x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Ymdopi â chymhlethdodau cyfeillgarwch rhwng bechgyn

Bechgyn mewn ysgol uwchradd yn canu gyda'i breichiau o amgylch eu gilydd

Wyt ti erioed wedi sylwi ar ddeinameg dy grŵp o ffrindiau? Efallai nad yw’n amlwg iawn ond mae’n gallu cael effaith sylweddol ar sut ti’n teimlo am dy berthynas efo dy ffrindiau.

Meddylia amdano fel hierarchaeth (hierarchy). Ar y top mae’r ‘alffa’ – y ffigwr amlycaf. Dyma’r unigolyn mwyaf hyderus a phoblogaidd ac yr un sydd bob amser yn gwneud penderfyniadau. Nesaf mae’r ‘pac’, dilynwyr ffyddlon y grŵp sydd yn ei edmygu. Ac yna, rwyt ti – ar y tu allan.

Ydy hyn yn swnio’n gyfarwydd? Testun y blog yma yw cymhlethdodau cyfeillgarwch rhwng bechgyn, ffitio mewn a theimlo nad wyt ti wir yn perthyn.

Grŵp o ffrindiau yn yfed mewn bar ac yn gwylio gem ar y teledu

Y teimlad o fod tu allan i’r grŵp

Mae’n anodd bod ar gyrion grŵp o ffrindiau. Efallai ti’n teimlo dy fod yn trio dal i fyny efo pawb arall, neu nad wyt ti’n ddigon da. Efallai ti’n teimlo dy fod yn cael dy gau allan o jôcs, neu fod neb yn gwrando ar dy farn. Mae’n bosib bod pawb arall yn pigo arnat ti, neu mai chdi ydi testun y rhan fwyaf o’r jôcs. Gall hyn wneud i ti deimlo’n unig ac wedi dy ynysu a lleihau dy hunan werth.

Pam bod hyn yn digwydd?

Mae’n reddf naturiol i bobl greu hierarchaethau. Rydym yn chwilio am arweiniad a chymeradwyaeth gan eraill, a’r unigolion gyda’r personoliaethau mwyaf pwerus sydd fel arfer yn gwneud penderfyniadau.

Bydd pobl eraill yn fodlon gyda’r hierarchaeth yn y grŵp cyn belled â’u bod nhw yn cael eu cynnwys, sy’n gallu gwneud i bobl gydymffurfio i normau a disgwyliadau cymdeithasol. Efallai nad ydynt yn cwestiynu trefn pethau, hyd yn oed os nad ydynt yn teimlo’n gyfforddus efo’r drefn.

Weithiau mae cyfathrebu yn methu ac mae pobl yn camddeall ei gilydd, gall hyn achosi ynysu cymdeithasol sy’n gwneud i ti deimlo’n bryderus iawn.

Dau fachgen yn eu harddegau yn cyfarch eu gilydd ac yn mynd i ysgwyd llaw.

Torri’n rhydd o’r meddylfryd ‘pac’

Os wyt ti mewn sefyllfa fel hyn, trïa beidio cymryd hyn yn bersonol! Cofia bod y deinameg yma yn gallu ffurfio yn anfwriadol ac nad yw’n adlewyrchiad o dy werth. Bydda’n garedig i dy hun a phaid â rhoi bai arnat ti dy hun.

Mae gonestrwydd a chyfathrebu yn holl bwysig. Os wyt ti’n teimlo’n unig, siarada gyda dy ffrindiau am dy deimladau.

Trïa estyn allan a chreu ffrindiau newydd. Canolbwyntia ar greu cysylltiadau gyda phobl sydd yn dy werthfawrogi fel yr wyt ti. Ymuna gyda chlybiau, grwpiau neu gymunedau ar-lein ble gallet ti gysylltu gyda phobl o’r un anian.

Mae’r naturiol i’r grŵp newid

Fel ti’n mynd yn hŷn, mae’n normal teimlo dy fod wedi colli cysylltiad gyda rhai ffrindiau dros y blynyddoedd. Mae hyn yn digwydd i’r rhan fwyaf o bobl wrth i ni ffurfio ein credoau a’n gwerthoedd ein hunain. Canolbwyntia ar ansawdd y cyfeillgarwch yn hytrach na’r nifer o ffrindiau sydd gen ti. Mae’n well cael un ffrind ti’n gallu ymddiried ynddynt, treulio amser efo a dibynnu arnyn nhw na 10 ‘ffrind’ ti ddim mor agos efo.

Cofia, does dim rhaid i ti gyrraedd disgwyliadau pobl eraill er mwyn cael dy dderbyn. Bydda’n chdi dy hun, bydda’n ymwybodol o dy werth ac amgylchyna dy hun gyda phobl sy’n dy werthfawrogi am bwy wyt ti.