stereoteipiau ac ymddygiad niweidiol. Gall dynion ifanc deimlo pwysau i fyw bywyd tebyg, a pan nad ydynt yn cyrraedd yr un disgwyliadau, mae’n arwain at gymharu negyddol a hunanwerth isel.

Mae’n ddefnyddiol edrych tu hwnt i gyfoeth ac enwogrwydd ac edrych ar foesau’r dynion rydych yn eu hedmygu a’u dilyn ar gyfryngau cymdeithasol. Oes gennych chi fodelau rôl gwrywaidd? Be ydy’r nodweddion ti’n hoffi amdanyn nhw?

Gwna dy orau i gael modelau rôl positif yn dy fywyd sy’n dangos ei fod yn iawn i fod yn fregus weithiau, i fynegi dy emosiynau ac i wneud y pethau sy’n bwysig i ti. Mae modelau rôl fel hyn yn gallu gwrthbrofi stereoteipiau negyddol a chreu awyrgylch mwy cynhwysol a chefnogol i helpu ti a dy ffrindiau ffynnu.

Bachgen yn ei arddegau yn eistedd ar lawr. Mae'n edrych ar ei ffôn ac yn rhoi ei law ar ei dalcen.

Dysgu o bornograffi

Mae porn yn aml yn portreadu delwedd afrealistig o ryw, yn canolbwyntio ar berfformiad a phŵer yn hytrach na chysylltiad emosiynol a phleser. Gall arwain at ddisgwyliadau afrealistig am ryw, delwedd corff a lleihau’r teimlad o agosatrwydd rhwng cyplau.

Mae pornograffi yn gallu gwrthrychu merched, sy’n golygu bod merched yn cael eu hystyried fel gwrthrychau yn hytrach na fel pobl. Mae hyn yn cyfrannu at agweddau niweidiol tuag at ferched a diwylliant o drais rhywiol.

Pan ti’n gwylio porn yn rheolaidd, gall dy ymennydd gael ei ddadsenseteiddio i brofiadau rhywiol go iawn. Mae hyn yn gallu gwneud hi’n anodd cysylltu gyda dy bartner ar lefel emosiynol. Gall hyn arwain at anfodlonrwydd yn eich perthynas a dibyniaeth.

Ystyria’r effaith mae porn yn ei gael ar dy berthynas a dy iechyd meddwl. Cymra seibiant o wylio porn ac edrycha ar ffyrdd eraill o ddysgu am ryw a pherthnasau iach.

Grŵp o fechgyn yn eu harddegau yn sefyll gyda'u breichiau'n uchel yn gweiddi.

Diwylliant o frolio

Agwedd niweidiol arall o rolau rhyw traddodiadol yw’r diwylliant o frolio. Mae dynion ifanc yn cael eu hannog i frolio am eu profiadau rhywiol, boed yn gusanu, rhyw, secstio neu yrru lluniau noeth.

Mae’r diwylliant gwenwynig yma yn gallu arwain at ymdeimlad cystadleuol, ble mae bod yn agos gyda rhywun yn cael ei iselhau i gêm rhwng ffrindiau. Mae’n gallu difetha’r ymddiriedaeth a’r parch mewn perthynas. Gall wneud i dy bartner deimlo pwysau i wneud pethau dydyn nhw ddim yn gyfforddus yn eu gwneud.

Bachgen yn ei arddegau yn edrych yn drist mae'n eistedd ar lawr ac yn rhoi ei freichiau dros ei goesau.

Tu hwnt i heterorywioldeb

Nid yw rolau rhyw traddodiadol yn berthnasol i unigolion LHDTC+ yn yr un ffordd â phobl heterorywiol. Er enghraifft, mewn cymdeithas sy’n dweud mai’r dyn sydd fod i arwain mewn perthynas, pwy sy’n arwain mewn perthynas hoyw? Be am ddynion arywiol sydd ddim yn teimlo atyniad i eraill, ond sy’n teimlo pwysau i siarad am ryw a pherthnasoedd gyda’u ffrindiau?

Mae unigolion LHDTC+ yn gwynebu heriau ychwanegol wrth ymdopi â pherthnasau a mynegi eu rhywioldeb. Maent yn aml yn gwynebu stigma a rhagfarn, sy’n ei wneud yn anodd ymdopi â pherthnasau a mynegi eu rhywioldeb yn agored. Mae nifer o unigolion LHDTC+ yn teimlo pwysau i gydymffurfio gyda disgwyliadau heteronormaidd. Gall hyn arwain at homoffobia mewnol a chwestiynu eu hunaniaeth. Fodd bynnag, mae llawer o ffyrdd i ffurfio perthnasau a bod yn agos at eraill!

Ymdrecha i greu diwylliant sy’n gynhwysol a chefnogol o bob cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd. Cofia, efallai nad yw dy ffrindiau i gyd wedi dod i delerau gyda’u rhywioldeb eto. Mae’r pethau wyt ti’n ei ddweud neu’n eu gwneud o flaen eraill yn gallu eu brifo heb i ti sylweddoli.

Bachgen yn ei arddegau yn gwenu'n braf, mae'n gwisgo hwdi a bag ar ei gefn.

Ailddiffinio gwrywdod a rolau rhyw traddodiadol

Does ‘na ddim un diffiniad o wrywdod sydd am siwtio pawb. Mae bod yn ddyn yn golygu gymaint mwy na bod yn gryf a chyfoethog.

Mae nifer o bobl yn herio rolau rhyw traddodiadol ac yn gweld perthnasau fel partneriaeth gyfartal. Dyma ychydig o gyngor ar sut i herio rolau rhyw:

  • Addysga dy hun. Dysga am rolau rhyw, gwrywdod a pherthnasau iach
  • Arwain drwy esiampl. Datblyga berthnasau iach a pharchus yn dy fywyd dy hun a bydd yn fodel rôl i dy ffrindiau.
  • Herio stereoteipiau. Cwestiyna stereoteipiau niweidiol, wyneb yn wyneb neu ar-lein.
  • Cefnogi eraill. Annog dy deulu a ffrindiau i ystyried safbwynt mwy blaengar am ryw a pherthnasoedd, ond rho amser iddyn nhw ddysgu.

Drwy gymryd y camau yma, rwyt ti’n gallu creu byd mwy cyfartal a theg i bawb. Gobeithio bod hyn yn golygu nad oes disgwyl i ddynion wybod sut a phryd i wneud pethau bob amser.