Anghofia’r Addunedau – Gwna Newidiadau Positif!
Mae llawer ohonom yn gwneud adduned yn fis Ionawr, newidiadau yn ein ffordd o fyw fel arfer i geisio bod yn iachach neu’n hapusach. Mae newidiadau positif yn gallu gwneud i ti deimlo’n dda, ond os wyt ti’n stryglo yn barod, mae addunedau sydd yn anodd eu cadw yn gallu gwneud i ti deimlo’n fethiant. Gwna’r hyn sydd yn teimlo’n iawn i ti, a phaid rhoi pwysau ar dy hun.
This article is also available in English – click here
Gellir gwneud newidiadau positif unrhyw amser yn ystod y flwyddyn; nid oes rhaid iddo fod yn adduned blwyddyn newydd! Os wyt ti’n teimlo bod pethau ddim yn grêt, mae penderfynu newid rhywbeth yn gallu cael effaith bositif iawn ar dy fywyd. Os yw pethau’n llithro, paid rhoi’r ffidl yn y to. Atgoffa dy hun am y rheswm roeddet ti eisiau gwneud y pethau yma, a chychwyn eto. Ond, os wyt ti’n meddwl nad yw’r newidiadau yma yn iawn i ti, ac yn gwneud i ti deimlo’n ddigalon, yna paid bod ofn stopio a rhoi tro ar rywbeth gwahanol yn lle hynny. Dyma ychydig o syniadau gan Meic am y pethau gallet ti ei wneud i helpu dy gorff a dy feddwl eleni.
Newid yr hyn rwyt ti’n bwyta?
Mae llawer o bobl yn rhoi tro ar ddiet ffasiynol neu Veganuary yn y flwyddyn newydd, i geisio colli pwysau ar ôl teimlo fel eu bod wedi gorwneud pethau dros y Nadolig. Ond, dyw’r ffaith bod pobl eraill yn troi’n fegan neu’n yfed ysgytlaeth slimio yn fis Ionawr ddim yn golygu bod rhaid i ti hefyd. Mae posib gwneud newidiadau, dilyn diet iach a bwyta’r bwydydd rwyt ti’n ei fwynhau o hyd. Gwna ddewisiadau sydd yn iawn i ti.
Mae’r GIG yn argymell bwyta llai o gig coch. Tra bod cig yn uchel mewn protein a fitaminau, mae’n gallu bod yn uchel mewn braster dirlawn (saturated fat), ac nid yw hyn yn grêt i’r corff os wyt ti’n bwyta gormod. Mae newidiadau bach yn gallu bod yn fuddiol i iechyd, fel dewis llai o gig â braster, peidio ychwanegu olew, grilio yn hytrach nag ffrio, ychwanegu mwy o lysiau mewn prydau ac efallai cael ychydig o ddiwrnodau heb gig a dewis pysgod neu fwyd fegan/llysieuol yn lle. Edrycha ar y Canllaw Bwyta’n Dda, sydd â llawer o gyngor i ddilyn diet iachach.
Sicrha dy fod di’n yfed digon hefyd. Mae yfed 6-8 gwydriad o ddŵr y dydd (ychwanegu diod heb siwgr os wyt ti eisiau) a bwyta o leiaf 5 dogn o ffrwythau neu lysiau bob dydd yn dda i ti.
Llai o alcohol?
Mae rhai pobl yn yfed alcohol am ei fod yn beth cymdeithasol; mae’n gallu ymlacio rhywun a gwneud iddynt deimlo’n fwy hyderus. Mae rhai pobl yn yfed gormod ac yn ei chael yn anodd stopio. Mae llawer o bobl yn dewis peidio yfed o gwbl ac yn gallu cael hwyl o hyd. Nid yma i swnian bod yfed alcohol yn ddrwg ydym ni; dim ond eisiau i ti fod yn ymwybodol o’r peryglon o yfed gormod.
Mae yfed gormod yn gallu bod yn ddrwg i iechyd. Ceisia yfed yn araf ac yfed dŵr rhwng diodydd. Mae yfed yn drwm dros gyfnod o amser yn gallu arwain at broblemau iechyd tymor hir fel clefyd afu (liver disease) yn ogystal ag iechyd meddwl gwael. Rho dro ar y cwis hunanasesu yma ar wefan drinkaware i weld os wyt ti efallai’n yfed gormod.
Pan fyddi di’n yfed gormod o alcohol, gall fod yn anodd gweld y peryglon. Cadwa gyda dy ffrindiau, ac osgoi rhoi dy hun mewn sefyllfaoedd ble rwyt ti dy hun neu gyda phobl sydd yn eithaf diarth i ti. Gofyn i dy ffrindiau gadw llygaid arnat ti, a chadwa di lygaid ar dy ffrindiau hefyd.
