x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Archwilio Perthnasau Agos a Rhywiol Gwahanol

Wrth i ti fynd yn hŷn, efallai bod gen ti ddiddordeb i ddysgu mwy am ryw a bod yn agos at bobl eraill. Mae hyn yn hollol normal, ac mae’n iawn i fod yn chwilfrydig. Ond rhaid sicrhau bod y wybodaeth rwyt ti’n ei gael yn dod o ffynonellau gallet ti ymddiried ynddynt. Yma, edrychwn ar wahanol ffyrdd o fod yn agos at bobl eraill.

RHYBUDD: Oherwydd natur y pwnc, efallai bydd y cynnwys yn y blog yma yn anaddas i rai o’n darllenwyr iau.

Mae’r blog yma yn rhan o’r ymgyrch Dim Cywilydd Dim Cyfrinachau – Iechyd a Lles Rhyw, ble edrychwn ar sawl elfen o gadw dy hun yn iach ac yn ddiogel o ran rhyw. Mae dolenni i holl flogiau’r ymgyrch yma, a dilyna ein sianeli cyfryngau cymdeithasol (gweler gwaelod y blog) i wylio ychydig o fideos hwyl.

Beth yw perthynas agos?

Perthynas agos (intimacy) yw pa mor agos wyt ti i rywun a’r cysylltiad rhyngot ti ac eraill. Pan mae’n cael ei grybwyll fel perthynas agos yn gorfforol, gall hyn gynnwys cwtsio, cusanu a rhyw.

Ond mae perthynas agos, yn aml yn golygu mwy na phethau corfforol. Mae’n gallu helpu pobl i gysylltu, i fod yn agored, datblygu cysylltiadau dwfn ac archwilio pleser mewn ffordd ddiogel ble mae gennych chi ffydd yn eich gilydd.

Yn y blog yma, edrychwn ar rhai o’r gwahanol fathau o berthnasau agos.

Rhybudd – Nodwch, oherwydd natur pwnc y blog yma, nid yw’r cynnwys yn addas ar gyfer ein darllenwyr iau. Os oes gen ti gwestiynau am hyn neu unrhyw beth arall darllenir yn yr ymgyrch Dim Cywilydd Dim Cyfrinachau, yna siarada ag oedolyn gallet ti ymddiried ynddynt, neu cysyllta â Meic am gymorth. Manylion cyswllt ar y gwaelod.

Y foneddiges ustus mewn ffrog las ar gyfer blog perthnasau agos

Y gyfraith

16 yw’r oedran cyfreithiol i gael rhyw yn y DU. Nid wyt ti’n gallu rhoi caniatâd yn gyfreithiol i gymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd rhywiol cyn hynny.

Mae hyn yn golygu, os wyt ti’n rhan o ryw dan oed, gall yr heddlu ddwyn achos yn dy erbyn di. Ond rydym yn ymwybodol bod llawer o bobl ifanc yn cael rhyw dan 16 oed, ac nid bwriad y gyfraith yw troi’r bobl yma’n droseddwyr; ei fwriad yw dy amddiffyn. Oherwydd hyn, mae’r heddlu yn ystyried pethau penodol cyn cymryd camau pellach. Mae’r rhain yn cynnwys: os oedd pawb yn rhoi caniatâd, y bwlch oedran, pa mor aeddfed ydych chi, os yw rhywun o dan 12 oed ayb. (mwy yma).

Os wyt ti’n cael rhyw, sicrha dy fod di’n defnyddio condom er mwyn helpu i osgoi STIs a beichiogrwydd.

Datblygu Perthynas Agos

Mae’r gallu i deimlo’n agos at rywun yn emosiynol ac yn gorfforol yn ymdrech sydd yn gallu cymryd amser. Fel arfer mae agosatrwydd fel hyn wedi ei selio ar ychydig o bethau pwysig, gan gynnwys:

  • Cyfathrebu agored a gonest
  • Dibynadwyedd a ffydd
  • Bregusrwydd
  • Gwrando gweithredol
  • Parch a charedigrwydd

Os wyt ti’n bod yn agos â rhywun yn rhywiol, y peth pwysicaf ydy sicrhau bod pawb sydd yn cymryd rhan yn rhoi caniatâd clir. Dysga fwy am hyn yn ein blog Parchu Ffiniau: Deall Caniatâd. Mae deall caniatâd, siarad am ffiniau, dyheadau, a disgwyliadau yn helpu i sicrhau bod pawb yn cadw’n ddiogel ac yn cael profiad da.

