Wythnos Caniatâd: Nid Stori Tylwyth Teg Yw Bywyd
Mae hi’n Wythnos Iechyd Rhywiol 2018 yr wythnos hon a thema’r wythnos eleni ydy Caniatâd. Yma yn Meic rydym yn rhedeg ymgyrch am yr wythnos yn edrych ar y pwnc. Rydym wedi creu animeiddiadau arbennig, byddem yn edrych ar y pwnc mewn mwy o fanylder gydag erthyglau ac yn rhannu gwybodaeth a dolenni. Felly, dere draw i’n gweld bob dydd, ymwela â’n sianeli cyfryngau cymdeithasol ar Facebook, Twitter ac Instagram, defnyddia hashnod MeicCaniatâd, a gad sylwad, hoffa a rhanna i helpu lledaenu’r neges.
(To read this article in English click here)
Mae gennym wledd arall i ti heddiw gyda’n ail animeiddiad Nid Stori Tylwyth Teg Yw Bywyd. Yn dilyn ein parodi Y Dywysoges Drwm Ei Chwsg dydd Llun, heddiw mae gennym fersiwn wahanol o stori dylwyth teg clasurol, Y Dywysoges a’r Broga, ond nid yw’r diweddglo yn un hapus yn ein chwedl ni.
Hanes cryno Y Dywysoges a’r Broga
Mae yna sawl amrywiad i’r stori hon, ond un ohonynt ydy bod Tywysoges yn darganfod broga ac yn gorfod rhoi cusan iddo i dorri’r swyn a’i droi’n ôl i Dywysog. Mae’n rhoi cusan iddo ac yn wir, mae’n troi’n Dywysog golygus. Mae’r ddau yn priodi ac yn byw yn hapus byth bythoedd. Diweddglo stori tylwyth teg clasurol… cyfog!
Ein fersiwn fodern o’r stori
Felly dyma ni yn 2018, ac yn sicr nid oes diweddglo hapus i rywun sydd yn cusanu ryw lyffantod diarth! Mae’r prif gymeriad yn Dywysog yn hytrach nag Tywysoges, ac yn rhywun sydd ddim yn rhy hapus bod yna froga yn gorfodi ei hun arno.
Yn ein fideo mae’r ‘stori dylwyth teg’ yn gorffen ar ôl i’r Tywysog gusanu’r broga, ac mae’r broga yn awgrymu mynd yn ôl i’w bad, yn amlwg ei fod yn awyddus i symud pethau i’r lefel nesaf. Nid oes gan y ‘Tywysog’ ddiddordeb yn symud pethau ymhellach, er ei fod yn hapus i’w gusanu ar y cychwyn. Digon yw digon ac mae’n dweud na. Ond nid yw’r ‘tywysog broga’ yn awyddus iawn i dderbyn na fel ateb.
Gweld y broblem?
Efallai dy fod di wedi bod allan ar ddêt efo rhywun, yn gwerthfawrogi eu bod yn brydferth iawn ac yn llawer o hwyl. Roedd yna atyniad, ac yna chusan. Efallai dy fod di am i bethau symud yn araf, efallai nad oeddet ti’n teimlo’r sbarc, neu’n teimlo’n lletchwith. Roeddet ti’n mwynhau cwmni’r person ac yn cael hwyl, ond yna newidiodd pethau. Roeddent am i bethau fynd ymhellach ond nid dyma oeddet ti eisiau. Dywedais di ‘na’, ond wnaethon nhw wrando ar y ‘na’ yna’n syth.
Yn 2018 nid diffyg ‘na’ ydy caniatâd. Mae’n ‘ia’ brwdfrydig. Efallai dy fod di eisiau cusanu rhywun, efallai dy fod di am i bethau fynd ymhellach. Ond os mai dim ond un ohonoch sydd eisiau symud i’r cam nesaf, yna nid oes caniatâd.
Na yw na
Mae derbyn gwrthodiad yn anodd, yn enwedig os yw pethau wedi dechrau dod yn fwy cyfarwydd gyda chusan, ac roeddet ti’n meddwl bod pethau am fynd ymhellach. Ond dyw’r ffaith dy fod di’n disgwyl hyn ddim yn golygu bod y person arall yn teimlo’r un fath, ac nid yw’n golygu y dylent deimlo bod rhaid iddynt fynd â phethau ymhellach am dy fod di’n disgwyl hynny. Na yw na, a dyw absenoldeb na ddim yn golygu ia. Caniatâd yw popeth!
Ta waeth pa mor bell mae pethau wedi mynd, mae pobl yn gallu dweud na ar unrhyw adeg, ac mae’n rhaid i ti wrando, ac mae’n rhaid i ti stopio. Bwriad ein fideo heddiw ydy gyrru neges gref am ganiatâd rhywiol wrth ddangos nad yw bywyd yn berffaith, nid stori tylwyth teg ydyw. Mae’n rhaid i ti feddwl, mae’n rhaid i ti wrando, ac mae’n rhaid i ti gael caniatâd.
Oes gen ti farn am hyn? Beth am gymryd rhan yn y sgwrs draw arFacebook neu Twitter gan ddefnyddio’r hashnod #MeicCaniatâd?
Edrycha ar ein herthyglau eraill ar gyfer Wythnos Iechyd Rhyw: Caniatâd:
- Wythnos Caniatâd: Na Yw Na (Fideo Nid Stori Tylwyth Teg Yw Bywyd)
- Beth Yw’r Holl Ffwdan Caniatâd Yma?
- Wythnos Caniatâd: Geiriau Caneuon Anaddas
- Caniatâd: Pam Nad Yw Pobl Yn Deall?
Angen gwybodaeth bellach?
Os wyt ti’n ansicr am ganiatâd ac eisiau trafod hyn, yna cysyllta gyda ni yma yn Meic. Rydym yma bob dydd rhwng 8yb a hanner nos i gynnig cefnogaeth gyda chyngor a gwybodaeth bellach. Os wyt ti’n meddwl dy fod di’n ddioddefwr ymosodiad rhywiol yna anogwn i ti siarad gydag oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddynt, fel rhiant, doctor, athro neu weithiwr cymdeithasol gall anogi a chefnogi ti i fynd at yr heddlu.
Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.