Dewch i Ni Symud Mwy er Lles Ein Hiechyd Meddwl
Mae bod yn actif yn yr awyr agored yn gallu bod yn ffordd wych i roi hwb i dy hwyliau a gwella dy les meddwl.
Rydym yn awyddus i helpu ti i ddechrau symud a phrofi buddion gwyrthiol natur. Felly rydym wedi creu’r ymgyrch yma i annog plant a phobl ifanc Cymru i ddechrau symud mwy, bod allan yn yr awyr agored, a theimlo’r budd o wneud hynny.
Pam bod natur yn llesol i’r iechyd meddwl?
Wedi cael digon o glywed “cer allan i’r awyr agored, mae’n dda i ti“? Ond mae gwir yn hyn! Mae bod allan mewn natur yn dda i’r corff a’r meddwl!
Awgrymiadau cerdded ledled Cymru
Mae cerdded yn weithgaredd effaith isel y gall pobl o bob oed a lefel ffitrwydd ei fwynhau, felly gwisga dy esgidiau cerdded a cher amdani! Mae ein canllaw i 32 Taith Gerdded yng Nghymru yn cynnig llwybrau hyfryd ar gyfer pob lefel, perffaith i ddianc ar ben dy hun am dipyn neu i gael diwrnod o hwyl gyda ffrindiau a theulu.
Parciau Cenedlaethol Cymru
Mae rhai o ardaloedd harddwch naturiol gorau’r Deyrnas Unedig i’w darganfod yma yng Nghymru fach. Rydym yn lwcus iawn o’n tri Pharc Cenedlaethol gyda’u tirwedd, gweithgareddau, a phrofiadau amrywiol.
Cyfleoedd gwirfoddoli yn yr awyr agored
Chwilio am ffordd i gysylltu â natur, gwneud gwahaniaeth, a hybu lles? Mae gwirfoddoli yn yr awyr agored yn ffordd wych o wneud y 3! Mae llawer o gyfleoedd i faeddu’r dwylo (mewn ffordd dda!) wrth gefnogi achosion gwych.
Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol
Cymru, gwlad o fryniau tonnog ac arfordiroedd dramatig. Mae ganddi 5 Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) – trysor o dirweddau amrywiol, pentrefi swynol, a chyfle i ailgysylltu â natur sydd yn llesol iawn i ti.
Bydda’n fwy actif
Nid yw bod yn actif yn golygu mynd i’r ganolfan hamdden bob tro. Mae yna sawl opsiwn i symud y corff sydd yn ffordd hwyl a deniadol i gyflwyno ychydig o egni a positifrwydd i’r dydd.
Gwybodaeth bellach
Cynhyrchwyd yr ymgyrch hon ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2024. Thema eleni yw “Symud: Symud mwy er lles ein hiechyd meddwl”.
Cymera gam tuag at fod yn hapusach ac yn iachach. Symuda, anadla yn yr awyr iach, a phrofa ryfeddodau’r awyr agored! Efallai byddi di’n synnu pa mor dda mae’n gwneud i ti deimlo.
Rydym hefyd yn ymwybodol bod natur a bod yn actif ddim yn wyrth fydd yn gwaredu dy holl broblemau. Er ei fod yn gallu helpu gyda lles a ffordd o fyw yn gyffredinol, weithiau, mae angen ychydig mwy o gymorth arnom ni.
Os wyt ti’n chwilio am rywun i siarad â nhw am rywbeth sydd wedi bod ar dy feddwl, fedri di siarad ag un o gynghorwyr cyfeillgar llinell gymorth Meic. Mae’n wasanaeth cyfrinachol, dienw am ddim i blant a phobl ifanc Cymru. Mae’r llinell gymorth ar agor o 8am tan hanner nos bob dydd, a fedri di sgwrsio yn Gymraeg neu Saesneg. Mae Meic yn rhywun ar dy ochr di.