x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Parciau Cenedlaethol Cymru – Anturiaethau Mawr yn Aros Amdanat

Mae rhai o ardaloedd harddwch naturiol gorau’r Deyrnas Unedig i’w darganfod yma yng Nghymru fach. Rydym yn lwcus iawn o’n tri Pharc Cenedlaethol gyda’u tirwedd, gweithgareddau, a phrofiadau amrywiol.

Mynyddoedd gwyrdd gydag afonydd a chymylau gwyn yn yr awyr - Parc Cenedlaethol Eryri

1. Parc Cenedlaethol Eryri

  • Sefydlwyd: 1951
  • Yn enwog am: Yr Wyddfa, copa uchaf Cymru yn 1,085 metr (3,560 troedfedd). Dyma’r Parc Cenedlaethol mwyaf yng Nghymru.
  • Tirwedd: Cadwyn o fynyddoedd dramatig, dyffrynnoedd rhewlifol, llynnoedd digyffro a thawel fel Llyn Ogwen, rhaeadrau hyfryd, a choetiroedd hynafol.
  • Gweithgareddau: Heicio (gan gynnwys dringo’r Wyddfa), beicio mynydd, dringo creigiau, ac archwilio safleoedd hanesyddol fel cestyll a chaerau.
  • Perffaith ar gyfer: Heicwyr, dringwyr, ceiswyr antur, a’r rhai sydd yn hoff o her.

Gair o gyngor: Mae Eryri yn lleoliad poblogaidd iawn. Mae’n syniad ymweld yn y gwanwyn neu’r hydref i osgoi’r torfeydd mawr. Os wyt ti eisiau dringo’r Wyddfa, cofia mai mynydd yw hwn, nid taith gerdded cefn gwlad hamddenol. Mae’r tywydd yn gallu bod yn wahanol iawn ar y brig, felly  cynllunia dy daith o flaen llaw – gwisga ddillad ac esgidiau addas ar gyfer y gweithgaredd, cynllunia dy lwybr a dweud wrth rywun y ffordd rwyt ti’n bwriadu mynd.

Craig ger y môr gyda chraig yn creu arch i mewn i'r môr glas - Parc Cenedlaethol Penfro

2. Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

  • Sefydlwyd: 1952
  • Yn enwog am: Arfordir syfrdanol yn ymestyn dros 300 cilomedr (186 milltir) gyda chlogwyni garw, traethau tywodlyd, cildraethau cudd, ac ynysoedd pell o’r lan.
  • Tirwedd: Clogwyni dramatig, cildraethau cysgodol, traethau ysblennydd, ac amgylchedd morol unigryw sy’n llawn bywyd gwyllt.
  • Gweithgareddau: Arfordiro (archwilio’r arfordir ar droed a nofio trwy ogofâu), caiacio, syrffio, gwylio bywyd gwyllt (morloi, dolffiniaid, palod), ac archwilio trefi a phentrefi arfordirol hyfryd.
  • Perffaith ar gyfer: Pobl sy’n hoffi’r dŵr, rhai sy’n frwd ar fywyd gwyllt, teuluoedd sydd eisiau hwyl ar y traeth, a’r rhai sy’n mwynhau archwilio pentrefi a phorthladdoedd hanesyddol.

Gair o gyngor: Mae Llwybr Cenedlaethol Arfordir Penfro yn llwybr hir (268km/167milltir) addas ar gyfer cerddwyr profiadol, tra bod darnau byrrach ohoni yn berffaith ar gyfer teithiau mwy hamddenol.

Mynydd serth gwyrdd
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

3. Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

  • Sefydlwyd: 1957
  • Yn enwog am: Fryniau tonnog, dyffrynnoedd dwfn, rhaeadrau trawiadol fel Rhaeadr Sgwd Henrhyd, a sawl cronfa ddŵr enfawr. Yn enwog am nad oes llawer o lygredd golau sydd yn creu lleoliad delfrydol i wylio’r sêr.
  • Tirwedd: Bryniau tonnog, mynyddoedd garw, rhaeadrau swynol, ogofâu, a chronfeydd dŵr digyffro a thawel.
  • Gweithgareddau: Teithiau cerdded golygfaol, marchogaeth, beicio, archwilio ogofâu, a gwylio’r sêr yn y nos.
  • Perffaith ar gyfer: Heicwyr, pobl sy’n caru natur ac yn chwilio am awyrgylch mwy ymlaciol, marchogion, beicwyr, a phobl sy’n hoff o wylio’r sêr.

Gair o gyngor: Mae Ffordd y Bannau yn llwybr hir (107km/66milltir) sy’n croesi calon y parc. Mae yna gylchdeithiau cerdded byrrach sy’n berffaith ar gyfer archwilio ardaloedd llai.


Mae cerdded yn ffordd wych i ddysgu mwy am Gymru, archwilio’r cyfrinachau prydferth, a chael cyfle i fod yn fwy actif. Beth bynnag yw dy ddiddordebau neu lefel ffitrwydd, mae Parciau Cenedlaethol Cymru yn cynnig digonedd o harddwch naturiol a gweithgareddau i’w harchwilio.

Mae bod yn yr awyr agored ac ymarfer corff yn ffordd wych i hybu lles. Felly, gwisga esgidiau addas, cofia fynd â dy synnwyr o antur, a cher i ddarganfod hud Cymru!