Sut i Gychwyn Sgwrs i Rannu Problem
Wrth roi cyngor yma yn Meic, byddem yn aml yn awgrymu siarad gydag oedolyn gallet ti ymddiried (trust) ynddynt. Ond, efallai nad wyt ti’n siŵr iawn sut i gychwyn siarad â nhw. Dyma ychydig o gyngor am sut i gychwyn sgwrs.
This article is also available in English – click here
Beth ydy oedolyn gallet ti ymddiried ynddynt?
Mae sawl person yn dy fywyd gallet ti ystyried fel oedolyn rwyt ti’n gallu ymddiried ynddynt. Dyma berson rwyt ti’n teimlo’n gyfforddus â nhw, gallet ti siarad â nhw, a fydda’n gallu helpu ti os wyt ti angen help. Gall fod yn rhiant, modryb neu ewythr, nain neu daid, athro, gweithiwr ieuenctid, neu riant i ffrind.
Paid â theimlo fel dy fod di’n boen ar neb. Bydd y mwyafrif o bobl yn hapus dy fod di wedi gofyn am help. Ond, yn y sefyllfa annhebyg bod y person rwyt ti wedi’i ddewis ddim â diddordeb yn helpu, paid rhoi’r ffidl yn y to – meddylia am rywun arall a rhoi tro arall arni.
Pryd dylwn i gychwyn sgwrs?
Dewis cyfnod tawel a gofyn am gyngor ar rywbeth. Beth yw’r peth gwaethaf gallai ddigwydd?
Os nad yw’n bosib dod o hyd i amser tawel, yna dweud wrthynt dy fod di angen sgwrs am rywbeth pwysig a gofyn a allant roi gwybod i ti pan fydd ganddynt amser rhydd i siarad. Paid bod ofn eu hatgoffa os ydynt yn anghofio dy fod di wedi gofyn.
Sut ydw i’n codi’r peth?
Gallet ti yrru neges ar blatfform mae’r ddau ohonoch yn ei ddefnyddio i gyfathrebu.
Beth am adael nodyn? Weithiau efallai dy fod di angen ateb, ond ddim eisiau i’r person wybod mai ti sydd wedi gofyn y cwestiwn. Gallet ti adael nodyn dienw yn gofyn i’r athro roi cyngor ar bwnc rwyt ti’n ansicr amdano i’r dosbarth cyfan.
Gofynna gwestiwn yn ddiffwdan pan fyddi di efo pobl rwyt ti’n teimlo bydd yn gallu rhoi ateb dibynadwy.
Sut ydw i’n cychwyn sgwrs?
Gallet ti roi tro ar rai o’r brawddegau yma i gychwyn sgwrs:
- Dwi ddim yn deall…, fedrwch chi egluro os gwelwch yn dda?
- Beth fyddech chi’n ei wneud os…?
- Plîs, fedrwn ni gael sgwrs am…?
- Gallaf weld eich bod yn brysur ar hyn o bryd, ond oes posib siarad am rywbeth pan fydd gennych chi 5 munud os gwelwch yn dda?
- Rwyf angen cyngor ar…
- Ydych chi wedi meddwl am…?
Beth os nad oes gen i neb i siarad â nhw?
Os wyt ti’n teimlo fel nad oes neb gallet ti siarad â nhw, yna mae llinell gymorth Meic yma i ti bob dydd. Efallai bydd yn haws gen ti i siarad gyda rhywun nad wyt ti’n adnabod. Ni fyddem yn gwybod pwy wyt ti nac ble rwyt ti’n byw. Rydym yma i wrando a chynnig gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth am ddim a chyfrinachol rhwng 8yb a hanner nos bob dydd. Felly, os oes gen ti broblem, gallet ti bwyso ar Meic bob tro. Galwa, gyrru neges testun neu sgwrsia ar-lein.
Beth sydd yn digwydd pan dwi’n siarad â Meic?
Gelwir y bobl sydd yn gweithio i Meic yn eiriolwr gynghorwr llinell gymorth. Enw reit ffansi, ond yn y bôn mae’n golygu bod nhw wedi’u hyfforddi i helpu, ac maen nhw’n bobl hyfryd hefyd. Pan fyddi di’n cysylltu â Meic, byddant yn siarad â thi am dy broblem, yn cynnig cyngor ac yn darganfod ffordd o helpu. Beth bynnag yw’r broblem, bydd y cynghorydd eisiau gwybod beth yw dy obeithion o gysylltu â’r llinell gymorth, ac os oes rhywbeth hoffet ti stopio, cychwyn neu newid yn dy fywyd. Byddant yn helpu ti i ddarganfod dy opsiynau a meddwl am gynllun i wneud newidiadau. Byddant yn darganfod y bobl/gwasanaethau gorau i roi help i ti.
Maent yn gallu helpu ti i gysylltu â’r bobl/gwasanaethau yma hefyd. Gallant gysylltu ar dy ran os wyt ti’n teimlo nad allet ti, a gallant greu galwad tair ffordd hefyd. Golygai hyn y gallan nhw gysylltu â’r gwasanaeth tra rwyt ti ar y ffôn a dy helpu di i egluro dy broblem, fel nad oes rhaid i ti ailadrodd pethau drwy’r adeg i wahanol bobl (gelwir hyn yn bod yn ‘eiriolwr’ i ti).
Gobeithiwn fod y cyngor yma wedi bod yn ddefnyddiol ac y gallet ti siarad gyda rhywun am dy broblemau pan fyddi di angen.