x
Cuddio'r dudalen

Beth Yw’r Holl Ffwdan Caniatâd Yma?

Mae Meic yn cynnal ymgyrch yn edrych ar y pwnc Caniatâd*. Rydym wedi creu animeiddiadau arbennig, byddem yn edrych ar y pwnc mewn mwy o fanylder gydag erthyglau ac yn rhannu gwybodaeth a dolenni. 

*RhybuddOherwydd natur y pwnc, efallai nad yw’r holl gynnwys isod yn addas ar gyfer rhai o’n darllenwyr iau.

(To read this article in English click here)

Mae perthnasau rhywiol rhwng dau oedolyn cydsyniol dros 16 oed yn gallu bod yn bleserus ac yn hwyl. Ond, pan fydd rhywbeth rhywiol yn digwydd heb ganiatâd un person yna mae hyn yn anghyfreithlon, heb sôn am yr effaith dinistriol gallai ei gael ar y person sydd heb roi’r caniatâd. Eisiau gwybod mwy? Darllena ymlaen.

Magenta pink thumbs up sticker overlay on a yellow background vector

Beth ydy “Caniatâd”?

Caniatâd rhywiol ydy pan fydd person yn dweud ei fod yn iawn i berson arall gael cyswllt rhywiol â nhw. Os nad rhoddir caniatâd gan un ohonynt, a dyw’r person arall ddim yn stopio, yna mae hyn yn cael ei ystyried fel ymosodiad rhywiol yn ôl y gyfraith. Os yw’r gweithgaredd yma yn cynnwys rhyw (rhyw fagina, anws neu geneuol) yna bydd hyn yn cael ei ystyried yn drais neu rêp. Gall unrhyw un fod yn ddioddefwyr ymosodiad rhywiol, beth bynnag eu rhyw, tueddfryd rhywiol, hunaniaeth rhyw a chefndir.

Mae rhai pobl yn sôn am linellau aneglur neu ansicrwydd pan ddaw at ganiatâd. Mae’r fideo yma gan Blue Seat Studios, ‘Tea and Consent‘, yn egluro caniatâd yn glir mewn ffordd ddoniol ac ysgafn.

Pryd all rhywun ddim rhoi caniatâd?

Unwaith i ti ddeall yr hanfodion yna mae caniatâd yn eithaf clir. Diffiniad cyfreithiol caniatâd ydy “os yw’r person yn cytuno drwy ddewis, ac mae ganddynt y rhyddid a’r gallu i wneud y dewis yma”. Gad i ni edrych ar y ddau beth ar wahân.

Rhyddid – mae hwn yn ganolog i ganiatâd ac yn eithaf clir. Os nad yw rhywun yn rhydd i ddewis os ydynt eisiau rhyw neu beidio, neu os ydynt dan fygythiad i wneud dewis, yna nid ydynt wedi rhoi caniatâd.

Gallu – nid yw hwn mor eglur. Mae’n edrych ar gyflwr meddwl a gallu rhywun i wneud penderfyniad. Os oes gen ti broblemau iechyd meddwl, neu ddim yn hollol ymwybodol neu dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau, yna gall hyn effeithio ar dy gyflwr meddwl. Felly nid oes gen ti’r ‘gallu’ i roi caniatâd yn gyfreithiol i gael rhyw.

Dyma rhai esiamplau:

  • Os yw rhywun wedi meddwi ac yn lled ymwybodol, nid allant roi caniatâd i gael rhyw neu gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol
  • Nid all cael caniatâd os yw rhywun yn cysgu neu’n anymwybodol ond wedi cytuno i weithgaredd rhywiol neu ryw gynt
  • Os yw rhywun yn ofnus ac wedi cael ei fygwth i gael rhyw neu gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol, nid ydynt wedi rhoi caniatâd

Am fwy o esiamplau a llwyth o wybodaeth ddefnyddiol, edrycha ar dudalen chwedlau a ffeithiau caniatâd ar wefan iechyd rhywiol Brook.

Signal traffic light on road, stoplight. Direction, control, regulation transport and pedestrian. Vector

Pam bod deall caniatâd yn bwysig?

Mae’n hanfodol bod gan bawb ddealltwriaeth dda o ganiatâd. Mae hyn yn arwain at berthnasau iach a rhyw ddiogel a pleserus i bobl ifanc cydsyniol.

Gall y goblygiadau o beidio deall caniatâd fod yn ddifrifol iawn. Mae ymosodiad rhywiol a rêp yn gallu cael effaith enfawr ar y ddau ohonoch. Bydd y person sydd heb roi caniatâd yn teimlo mewn trallod ac wedi’u treisio, a bydd y person sydd heb gael caniatâd yn gallu wynebu cofnod troseddol, dirwy, gorchymyn prawf neu arhosiad yn y carchar. Gallant gael eu cofrestru fel troseddwr rhyw hefyd.

Os nad wyt ti’n sicr am deimladau dy bartner am hyn, yna siarada â nhw. Darganfod y pethau maen nhw’n gyfforddus ag ef. Sicrha dy fod di’n cael “ie” brwdfrydig cyn unrhyw weithgaredd rhywiol a pheidio gosod y person dan unrhyw bwysau. Mae parch yn bwysig ymhob perthynas, ac mae hyn yn wir gyda rhyw hefyd. Bydda’n barchus o benderfyniadau a theimladau dy bartner ac ei di ddim o’i le!

Mae’n hanfodol deall nad yw’n bosib i ti roi caniatâd yn gyfreithiol os wyt ti o dan 16 oed, gan dy fod di dal yn blentyn yn ôl y system gyfreithiol. Mae rhai pobl ifanc yn dewis cael rhyw cyn iddynt fod yn ddigon hen yn gyfreithiol, ond mae hyn yn cael ei ystyried fel torri’r gyfraith. Efallai bydd yr heddlu yn dewis gwneud dim yn y sefyllfa yma, ond nid all gwarantu hyn. Mae’r heddlu yn cosbi bob tro os yw un person dan 13 oed.

Edrycha ar ein herthyglau eraill ar gyfer Wythnos Iechyd Rhyw: Caniatâd:

Angen gwybodaeth bellach?

Os wyt ti’n ansicr am ganiatâd ac eisiau trafod hyn, yna cysyllta gyda ni yma yn Meic. Rydym yma bob dydd rhwng 8yb a hanner nos i gynnig cefnogaeth gyda chyngor a gwybodaeth bellach. Os wyt ti’n meddwl dy fod di’n ddioddefwr ymosodiad rhywiol yna anogwn i ti siarad gydag oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddynt, fel rhiant, doctor, athro neu weithiwr cymdeithasol gall anogi a chefnogi ti i fynd at yr heddlu.

Meic yw’r llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc ledled Cymru. Cysyllta â ni ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar-lein. Mae’n gyfrinachol ac am ddim.