Paid yfed gormod i geisio cael gwared ar deimladau negyddol. Os wyt ti’n drist, mae’n debygol y bydd yn gwneud i ti deimlo’n fwy diflas; os wyt ti’n flin, gall wneud ti’n fwy blin. Siarada gyda rhywun os wyt ti’n cael meddyliau neu deimladau negyddol, osgo ddefnyddio alcohol neu gyffuriau i geisio lleihau’r teimladau yma. Nd yw papuro dros y craciau yn gweithio; mae angen targedu’r problemau er mwyn dechrau teimlo’n well.
Os wyt ti’n teimlo fel bod alcohol yn dechrau dod yn broblem ac eisiau siarad gyda rhywun am y peth, cysyllta â ni yma ar linell gymorth Meic, a gallem ddod o hyd i’r cymorth cywir i ti. Manylion cyswllt isod. Mae gan GIG Cymru wybodaeth a chanllawiau yfed alcohol ar eu gwefan gan gynnwys dolenni i gymorth pellach.
Cadw’n heini dy ffordd di
Mae cadw’n heini yn ffordd dda i gadw’n iach a theimlo’n well. Mae ymarfer corff yn creu cemegyn gelwir yn endorffin yn y corff. Cemegyn teimlad-da yw hwn, sydd yn gallu gwella hwyliau a lleihau iselder. Efallai byddi di’n cael noson well o gwsg hefyd.
Mae yna lawer o raglenni ymarfer corff am ddim gellir eu dilyn ar YouTube, ond os yw’r tywydd yn dda, mae yna fuddiannau ychwanegol i gadw’n heini yn yr awyr agored. Mae awyr iach, a natur yn wych i iechyd corfforol a meddyliol. Nid oes rhaid bod yn ffrîc ffitrwydd i gael ymarfer corff ac awyr iach. Cer i redeg os wyt ti eisiau, ond gallet ti fynd i gerdded, cicio pêl, mynd ar gefn beic/sgwter/sgrialfwrdd (neu unrhyw olwynion eraill!), ymarfer ychydig o ioga neu chwarae yn y parc.
Mae yna ddigonedd o weithgareddau ymarfer corff sydd ddim yn gorfod teimlo’n ddiflas. Rho dro ar rywbeth arall os wyt ti’n teimlo fel bod gweithgaredd penodol ddim yn gweithio i ti.
Gwneud amser i ti
Pan fydd bywyd yn brysur, gall fod yn anodd meddwl am dy hun. Mae hunanofal yn bwysig. Rhaid gwneud amser i ti, a gwneud pethau sydd yn gwneud i ti deimlo’n dda. Mae gwneud rhywbeth i ti dy hun yn bwysig iawn i’r iechyd meddwl, dyma ychydig o syniadau:
- Peintio dy ewinedd
- Cael allan i natur
- Dawnsio
- Gosod targedau
- Cysylltu gyda hen ffrindiau
- Gwylio ffilm
- Rhestru’r hyn rwyt ti’n hoffi am dy hun
- Cysgu
- Crefftio
- Cael ‘clear-out’
- Ymarferion anadlu
- Gwrando ar gerddoriaeth
- Darllen llyfr
- Ysgrifennu cerdd
- Cael bath
- Prynu rhywbeth neis i dy hun
Mae siarad yn dda
Os wyt ti’n cadw pethau i ti dy hun a ddim yn siarad gyda rhywun am y pethau sydd yn dy boeni, gall wneud i bethau teimlo’n waeth yn aml. Mae’r dywediad ‘mae rhannu’r baich yn haneru’r baich’ yn wir! Gall rhannu rhywbeth gyda rhywun arall wneud i ti boeni llai. Gall dweud rhywbeth yn uchel deimlo fel bod pwysau mawr yn diflannu , ond mae dweud wrth rywun hefyd yn ffordd i gael y cymorth sydd ei angen a gwneud newidiadau positif yn dy fywyd. Os wyt ti’n ansicr sut i gychwyn cwrs gyda rhywun am y pethau sydd yn dy boeni, cer draw i weld ein cyngor yn y blog yma.
Os wyt ti’n teimlo fel nad allet ti siarad â neb, yna mae’r llinell gymorth Meic yma i ti bob dydd. Efallai bydd hi’n haws i ti siarad gyda rhywun sydd yn ddiarth i ti. Nid ydym yn gwybod pwy wyt ti nac ble rwyt ti’n byw. Rydym yma i wrando a chynnig gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth gyfrinachol ac am ddim rhwng 8yb a hanner nos bob dydd. Felly, os oes gen ti broblem, mae posib pwyso ar Meic am gefnogaeth o hyd. Ffonia, gyrra neges testun neu sgwrsia gyda ni ar-lein.