x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Beth yw’r Pum Iaith Cariad?

Graffeg o bump llaw yn dal calonnau coch

Dr Gary Chapman wnaeth gyflwyno’r syniad o ieithoedd cariad gyntaf yn 1992. Mae’r egwyddor yn syml, mae gan bawb hoff ffordd o ddangos cariad a derbyn cariad gan eraill. Mae ieithoedd cariad yn cael eu hystyried yng nghyd-destun perthnasoedd rhamantus fel arfer. Ond, mae’r un mor berthnasol gyda ffrindiau, teulu a ti dy hun.

Pam eu bod yn bwysig?

Mae’r syniad o ieithoedd cariad yn deillio o waith Dr Chapman fel cwnselydd i gyplau. Fe sylweddolodd bod nifer o’r cyplau roedd o’n eu cwnsela yn camddeall anghenion ei gilydd. Drwy ddeall beth ydy dy iaith cariad ac iaith cariad pobl eraill yn dy fywyd rydych chi’n gallu cyfathrebu a deall eich gilydd yn well. Mae sawl cwis ar-lein galli di wneud er mwyn darganfod beth yw dy iaith cariad. Nid yw’r cwisiau yma yn rhai cwbl wyddonol gywir, ond gall fod yn ddefnyddiol os oes gen ti ddiddordeb. Dyma’r pum iaith cariad:

Geiriau cadarnhad

Mae geiriau cadarnhaol yn golygu dangos cariad ar lafar neu yn ysgrifenedig. Mae canmol rhywun neu ddweud rhywbeth caredig amdanyn nhw yn ffordd dda o ddangos cariad.

Os oes gan ffrind neu aelod o’r teulu ddigwyddiad pwysig ar y gweill, gallet ti yrru neges i ddymuno pob lwc iddyn nhw.

Efallai mai geiriau cadarnhaol yw iaith cariad dy bartner. Gallet ti adael nodyn yn dweud faint wyt ti’n eu gwerthfawrogi.

Gallet ti wneud hyn i bobl ddiarth hefyd, fel dweud rhywbeth caredig i rywun ar y bws neu mewn caffi.

Cartwn o ddyn a dynes yn coginio swper gyda'i gilydd

Gwneud pethau i eraill

Dyma rai syniadau o bethau gallet ti wneud i eraill er mwyn dangos cariad. Mae gwneud rhywbeth i bobl eraill yn ffordd o ddangos caredigrwydd heb i neb ofyn i ti wneud.

Gallet ti baratoi pryd o fwyd os mae dy bartner wedi cael diwrnod prysur yn y gwaith, neu gynnig eu nôl nhw o’r orsaf drenau.

Beth am gynnig helpu rhywun i bacio os ydyn nhw’n symud tŷ, cynnig gwarchod am noson neu helpu rhywun adolygu at arholiad?

Gallet ti wneud pethau yn dy gymuned hefyd. Drwy bigo sbwriel neu helpu person hŷn gyda’i siopa ti’n dangos caredigrwydd at eraill yn y gymuned.

Derbyn anrhegion

Nid oes rhaid i’r anrhegion fod yn rhai drud, dim ond rhywbeth bach i ddangos cariad. Gallet ti gadw llygad am bethau sy’n dy atgoffa am rywun ti’n garu.

Gallet ti brynu hoff fwyd dy bartner, tocyn i weld ffilm newydd, prynu blodau neu wneud anrheg gyda llaw iddyn nhw.

I ffrindiau a theulu, gallet ti brynu anrheg fach os wyt ti’n mynd ar wyliau, prynu taleb i fwyty neis, neu brynu anrheg sydd yn berthnasol i rywbeth rydych chi’n mwynhau gyda’ch gilydd.

Dau ddynes yn gorfedd ar flanced picnic

Amser o ansawdd

Os ydych yn treulio amser gyda’ch gilydd heb ddim byd i dynnu eich sylw mae hyn yn cryfhau’r cysylltiad rhyngoch chi.

Gallet ti drefnu noson arbennig i dy bartner, cytuno i droi eich ffonau i ffwrdd a chanolbwyntio ar gael sgyrsiau meddylgar. Gallech chi chwarae cwis i gyplau neu gêm bwrdd gyda’ch gilydd.

Gallet ti drefnu i fynd am dro gyda ffrind i ddal fyny a threulio amser gyda’ch gilydd. Gallet ti gynnig coginio swper neu chwarae gem yn y car gyda dy deulu.

Cyffyrddiad corfforol

Mae agosatrwydd corfforol yn ffordd o ddangos cariad drwy fod yn agos i bobl ti’n eu caru. Mae ymchwil yn dangos bod agosatrwydd corfforol yn rhyddhau ocsitosin, hormon sy’n lleihau straen ac yn cryfhau cysylltiad.

Gallwch chi gysylltu drwy ddal dwylo gyda dy bartner neu gysuro dy ffrind os ydyn nhw’n teimlo’n isel. Bydd yn ymwybodol o ffiniau pobl, nid yw pawb yn hoff o gyffryddiad corfforol.

Mae deall ieithoedd cariad yn gallu cryfhau dy berthnasoedd. Dim ots pa un sydd orau gen ti, be sy’n bwysig yw dangos cariad a charedigrwydd at eraill ac atat ti dy hun. Os wyt ti eisiau gwybodaeth, cyngor neu eiriolaeth, mae Meic yma i wrando. Rydym ar agor o 8yb i hanner nos bob dydd a gallet ti gysylltu â Meic ar y ffon, neges destun neu Whatsapp neu sgwrs ar-lein.