x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Bod Yn Gyfaill: Sut i Gefnogi Ffrind ar eu Taith Tuag At Sobrwydd

Mae merch ifanc yn ngefndir y llun. Mae hi'n codi ei llaw i ddweud na i wydr o win coch

Mae cefnogi dy ffrind drwy sobrwydd (sobriety) yn dangos dy fod ti’n ffrind da. P’un ai os ydynt yn cymryd seibiant o yfed neu’n ymrwymo i newid eu ffordd o fyw yn yr hirdymor, mae deall sut i fod yn gyfaill da yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr. Dyma ychydig o gyngor i helpu ti gefnogi dy ffrind, heb bregethu na bod yn feirniadol.

Deall y daith

Mae sobrwydd yn newid mawr i fywyd rhywun sydd angen cryfder, dewrder a chefnogaeth gadarn. Gall fod yn anodd addasu i ffordd o fyw newydd, ac mae’n naturiol i ti a dy ffrind wynebu heriau. Bydda’n amyneddgar, paid â beirniadu a chofia bod llwybr bywyd pawb yn wahanol.

Trefnu gweithgareddau cymdeithasol heb alcohol

Un o’r ffyrdd gorau i gefnogi dy ffrind yw awgrymu gweithgareddau hwyl sydd ddim angen alcohol. Anghofia’r noson arferol o fynd i’r bar neu glwb nos a thrïa rhywbeth gwahanol. Beth am fynd i fynydda, gwylio cerddoriaeth byw, cynnal nosweithiau gemau bwrdd neu wirfoddoli? Drwy gynnig gweithgareddau fel hyn, rwyt ti’n eu helpu i gynnal bywyd cymdeithasol bywiog heb deimlo pwysau i yfed.

Cofia, mae’n bosib bydd bar mewn llefydd fel sinemâu a llefydd bowlio deg. Os oes dewis i brynu alcohol, peidiwch â chreu ffỳs am fynd i nôl diod ac annog gweddill dy ffrindiau i ddewis diodydd di-alcohol am y noson.

Grŵp o bobl ifanc yn chwarae gêm o gardiau gyda'i gilydd. Mae un ferch yn pwyntio ar fachgen arall ac yn chwerthin yn hapus.

Paid â rhoi pwysau na chywilyddio neb

Mae’n hollbwysig i beidio rhoi pwysau ar dy ffrind i yfed neu godi cywilydd arnynt am beidio. Mae sylwadau fel “Mae un diod yn iawn” neu “Dwyt ti ddim yn hwyl yn sobor” yn gallu brifo a thanseilio eu hymdrech.

Hyd yn oed os wyt ti’n trio bod yn garedig, paid â phrynu diod alcoholig i dy ffrind os nad ydyn nhw eisiau un. Gofynna os ydynt eisiau diod meddal yn ei le.

Mae’n well osgoi gemau yfed ble mae pobl yn cael eu hannog i yfed gormod ac mae rhai sydd yn dewis peidio chwarae yn teimlo cywilydd am beidio cymryd rhan.

Does dim rhai i dy ffrind sobor fod yn dacsi

Er bod dy ffrind yn sobor does dim rhaid iddynt fod yn dacsi i weddill y criw. Mae awgrymu bod rhaid iddynt yrru yn gwneud iddynt deimlo’n wahanol i’r rhai sydd yn yfed. Paid â rhoi pwysau ar dy ffrind i gymryd cyfrifoldeb dros fynd a phawb adref, yn enwedig rhai sydd wedi cael gormod i yfed ac yn ymddwyn yn wirion. Trefnwch ffordd i bawb fynd adref yn ddiogel – fel edrych ar amseroedd bws neu archebu tacsi. Fodd bynnag, os ydy dy ffrind yn cynnig, mae hynny’n oce – ond sicrha mai ei syniad nhw ydi hyn ac nid dy syniad di.

Bydd yn ymwybodol o dy arferion yfed

Er bod dy ffrind yn dewis peidio yfed, does dim rhaid i ti beidio hefyd. Ond, mae yfed yn ormodol yn gallu gwneud i dy ffrind deimlo’n anghyfforddus, wedi cael eu gadael allan neu wedi eu temptio i yfed. Ystyria dithau gymryd seibiant o alcohol pan fyddi efo dy ffrind. Mae’n ffordd wych o ddangos cefnogaeth a mwynhau amser gyda’ch gilydd. Er enghraifft, os wyt ti mewn parti, gallet ti gael ychydig o ddiodydd di-alcohol neu ddŵr neu ddiod meddal.

Grŵp o 5 person yn eu harddegau yn sefyll ar ben clogwyn ac yn edrych ar yr olygfa. Mae'r awyr yn las ac mae pawb yn codi eu dwylo i ddathlu.

Dathlu pob carreg filltir

Dathla pob carreg filltir mae dy ffrind yn ei gyflawni, dim bwys pa mor fach. Boed o’n wythnos, mis neu flwyddyn o sobrwydd, mae cydnabod eu llwyddiant yn gallu rhoi hwb i’w gymhelliant a’u hunanhyder. Mae gyrru neges destun, ffonio neu anfon anrheg bach yn golygu llawer i rywun ac yn ffordd wych o ddangos cefnogaeth. Gallet ti drefnu digwyddiad bach i ddathlu, fel mynd allan am goffi neu bwdin.

Addysga dy hun

Os nad wyt ti’n gyfarwydd â’r heriau o fod yn sobor, cymer amser i addysgu dy hun. Darllena lyfrau, gwylia raglenni dogfen neu gwranda ar bodlediadau am brofiadau pobl o fod yn gaeth i alcohol a’r gwellhad ar ôl hynny. Mae’r wybodaeth yma yn helpu ti ddeall profiad dy ffrind a chynnig cefnogaeth sydd yn fwy ystyrlon.

Mae gan sefydliadau fel Alcohol Change UK a Drinkaware wefannau sy’n llawn o adnoddau i roi arweiniad i ti.

Cynnig cefnogaeth emosiynol

Mae sobrwydd yn gallu bod yn amser emosiynol a chythryblus. Efallai bydd dy ffrind yn profi ystod eang o deimladau, o gyffro a gobaith i deimlo’n drist ac o dan straen. Bydd yno i wrando heb feirniadu, a phaid â disytyrru eu heriau neu gynnig cyngor diangen. Bydd yno i wrando a dilysu eu teimladau.

Os nad wyt ti’n siŵr beth i’w ddweud, gallet ti siarad â Meic. Bydd un o’n cynghorwyr yn gallu cynnig gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i ti a dy ffrind. Galli di gael cymorth dros y ffon, neges destun a Whatsapp neu sgwrs ar-lein o 8yb i hanner nos bob dydd. Mae’r gefnogaeth yn gyfrinachol ac yn ddienw a gallet ti gael cymorth yn Gymraeg neu yn Saesneg.