Sut i Greu Argraff Mewn Cyfweliad am Swydd
Ar ôl creu CV gwych, rwyt ti wedi cael cyfweliad – llongyfarchiadau! Gall cyfweliad am swydd godi ofn ar unrhyw un, ond paid â phoeni; mae teimlo ychydig yn nerfus yn naturiol. Dyma rai awgrymiadau fydd yn helpu ti i ddangos i ddarpar gyflogwr pa mor wych wyt ti.
Ymchwila
Cyn y cyfweliad, dysga am y cwmni a’r swydd rwyt ti’n ceisio amdani. Mae hyn yn dangos i’r cyflogwr bod gen ti wir ddiddordeb. Edrycha ar eu gwefan, tudalennau cyfryngau cymdeithasol, neu erthyglau newyddion. Noda rhai pethau diddorol sydd yn sefyll allan i ti.
Mae posib y byddant yn gofyn i ti beth rwyt ti’n ei wybod amdanyn nhw, felly bydd gwneud ymchwil yn helpu ti i roi ateb. Nid yw’n creu argraff dda os wyt ti’n gwybod dim amdanynt.
Ymarfer
Meddylia a gwna chwiliad am gwestiynau cyfweld cyffredin, ac ymarfer dy atebion o flaen llaw. Bydd hyn yn helpu ti i deimlo’n barod, yn fwy hyderus, ac yn helpu ti i beidio baglu dros dy eiriau. Gofynna i ffrind, aelod o’r teulu, neu gynghorydd gyrfa i helpu ti ymarfer.
Meddylia beth rwyt ti am wisgo
Gwisga’n smart ac yn briodol ar gyfer y swydd. Mae’n well i ti osgoi dod i gyfweliad mewn jogyrs, hwdi a threinyrs! Paid â phoeni gormod am farn pobl eraill, ond cofia fod creu argraff gyntaf da yn bwysig, felly sicrha dy fod di’n teimlo’n gyfforddus ac yn hyderus yn dy ddillad.
Paratoi ychydig o gwestiynau
Bydd cyfwelwyr yn aml yn gofyn ar ddiwedd cyfweliad os oes gen ti unrhyw gwestiynau iddyn nhw. Mae paratoi ar gyfer hyn a chael cwestiynau wrth law yn dangos dy fod di’n awyddus i ddysgu mwy am y swydd a’r cwmni. Mae llawer o gwestiynau gwahanol gallet ti ei ofyn, fel “Beth yw eich hoff beth am weithio yma?” ond cofia, y cwestiynau gorau yw’r rhai rwyt ti’n wirioneddol eisiau gwybod yr ateb.
Bydda ar amser
Ceisia gyrraedd y cyfweliad 10-15 munud yn gynnar. Mae hyn yn dangos dy fod di’n broffesiynol ac yn parchu amser y cyflogwr. Paratoi o flaen llaw am unrhyw bethau annisgwyl fel trafnidiaeth gyhoeddus hwyr neu draffig, fel nad wyt ti’n teimlo’r straen os yw pethau’n rhedeg yn hwyr.
Bydda’n gwrtais ac yn broffesiynol
Cyfarch y cyfwelydd gyda gwên a helo hyderus. Ceisia edrych i fyw eu llygaid a chyflwyna dy hun yn glir. Dangos parch a chofia am dy iaith gorfforol. Eistedd yn syth, paid gwingo a phaid edrych yn ddiamynedd. Paid byth edrych ar dy ffôn.
Gwranda’n ofalus ar y cwestiynau
Cymera dy amser i ateb y cwestiynau. Rho atebion clir a chryno yn hytrach nag mwydro gormod. Os nad wyt ti’n deall neu’n anghofio’r hyn a ofynnwyd, mae’n iawn i ti ofyn iddynt ailadrodd cwestiwn neu ei eirio’n wahanol.
Bydda’n frwdfrydig ac yn bositif
Dangos dy angerdd ac amlyga dy sgiliau a phrofiadau. Eglura pam fod gen ti ddiddordeb yn y swydd a pham y gwnaethost ti gais am y swydd honno’n benodol.
Bydda’n barod
Mae’n eithaf cyffredin cael ceg sych os wyt ti’n nerfus. Cer a photel o ddŵr gyda thi i’r cyfweliad. Fedri di hefyd fynd ag unrhyw beth arall yr wyt ti ei angen os ydynt wedi gofyn i ti baratoi rhywbeth ar gyfer y cyfweliad, fel nodiadau cyflwyno neu liniadur.
Cyngor i gloi
Cofia, mae pawb yn teimlo nerfau! Cymera anadl ddofn a bydda’n ti dy hun. Mae’r cyfwelydd eisiau gweld dy botensial, felly bydda’n hyderus ac arddangos dy sgiliau a dy bersonoliaeth. Paid digalonni os nad wyt ti’n cael y swydd. Mae digon o gyfleoedd eraill ar gael, ac mae pob cyfweliad yn brofiad dysgu.
Pob lwc!
Angen ychydig mwy o help?
Cer i wefan Gyrfa Cymru neu gwna apwyntiad gyda Chynghorydd Gyrfa. Gallant helpu ti i gynllunio dy yrfa, paratoi i gael swydd neu ddod o hyd i brentisiaethau, cyrsiau neu hyfforddiant addas a gwneud cais amdanynt.
Mae gan Meic flogiau eraill am gyflogaeth a gwirfoddoli gall fod o help. Rydym hefyd yn cynnig cymorth cyfrinachol am ddim i blant a phobl ifanc Cymru. Os wyt ti’n nerfus am gyfweliad neu angen cyngor am unrhyw beth, ffonia 080 880 23456 neu sgwrsia ar-lein.