x
Cuddio'r dudalen

Caniatâd: Pam Nad Yw Pobl Yn Deall?

Mae hi’n Wythnos Iechyd Rhywiol 2018 yr wythnos hon a thema’r wythnos eleni ydy Caniatâd. Yma yn Meic rydym yn rhedeg ymgyrch am yr wythnos yn edrych ar y pwnc. Rydym wedi creu animeiddiadau arbennig, byddem yn edrych ar y pwnc mewn mwy o fanylder gydag erthyglau ac yn rhannu gwybodaeth a dolenni. Felly, dere draw i’n gweld bob dydd, ymwela â’n sianeli cyfryngau cymdeithasol ar Facebook, Twitter ac Instagram, defnyddia #MeicCaniatâd, a gad sylwad, hoffa a rhanna i helpu lledaenu’r neges.

**Rhybudd**

Oherwydd natur y pwnc, efallai nad yw’r holl gynnwys isod yn addas ar gyfer rhai o’n darllenwyr iau.

(To read this article in English click here)

Mae rhywun yn un ai’n caniatáu i rywbeth, neu ddim, syml. Felly pam bod yna enghreifftiau pan fydd pobl ddim yn sicr? Ydy pobl yn creu esgusodion neu ydy pethau’n ddryslyd? Edrychwn yn fwy manwl ar pan fydd caniatâd yn mynd o’i le.

Beth ydy caniatâd

Caniatâd ydy cytundeb i unrhyw weithgaredd rhywiol; o gusanu, cyffwrdd, gweithgaredd rhywiol a rhyw lawn. Gall gynnwys lluniau neu fideo noeth hefyd (mae’n anghyfreithlon rhannu’r rhain gydag eraill heb ganiatâd).

Mae’r gyfraith yn dweud mai caniatâd ydy:

  • Pan fydd rhywun yn cytuno ‘o ddewis’ i brofiad rhywiol, a
  • Bod â’r rhyddid a’r gallu i wneud y dewis yna.

Pam y dryswch?

Mae yna ddryswch gyda chaniatâd. Mae rhai pobl sydd yn cael eu cyhuddo o rêp neu ymosodiad rhywiol yn defnyddio’r ddadl eu bod yn credu bod y person hwnnw wedi cytuno i gael rhyw, wedi rhoi caniatâd. Ond, mae’n ymddangos fel bod yna ddiffyg dealltwriaeth o ganiatâd, a sut mae’n edrych, mewn sawl achos. Wedi drysu? Dyma rai esiamplau o pan nad yw caniatâd wedi’i roi, neu ddim yn gallu cael ei roi:

  • Os yw’r person wedi meddwi neu ar gyffuriau ac mae’n cael effaith ar eu gallu i wneud penderfyniad
  • Os ydynt o dan 16 oed nid ydynt yn ddigon hen i roi caniataid yn ôl y gyfraith
  • Nid all rhywun roi caniatâd os ydynt yn anymwybodol, hyd yn oed os ydynt wedi cytuno’n gynharach
  • Os yw rhywun yn newid ei feddwl ar ôl dweud ‘ia’. Mae ganddynt hawl i ddweud na ar unrhyw adeg.
  • Nid yw absenoldeb ‘na’ yn golygu ‘ia’. Efallai nad yw rhai pobl yn gallu dweud ‘na’, ond nid yw hyn yn golygu eu bod wedi rhoi caniatâd
  • Dydy’r ffaith bod rhywun yn gwisgo dillad sy’n dangos lot o groen, yn fflyrtio neu’n cusanu ddim yn golygu eu bod yn rhoi caniatâd am ryw
  • Ildio i bwysau rhywiol ac ymdrechion cyson i gael rhyw yn erbyn eu hewyllys

Edrycha ar daflen yr FPA: Consent – Giving it, getting it, respecting it!

