-
Sgwrsio Ar-lein
Cychwyn sgwrs byw
Mae angen i ti gael gwaith os wyt ti eisiau ennill arian i fyw.
Mae yna lawer o wahanol fathau o swyddi ar gael. Gallet ti weithio llawn amser neu ran amser, 9-5, patrymau sifft, ayb.
Mae’r math o waith mae pobl yn ei wneud yn ffitio gyda’u sefyllfa a’u cymwysterau fel arfer.
Mae’n rhaid i ti gael addysg bellach neu uwch a bod â chymwysterau ar gyfer rhai swyddi.
Os wyt ti eisiau gwybod mwy am gyflogaeth, gallet ti geisio siarad ag oedolyn fedri di ymddiried ynddynt neu gysylltu gyda ni ar linell gymorth Meic.
Gallet ti hefyd edrych ar un o’r gwasanaethau isod am wybodaeth neu gymorth: