x
Cuddio'r dudalen

Cadw’n Ddiogel Wrth Ddefnyddio Apiau Canlyn

Mae apiau canlyn yn ffordd boblogaidd i gyfarfod rhywun newydd. Bod hynny’n sweipio neu’n negeseuo, pa  bynnag app yr wyt ti’n dewis, rwyt ti angen gwybod sut i gadw dy hun yn ddiogel ar yr app ac os wyt ti’n cyfarfod â nhw.

RHYBUDD: Oherwydd natur y pwnc, efallai bydd y cynnwys yn y blog yma yn anaddas i rai o’n darllenwyr iau. Mae apiau canlyn i fod i rai dros 18 oed.

Mae’r blog yma yn rhan o’r ymgyrch Dim Cywilydd Dim Cyfrinachau – Iechyd a Lles Rhyw, ble edrychwn ar sawl elfen o gadw dy hun yn iach ac yn ddiogel o ran rhyw. Mae dolenni i holl flogiau’r ymgyrch yma, a dilyna ein sianeli cyfryngau cymdeithasol (gweler gwaelod y blog) i wylio ychydig o fideos hwyl.

Beth yw apiau canlyn?

Mae apiau canlyn (dating apps) yn ffordd i siarad gyda phobl, yn dy ardal leol fel arfer. Am resymau rhamantus neu rywiol fel arfer, ond mae rhai apiau yn cynnig fersiwn i ddarganfod ffrindiau hefyd.

Faint oed oes rhaid bod i ddefnyddio apiau canlyn?

Mae’n rhaid bod dros 18 i ddefnyddio’r mwyafrif o apiau canlyn. Rheswm hyn yw stopio pobl amheus rhag cysylltu â phobl dan oed ar yr app. Mae’n wir fod rhai pobl dan oed yn ceisio defnyddio’r apiau yma, ond mae rhai yn gofyn am ID i gadarnhau dy oedran. Mae cadw llygaid allan am broffiliau wedi cadarnhau yn rhoi haen o ddiogelwch ychwanegol i ti.

Person ar liniadur yn datgloi proffil rhywun yn edrych ar luniau, fideos a lleoliad

Cyngor diogelwch

Paid defnyddio’r un llun sydd ar dy gyfryngau cymdeithasol

Mae hyn yn ei wneud yn haws i rywun ddarganfod dy broffil ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol eraill a dysgu mwy amdanat ti nag yr wyt ti’n gyfforddus i rannu.

Sgwrsia ar yr app yn unig ar y cychwyn

Bydda’n ofalus os yw rhywun eisiau siarad oddi ar yr app neu’n gofyn i gyfarfod yn rhy sydyn. Gall hyn fod yn arwydd drwg. Mae siarad trwy’r app yn golygu bod posib fflagio unrhyw negeseuon sydd yn pechu neu’n anaddas. Os wyt ti’n newid dy feddwl, ni fydd ganddynt ffordd arall i gysylltu â thi. Disgwyl nes rwyt ti’n teimlo’n gyfforddus cyn rhoi ffordd arall iddynt gysylltu.

Paid cofrestru gyda manylion cyfryngau cymdeithasol

Wrth gofrestru gyda dy gyfrif Instagram neu Facebook, rwyt ti’n caniatáu i’r apiau rannu dy ddata. Os wyt ti’n matsio gyda rhywun ar app canlyn yna efallai bydd y person yna yn ymddangos fel ffrind awgrymedig ar app arall. Mae’n ffordd dda i weld os oes gennych chi ffrindiau cyffredin, ond efallai bod gen ti fanylion ar dy broffil nad wyt ti’n hapus i rannu gyda rhywun diarth.

Os wyt ti’n cofrestru gyda chyfrif cyfryngau cymdeithasol, edrycha ar dy osodiadau preifatrwydd a dim ond rhannu’r hyn rwyt ti’n gyfforddus ag ef.

Dyn a dynes yn sefyll ger ffonau symudol anferth yn gyrru arian i'w gilydd

Paid ymateb i rywun yn gofyn i ti yrru neu dderbyn arian

Ta waeth faint maen nhw’n  ceisio  perswadio, paid byth ymateb i rywun sydd yn cynnig arian neu yn gofyn am arian. Y tebygrwydd yw mai sgamwyr ydynt. Paid byth rhannu manylion banc.

Ni fyddai pobl sydd ar yr app am resymau dilys yn gofyn. Os wyt ti’n cael neges fel hyn, riportia!

Paid rhannu gwybodaeth bersonol nes rwyt ti’n gyfforddus

Mae’n gallu bod yn gyffrous siarad gyda rhywun newydd, ac efallai dy fod di’n teimlo fel dweud popeth wrthynt. Ond cofia, maen nhw’n ddiarth. Cyn rhannu unrhyw beth personol gyda nhw, sicrha dy fod di’n hollol gyfforddus cyn rhannu hyn gyda rhywun nad wyt ti erioed wedi cyfarfod.

