Gemau Ar-lein: I Gymdeithasu, Mae Rhaid i Ti Fod Ar-lein
Mae chwarae gemau ar-lein yn ffordd wych i gysylltu gyda ffrindiau, cael hwyl, a dianc o dy fywyd go iawn am gyfnod. Ond, wyt ti erioed wedi ystyried faint mae dy fywyd cymdeithasol yn dibynnu ar fod ar-lein?
Cymdeithasu drwy chwarae gemau
Wyt ti erioed wedi meddwl bod rhaid i ti fod ar-lein er mwyn cymdeithasu? Bron fel bod rhaid i ti fod ar wahân i dy ffrindiau unai drwy gyfryngau cymdeithasol neu gemau ar-lein er mwyn cysylltu gyda nhw.
Er mwyn bod ar-lein, ti angen consol neu PC, a chysylltiad da i’r we. Os nad wyt ti neu dy deulu yn gallu fforddio rhain, neu os ti ddim yn hoff iawn o chwarae gemau, ti’n cael dy adael allan braidd.
Ble arall galli di fynd efo dy ffrindiau? Does dim llawer o fechgyn dy oedran di eisiau mynd i wneud eich gwallt neu ewinedd, neu fynd i siop goffi. Os ydych chi’n cwrdd mewn llefydd cyhoeddus fel parciau gall pobl feddwl eich bod am achosi trwbl neu ymddwyn yn wrthgymdeithasol. Ar ben hynny, mae’r tywydd oer a gwlyb yng Nghymru yn ei gwneud hi’n anodd i fod tu allan.
Mae’n anodd. Galli di deimlo’n unig, yn rhwystredig neu ychydig bach ar goll. Dyma gyngor ar sut i gymdeithasu gyda dy ffrindiau tu allan i gemau ar-lein.
Chwarae mwy o gemau yng nghwmni eich gilydd
Yn yr oes ddigidol, mae’n hawdd anghofio’r hwyl o chwarae gyda’ch gilydd wyneb yn wyneb. Mae chwarae gemau ar y cyd yn ffordd wych o gysylltu gyda ffrindiau a chreu atgofion.
Beth am wahodd dy ffrindiau draw gyda’u cyfrifiaduron, a profwch y cyffro o chwarae yng nghwmni eich gilydd. Boed o’n antur ar y cyd neu’n gêm aml chwaraewr gystadleuol, mae chwarae gyda’ch gilydd yn gallu cryfhau eich perthynas a chreu profiadau gwych.
Os dydi chwarae adref ddim yn bosib, neu os wyt ti’n dymuno cwrdd â phobl newydd sy’n rhannu’r un diddordeb mewn gemau, ystyria ymuno â chlwb ieuenctid lleol. Mae gan nifer o glybiau ieuenctid glybiau gemau ble gallet ti gysylltu gyda phobl ifanc eraill a chymryd rhan mewn digwyddiadau.
Dod o hyd i ffyrdd eraill o gysylltu
Er bod gemau ar-lein yn ffordd boblogaidd o gymdeithasu, nid dyma’r unig ddewis. Mae llawer o ffyrdd i gyfarfod pobl newydd a gwneud ffrindiau. Beth am ymuno gyda chlwb neu dîm chwaraeon newydd? Boed o’n glwb llyfrau, gwyddbwyll neu dîm pêl-droed, mae’r grwpiau yma yn gyfle i ti gwrdd â phobl gyda diddordebau tebyg.
Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o gysylltu gyda eraill a rhoi dy amser i’r gymuned. Gallet ti wirfoddoli gydag elusen leol, canolfan i anifeiliaid neu ganolfan gymuned.
Mae treulio amser gyda theulu a ffrindiau yn bwysig iawn. Cynllunia weithgareddau fel nosweithiau gemau bwrdd, gwylio ffilm neu fynd ar antur yn yr awyr agored i gryfhau eich perthynas.
Cofleidia dy ddiddordebau
Os nad yw chwarae gemau i chdi, paid â gorfodi dy hun i ffitio fewn. Canolbwyntia ar dy ddiddordebau dy hun. Boed o’n gerddoriaeth, codio neu ysgrifennu, mae gwneud be sy’n dy ddiddori yn gallu arwain at gysylltiadau a ffrindiau newydd.
Ymuna gyda fforymau neu gymunedau ar-lein sy’n berthnasol i dy ddiddordebau er mwyn cysylltu gyda phobl sy’n debyg i ti. Cofia gadw’n ddiogel ar-lein.
Ymchwilia i weithdai, dosbarthiadau neu gynadleddau i wneud â dy ddiddordebau er mwyn cyfarfod pobl newydd a dysgu sgiliau newydd.
Cofia, mae’n iawn i fod yn wahanol. Cofleidia’r pethau sy’n gwneud chdi’n unigryw ac mi wnei di ddod o hyd i bobl sydd yn dy werthfawrogi am bwy wyt ti.
Siarad â rhywun
Os wyt ti’n teimlo’n unig, yn bryderus neu o dan straen, plîs siarada gyda rhywun ti’n ymddiried ynddyn nhw. Mae siarad gyda ffrind, aelod o’r teulu neu therapydd yn gallu helpu ti brosesu dy emosiynau a datblygu ffyrdd o ymdopi. Gallent gynnig cefnogaeth, cyngor a chlust i wrando.
Paid â bod ofn rhannu dy deimladau, hyd yn oed os ydy hynny’n anodd. Mae bod yn agored yn helpu i leihau straen a gwella dy iechyd meddwl. Mae gofyn am help yn arwydd o gryfder, nid gwendid.
Os dwyt ti ddim yn siŵr at bwy i droi, gallet ti di siarad â Meic. Meic yw’r llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru. Galli di siarad gyda chynghorydd bob dydd o 8yb tan hanner nos. Galli di gysylltu gyda’r llinell gymorth yn Gymraeg neu’n Saesneg ar y ffôn, neges Whatsapp, neges destun neu sgwrs ar-lein.