Mae sawl math gwahanol o berthynas agos. Dyma ychydig ohonynt:

Aubergine cartŵn yn gwenu ac yn dal calon

Heterorywiol, cyfunrywiol, anrhywiol

Mae perthynas heterorywiol fel arfer rhwng dyn a dynes ac yn cynnwys rhyw ble mae pidyn yn mynd i mewn i’r fagina.

Mae perthnasau cyfunrywiol fel arfer rhwng dau ddyn, neu dwy ddynes. Maent yn gallu cael rhyw o hyd, er nad oes ganddynt bidyn a fagina! Gall hyn gynnwys rhyw geneuol (y geg), rhyw rhefrol (y pen ôl), a mastyrbio’i gilydd. Gall unrhyw un fwynhau’r holl ddulliau yma, ta waeth eu rhywioldeb neu fath o berthynas, fel pobl ddeurywiol, panrywiol, trawsrywiol, anneuaidd (non-binary) a rhywedd cyfnewidiol (gender-fluid).

Dyw pobl sydd yn uniaethu fel anrhywiol neu aromantig ddim yn profi, neu ddim yn profi llawer o, atyniad rhywiol na rhamantus. Gall agosatrwydd iddyn nhw edrych ychydig yn wahanol. Maent yn canolbwyntio ar gysylltiadau emosiynol a gweithgareddau sydd ddim yn rhywiol i fod yn agos.

Mae arbrofi, archwilio a chael sgyrsiau agored am chwant (desire) yn gallu mwyhau’r pleser i ti a dy barntner(iaid). Mae posib arbrofi ar ben dy hun. Gelwir hyn yn mastyrbio, a gall hyn helpu ti i ddarganfod y pethau ti’n hoffi neu ddim yn hoffi.

Amryw bartner

Mae rhai pobl yn hoffi bod yn agos i fwy nag un person ar y tro. Mae perthnasau agored a ‘polyamory’ yn fathau o berthynas ble mae pobl yn gyfforddus gyda, ac yn mwynhau, sawl perthynas agos ar yr un pryd. Gall hyn gynnwys triawd rhyw, rhyw grŵp a swingio.

Mae’n bwysig bod pawb yn cytuno ac yn hapus i bobl eraill fod yn rhan o’r berthynas. Mae hyn yn wahanol i fynd efo rhywun arall tu ôl i gefn rhywun a bod yn anffyddlon. Yn union fel perthnasau unweddog (un person ar y tro), mae angen llawer o onestrwydd, cyfathrebu parhaol, ac archwilio’r ffiniau er mwyn deall a pharchu dymuniadau dy bartner(iaid).

Merch yn gafael pensel mawr yn ticio rhestr mawr

Cadwa at y rheolau yma.

Ta waeth pa fath o berthynas sydd gen ti, cofia’r pethau pwysig am fod yn agos at rywun:

  • Cyfathrebu agored a gonest
  • Dibynadwyedd a ffydd
  • Bregusrwydd
  • Gwrando gweithredol
  • Parch a charedigrwydd
  • Caniatâd

Gwybodaeth bellach

Os wyt ti eisiau dysgu mwy am ryw ac aros yn ddiogel wrth gael rhyw, chwilia am ffynonellau gallet ti ymddiried ynddynt.

Siarad â Meic

Meic yw’r llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc ledled Cymru. Cysyllta os wyt ti angen siarad â rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni. Mae’n gyfrinachol ac am ddim. Mae’r gwasanaeth yn agored rhwng 8yb a hanner nos pob dydd, ac mae posib cysylltu ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar-lein.