x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

9 Ffordd i Gael Hwyl Wrth Gadw’n Actif

Nid yw bod yn actif yn golygu mynd i’r ganolfan hamdden bob tro. Mae yna sawl opsiwn i symud y corff sydd yn ffordd hwyl a deniadol i gyflwyno ychydig o egni a positifrwydd i’r dydd.

Two teen boys fist-bumping in front of gaming PCs
9 Ffordd i Gael Hwyl Wrth Gadw'n Actif

E-Chwaraeon

Anghofia’r stereoteip ‘gamer’ diog llonydd – yn eistedd mewn cadair yn y tywyllwch, gyda goleuadau LED o’u cwmpas. Os wyt ti wrth dy fodd gyda gemau cyfrifiadur, neu eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd, mae yna sîn e-chwaraeon yng Nghymru gallet ti fod yn rhan ohoni. Chwilia am dwrnameintiau neu grwpiau lleol am gemau sy’n symud y corff, fel Just Dance neu Wii Sports. Neu gallet ti fod yn actif mewn rhith-realiti, gyda gemau fel Beat Saber a Superhot. Mae’n ffordd wych o droi chwarae gemau yn brofiad cymdeithasol ac actif.

Teenage boy kayaking in the sea
9 Ffordd i Gael Hwyl Wrth Gadw'n Actif

Lleoliadau antur

Barod am antur? Mae llawer o ganolfannau gweithgareddau awyr agored a grwpiau ieuenctid yng Nghymru yn cynnig gweithgareddau cyffrous fel caiacio, dringo creigiau, neu feicio mynydd. Mae’r gweithgareddau yma’n ffordd wych i archwilio tirweddau godidog Cymru a chael ymarfer corff. Dychmyga badlo ar draws llyn newydd, dringo wyneb craig heriol, neu lwyddo i ddringo llwybr mynydd ar gefn beic! Nid yn unig fydd y galon yn curo, ond byddi di hefyd yn creu atgofion parhaol yng nghanol byd natur.

Lady tying the laces of blue trainers

Ymarfer corff cymunedol

Wyt ti’n chwilio am ffordd gynhwysol i ddechrau rhedeg sydd ddim yn costio’n ddrud i ti? Mae Parkrun yn daith gerdded neu redeg 5km wythnosol wedi’i hamseru a gynhelir mewn nifer o leoliadau ledled Cymru. Ffordd wych i gwrdd â phobl newydd a defnyddio’r egni yna mewn amgylchedd croesawgar ac sy’n rhoi anogaeth. Paid phoeni os wyt ti’n newydd i redeg – mae croeso i bob gallu! Mae llawer o grwpiau cerdded lleol hefyd yn bodoli, sy’n cynnig cyfle i archwilio natur, cymdeithasu, a llwyddo i daro dy gamau dyddiol.

Youtube app open on mobile phone
9 Ffordd i Gael Hwyl Wrth Gadw'n Actif

Apiau ffitrwydd

Nid oes angen aelodaeth i unrhyw gampfa! Mae sawl ap am ddim a sianeli ar-lein lle gellir darganfod ymarferion cadw’n heini ar gyfer pob lefel ffitrwydd. Chwilia YouTube i ddarganfod rhywbeth sy’n addas i ti, boed hynny’n codi pwysau, cardio, neu ffitrwydd dawns. Mae yna sawl ap am ddim sy’n darparu sesiynau tiwtorial dan arweiniad, arferion cadw’n heini, neu ffordd i dracio dy weithgareddau, fel Couch to 5K. Mae hyn yn dy alluogi i fod yn actif gartref neu yn yr awyr agored, gan ddilyn rhaglen sy’n dy ysgogi ac yn cadw diddordeb.

Lady cycling in road with helmet on

Cymudo actif

Yn lle teithio ar y bws neu gar i bobman, beth am feicio neu gerdded i’r ysgol neu’r gwaith pan fo modd? Ffordd wych o gael rhywfaint o weithgaredd yn dy drefn ddyddiol. Os wyt ti eisiau mynd gam ymhellach, fe allech ti drefnu her cerdded neu feicio gyda ffrindiau – gosod nodau pellter neu amser, gan ychwanegu elfen gystadleuol at y daith i’r llefydd rwyt ti angen teithio iddynt.

Teenage boy doing a jumping kick in karate uniform
9 Ffordd i Gael Hwyl Wrth Gadw'n Actif

Cadw’n heini fel grŵp

Mae llawer o ganolfannau cymunedol neu gampfeydd lleol yn cynnig dosbarthiadau ffitrwydd o bob math, o Zumba a dawnsio neuadd, i focsio neu karate. Edrycha ar hysbysfwrdd dy ganolfan gymunedol leol, cylchgronau, neu restrau dosbarthiadau sydd i’w gweld ar-lein. Mae digwyddiadau Facebook ac Eventbrite yn llefydd da i chwilio hefyd. Weithiau, mae posib cael sesiwn blasu am ddim i weld os wyt ti’n ei hoffi. Gallet ti fynd a ffrind gyda thi hefyd.

Group of volunteer litter pickers outdoors in a field
9 Ffordd i Gael Hwyl Wrth Gadw'n Actif

Gwirfoddoli gwahanol

Chwilia am gyfleoedd gwirfoddoli sydd yn cynnwys gweithgareddau corfforol, fel helpu i gynnal a chadw parc neu lanhau traeth. Mae’n ffordd wych i gyfrannu i dy gymuned, i gael ychydig o ymarfer corff, a mwynhau’r awyr agored. Cysyllta â’r cyngor lleol neu sefydliadau amgylcheddol i weld pa gyfleoedd gwirfoddol sydd ar gael. Efallai byddi di’n synnu gyda’r amrywiaeth o ddewisiadau!

Two young adults rummaging at the trunk of a tree

Geogelcio

Cyfuna gerdded gyda helfa drysor. Mae Geogelcio yn defnyddio GPS i arwain ti ar antur i ddarganfod cynhwysydd cudd (celc) sydd wedi’u gosod o amgylch y byd. Mae’n ffordd hwyliog o archwilio llefydd newydd, cael ychydig o awyr iach, ac ychwanegu ychydig o gyffro i deithiau cerdded. Defnyddia ap ‘Geocaching‘ a dechrau archwilio gemau cudd yn dy ardal di! Cofia fod yn ofalus i beidio â cherdded ar draws tir preifat, a rho wybod i rywun ble rwyt ti’n bwriadu mynd i archwilio bob tro.

Teen boy running fast on rugby court
9 Ffordd i Gael Hwyl Wrth Gadw'n Actif

Chwaraeon Traddodiadol

Mae gan Gymru dreftadaeth chwaraeon cyfoethog. Rho gynnig ar rygbi, camp a fydd yn gwneud i’r galon rasio a phrofi dy sgiliau gwaith tîm. Neu efallai criced, gêm strategol sy’n gofyn i ti ganolbwyntio a chael cydlyniad llaw-llygad. Mae pêl-rwyd yn opsiwn gwych arall, gan gynnig camp tîm cyflym a deinamig. Mae clybiau neu grwpiau lleol yn aml yn darparu ar gyfer dechreuwyr, felly paid â bod ofn, gofynna gwestiynau, a rho gynnig arni – efallai y byddi di’n darganfod talent gudd!


Felly rho’r pymps ymlaen, cydia yn dy ffrindiau, a bydda’n barod i symud y corff! Gydag ychydig o greadigrwydd, gallet ti ddod o hyd i weithgareddau rwyt ti’n gallu mwynhau a gwneud ffitrwydd yn rhan o dy fywyd.