Paid byth rhoi gwybodaeth bersonol fel enw llawn neu gyfeiriad cartref neu waith i berson diarth.

Adnabod cyfrif ffug

Arwyddion y gallai rhywun fod yn ffug:

  • Dim ond un llun sydd ganddynt
  • Nid oes ganddynt arwydd gwireddwyd (mae rhai apiau yn gadael i ti wireddu dy ID)
  • Gall llun blyri fod yn arwydd o sgrinlun
  • Lluniau sy’n edrych yn broffesiynol

Os wyt ti’n meddwl y gall proffil rhywun fod yn ffug, yna gallet ti wneud chwiliad delweddau croes (reverse image search) ar Google i weld os yw rhywun yn ‘catfish’ neu yn dweud celwydd am bwy ydynt ar-lein. Mae’n syml iawn gwneud hyn.

Cyngor diogelwch cyfarfod wyneb i wyneb

Sgwrs fideo cyn cyfarfod

Ar ôl i ti fod yn siarad gyda rhywun am dipyn, gall galwad fideo fod yn ffordd wych i weld os mai nhw yw’r person maent yn ddweud yr ydynt. Mae hyn hefyd yn ffordd i ti weld os ydynt yn siarad yn yr un ffordd ag y maent ar yr app. Os ydynt yn gwneud i ti deimlo’n anghyfforddus o gwbl, yna gorffenna’r alwad!

Dweud wrth ffrind ble rwyt ti’n mynd

Sicrha bod rhywun ti’n gallu ymddiried ynddynt yn gwybod ble ti’n mynd a phryd. Gall hyn fod yn ffrind, rhiant, neu oedolyn arall. Gyrra sgrinlun o broffil y dêt i’r person yma.

Gall fod yn arwydd o berygl os yw dy ddêt yn gofyn i fynd i rywle arall cyn gynted ag yr ydych chi’n cyfarfod. Dweud dy fod di eisiau aros yn y lle roeddech chi wedi bwriadu. Paid mynd gyda nhw. Os ydynt yn berson gonest, yna byddant yn deall.

Poster swyddogol ymgyrch Gofyn am Angela Rhondda Cynon Taf a Heddlu De Cymru. Dwyieithog.

Cyfarfod mewn lle cyhoeddus

Osgoi cyfarfod yng nghartref neu waith unrhyw un ohonoch. Cofia, mae’r person yma yn ddiarth i ti, felly paid dweud wrthynt  ble rwyt ti’n byw nac yn gweithio nes rwyt ti’n teimlo’n gyfforddus. Osgoi mynd i le unig fel parc. Mae’n dda cyfarfod mewn lle niwtral fel caffi, fwyty, neu far, fel bod y ddau ohonoch yn gallu ymlacio gyda llawer o bobl o gwmpas.

Os wyt ti’n teimlo mewn perygl, siarada gydag aelod o staff. Mae llawer o dafarndai yn cynghori ti i ofyn am Angela y tu ôl i’r bar. Byddant yn trefnu tacsi i ti ac yn helpu ti i adael yn ddistaw.

Paid dibynnu ar dy ddêt am drafnidiaeth

Paid cael i mewn i gerbyd gyda rhywun diarth.

Mae’n bwysig iawn i ti fod mewn rheolaeth o sut rwyt ti’n teithio i’r dêt ac yn ôl adref. Gofynna i riant neu ffrind am lifft. Os wyt ti’n mynd ar y bws neu drên, sicrha bod yna siwrne’n ôl ar yr amser mae’r dêt yn dod i ben.

Mae bod mewn rheolaeth o drafnidiaeth dy hun yn golygu y gallet ti adael y dêt unrhyw amser ac nid oes rhaid i ti ddibynnu arnyn nhw os wyt ti’n teimlo’n anghyfforddus.

Cadw’n ddiogel, a chael hwyl!

Os wyt ti’n meddwl bod rhywbeth amheus yn digwydd, neu rwyt ti’n teimlo’n anghyfforddus wrth sgwrsio gyda rhywun, paid ag ofni riportio a blocio! Dy ddiogelwch di yw’r peth pwysicaf.

Mae apiau canlyn yn gallu bod yn ffordd grêt i gyfarfod gyda phobl newydd na fyddet ti wedi sgwrsio â nhw fel arall, felly mwynha dy hun a chymdeithasu. Cofia’r pethau sydd angen i ti wneud i gadw’n ddiogel.

Gwybodaeth a chefnogaeth bellach

Meic contact details banner

Siarad â Meic

Meic yw’r llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc ledled Cymru. Cysyllta os wyt ti angen siarad â rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni. Mae’n gyfrinachol ac am ddim. Mae’r gwasanaeth yn agored rhwng 8yb a hanner nos pob dydd, ac mae posib cysylltu ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar-lein.