Nid yw absenoldeb ‘na’ yn golygu ‘ia’

Gall rêp neu ymosodiad rhywiol gael oblygiadau dinistriol ar bobl, i’r dioddefwr ac i’r un wedi’i gyhuddo. Os oes alcohol neu gyffuriau yn y cymysg, yna gall y llinellau fod yn aneglur iawn. Ond mae’r neges yn glir – os nad oes gan rywun y gallu i wneud y penderfyniad, yna nid allant roi caniatâd. Dyma rai esiamplau go iawn:

  • Ar ôl yfed yn drwm mewn parti tŷ mae bachgen 17 oed wedi’i ddyfarnu’n euog o dreisio merch yn rhywiol tra roedd yn anymwybodol. Roedd yn gwadu hyn ac yn dweud ei bod wedi rhoi caniatâd, ond roedd fideo yn dangos yn glir bod y ferch allan ohoni.
  • Cafodd dyn ei ddedfrydu i 8 mlynedd yn y carchar ar ôl hawlio bod merch ifanc wedi rhoi caniatâd rhyw. Ond roedd y ferch yn amlwg wedi meddwi’n gaib ac yn ddiarth iddo. Ceisiodd ddadlau bod y ferch wedi rhoi caniatâd, ond derbyniwyd nad oedd mewn cyflwr call i roi caniatâd am ei bod wedi meddwi gormod.

Tri mwnci doeth ar gyfer erthygl caniatâd

Arwyddion di-eiriau

Felly os nad yw rhywun yn dweud ‘na’ sut mae person yn fod i wybod os yw’r person arall ddim eisiau rhyw, neu os ydynt eisiau stopio? Mae yna arwyddion di-eiriau dylai rhywun eu hadnabod. Efallai nad ydynt yn teimlo’n gyfforddus yn dweud ‘na’ neu ‘stop’ ond byddant yn dangos hyn mewn ffordd wahanol. Efallai wrth geisio tynnu’n ôl, tynnu dwylo’r person oddi ar eu corff, crio, edrych neu ymddwyn yn ofnus neu wedi gofidio, cadw eu coesau ar gau neu geisio dianc. Er yr arwyddion di-eiriau yma, efallai bydd rhai pobl yn mynnu ei fod yn gydsyniol gan nad oedd y person wedi dweud ‘na’. Mae’r gyfraith wedi newid; mae’r un sydd wedi’i gyhuddo bellach yn gorfod profi bod yr un sydd yn gwneud y cyhuddiad wedi cytuno i gael rhyw.

Felly, er bod y llinellau yn gallu bod yn aneglur os oes cyffuriau neu alcohol yn rhan ohono, mae’n hanfodol dy fod di’n ymwybodol o ganiatâd. Nid yw’r ffaith nad ydynt wedi dweud ‘na’ yn golygu eu bod yn rhoi caniatâd.

**Mae’n hanfodol deall nad yw’n bosib i ti roi caniatâd yn gyfreithiol os wyt ti o dan 16 oed, gan dy fod di dal yn blentyn yn ôl y system gyfreithiol. Mae rhai pobl ifanc yn dewis cael rhyw cyn iddynt fod yn ddigon hen yn gyfreithiol, ond mae hyn yn cael ei ystyried fel torri’r gyfraith. Efallai bydd yr heddlu yn dewis gwneud dim yn y sefyllfa yma, ond nid all gwarantu hyn. Mae’r heddlu yn cosbi bob tro os yw un person dan 13 oed.**

Edrycha ar ein herthyglau eraill ar gyfer Wythnos Iechyd Rhyw: Caniatâd:

Angen gwybodaeth bellach?

Os wyt ti’n ansicr am ganiatâd ac eisiau trafod hyn, yna cysyllta gyda ni yma yn Meic. Rydym yma bob dydd rhwng 8yb a hanner nos i gynnig cefnogaeth gyda chyngor a gwybodaeth bellach. Os wyt ti’n meddwl dy fod di’n ddioddefwr ymosodiad rhywiol yna anogwn i ti siarad gydag oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddynt, fel rhiant, doctor, athro neu weithiwr cymdeithasol gall anogi a chefnogi ti i fynd at yr heddlu.

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.