Ailgysylltu Gyda Ffrindiau Dros y Nadolig

Mae’r Nadolig yn gyfle i ymlacio ac ailgysylltu gyda theulu a ffrindiau. Efallai bod dipyn o amser wedi pasio ers i chi weld eich gilydd ac mae’n normal teimlo ychydig yn bryderus. Os wyt ti’n teimlo’n nerfus am yr aduniad, dyma gyngor i helpu i leihau dy nerfau a gwneud y mwyaf o’ch amser gyda’ch gilydd.
Osgoi cymharu dy hun
Mae’n debygol y byddwch i gyd ar lwybrau gyrfa neu addysg gwahanol, efallai bydd rhai mewn perthynas newydd neu eraill wedi symud i fyw. Efallai ti’n teimlo fod dy ffrindiau wedi symud ymlaen a setlo lawr, ac yn ofni cael dy farnu am dy amgylchiadau bywyd presennol. Paid â mesur hapusrwydd neu lwyddiant yn ôl y swyddi sydd gan bobl neu’r cwrs maent yn ei astudio. Mae’n iawn i wneud rhywbeth gwahanol i dy ffrindiau, canolbwyntia ar dy dargedau personol ac osgoi cymharu dy hun â phobl eraill.
A fydd gennym ni unrhyw beth yn gyffredin?
Efallai bydd rhai ffrindiau yn y grŵp yn agosach neu wedi tyfu ar wahân. Mae’n normal i hyn ddigwydd, yn enwedig os yw rhai pobl yn cwrdd yn amlach. Efallai eich bod wedi aros mewn cysylltiad dros y ffôn, ond heb gwrdd wyneb yn wyneb. Mae’n iawn i deimlo ychydig yn bryderus am hyn. Mae’n anodd cadw cysylltiad dros y ffôn, ac mae bywydau pawb yn brysur.
Efallai bod gen ti ddiddordebau newydd, ac nid wyt ti’n mwynhau yr un pethau dim mwy. Mae hyn yn normal ac yn ran o dyfu fyny. Cyfathreba gyda dy ffrindiau a gad iddyn nhw wybod am unrhyw newid yn dy fywyd. Os wyt ti wedi cychwyn pennod newydd mae’n hawdd i deimlo’n gyffrous ac eisiau rhannu popeth gyda dy ffrindiau. Ond, gwna dy orau i wrando a gofyn cwestiynnau iddyn nhw hefyd. Drwy ddangos diddordeb ym mywydau eich gilydd, gallwch chi ailgysylltu a dal i fyny.
Cynnig trefnu gweithgaredd
Mae’r Nadolig yn amser prysur i bawb felly cysyllta mewn da bryd i gynnig dyddiad ac amser fydd yn gweithio i bawb. Beth am drefnu gweithgaredd syml gallwch chi wneud yn lleol? Gallwch wneud rhywbeth oeddech chi arfer wneud gyda’ch gilydd neu drio rhywbeth newydd. Gallet ti rannu gêm newydd ti di gychwyn chwarae neu fynd i wylio band mae dy ffrind wedi’i ddarganfod yn ddiweddar. Drwy rannu diddordebau rydych yn creu cysylltiadau newydd ac yn mwynhau profiadau gwahanol.
Cyngor ar gyfer yr aduniad
Dyma ychydig o gyngor i helpu ti wneud y mwyaf o’r amser gyda’ch gilydd:
- Cyfarfod yn unigol gyntaf: Trïa gyfarfod cwpl o dy ffrindiau yn unigol gyntaf cyn cwrdd fel grŵp.
- Siarad gyda dy ffrindiau: Rho wybod i dy ffrindiau pryd fyddi di adref a dy fod ti’n edrych ymlaen at ei gweld.
- Cyfathrebu: Bydda’n onest ac yn agored. Mae hen ffrindiau yn dy ‘nabod yn dda a gallent gynnig cyngor gwych.
- Rheoli dy ddisgwyliadau: Derbyn y ffaith gall perthynas rhwng ffrindiau newid. Paid â phoeni am wneud popeth yn berffaith, mae perthynas yn gallu teimlo’n wahanol gydag amser.
- Nid yw’r Nadolig yn amser hapus i bawb: Cofia bod gan dy ffrindiau eu pryderon eu hunain am yr adeg yma o’r flwyddyn. Siarada gyda nhw a bydd yno i gynnig cymorth.
Os nad yw pethau’n teimlo yr un peth
Paid â rhoi pwysau arnat ti i wneud popeth yn berffaith. Does dim rhaid gwneud ffỳs mawr dros yr aduniad. Weithiau byddwch yn clicio yn syth, ac weithiau bydd pethau’n teimlo ychydig yn lletchwith, ac mae hynny’n hollol normal. Mae cyfeillgarwch yn gallu newid a datblygu a chofia, mae’n iawn os nad yw pethau’n teimlo fel oeddet arfer.
Os oes rhywbeth ar dy feddwl gallet ti siarad â chynghorwr Meic am gefnogaeth am ddim a cyfrinachol o 8yb i hanner nos bob dydd. Siarada gyda ni dros y ffôn, neges Whatsapp, neges testun neu sgwrs ar-lein.
