x
Cuddio'r dudalen

Deall Treth Incwm, Yswiriant Gwladol a Thaliadau Eraill

Pan fyddi di’n gweithio ac yn cael cyflog dros swm penodol, bydd ychydig o’r arian yna yn cael ei dynnu allan cyn i’r arian gyrraedd dy gyfrif banc. Y gostyngiadau yma ydy dy gyfraniad di tuag at bethau penodol. Fel rhan o’n hymgyrch Argyfwng Costau Byw, rydym am edrych ar y pethau yma.

This article is also available in English – click here

Pan rwyt ti’n cael dy gyflog, nid y swm sydd yn cael ei dalu (tâl sylfaenol) yw’r swm  sydd yn dod adref gyda thi (tâl NET) bob tro. Mae yna bethau penodol mae’n rhaid cyfrannu tuag atynt, yn ddibynnol ar faint rwyt ti’n cael dy dalu. Mae hwn yn cael ei dynnu allan o dy gyflog cyn iddo gyrraedd ti. Gall hyn ymddangos ar y slip cyflog fel cyfraniadau Treth Incwm, Yswiriant Gwladol, Benthyciadau i Fyfyrwyr a Phensiwn. Parhau i ddarllen i ddarganfod beth yw ystyr pob un.

Treth Incwm

Mae Treth Incwm yn cael ei ddefnyddio i helpu talu am wasanaethau cyhoeddus fel y Gwasanaeth Iechyd, Addysg a’r system lles (budd-daliadau).

Mae’r swm rwyt ti’n gallu derbyn cyn talu treth – y trothwy Lwfans Personol – yn newid bob blwyddyn, ond yn 2022/2023 mae wedi cael ei osod ar £12,570. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid talu treth nes byddi di’n ennill dros £12,570 y flwyddyn. Mae’r dreth yn cael ei dalu ar y swm sydd dros y trothwy yma. Os wyt ti’n ennill £15,000 y flwyddyn, dim ond ar £2,430 ohono rwyt ti’n talu treth.

Mae’r mwyafrif o bobl sydd yn gweithio i gyflogwyr yn talu treth incwm cyn i’r arian fynd i’r banc gyda system gelwir yn TWE (talu wrth ennill). System mae cyflogwr yn ei ddefnyddio yw hwn i gymryd unrhyw daliadau Treth Incwm neu Yswiriant Gwladol. Mae’r swm sydd yn cael ei dynnu allan yn cael ei benderfynu gyda dy god treth. Mae hwn yn cael ei benodi gan CThEM (Cyllid a Thollau Eu Mawrhydi).

Sicrha bod dy god treth yn gywir. Byddi di’n cael llythyr gan CThEM ar ddechrau’r flwyddyn sydd yn cynnwys y cod. Mae posib gweld y cod ar dy slip cyflog ac yn dy gyfrif treth personol hefyd. Os yw’r cod yn anghywir (ac mae hyn yn digwydd), gallet ti fod yn talu gormod o dreth (ac angen cael ad-daliad) neu ddim yn talu digon (ac yn gorfod talu’n ôl). Dy gyfrifoldeb di yw gwirio os yw’r cod treth yn gywir. Mae gan y Money Saving Expert declyn gellir ei ddefnyddio i gyfrifo’r cod treth gywir. Mae yna lawer o wybodaeth hefyd am ystyr rhifau a llythrennau y cod treth.

Os wyt ti’n hunangyflogedig, dy gyfrifoldeb di yw talu Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol. Mwy am hyn ar wefan HelpwrArian.

Yswiriant Gwladol

Mae Yswiriant Gwladol (YG) yn dreth ar dy gyflog. Mae’n gyfraniad fel dy fod di’n gallu cael budd-daliadau penodol (taliad salwch, mamolaeth, budd-daliadau diweithdra ayb.) a’r pensiwn gwladol (pensiwn mae pawb yn ei gael yn ychwanegol i dy bensiwn preifat).

Rwyt ti’n cael rhif YG pan rwyt ti’n 16 oed. Mae hwn i’w weld ar dy slip cyflog, ar unrhyw lythyrau treth neu fudd-daliadau, neu yn dy gyfrif treth personol ar wefan CThEM. Pan fyddi di’n ennill dros swm penodol bob wythnos (£242 yn bresennol), byddi di’n cychwyn gwneud cyfraniadau.

Pink piggy bank dressed as a college graduate with mortar board and glasses.  Isolated on white.

Benthyciadau i Fyfyrwyr

Os wyt ti wedi cael benthyciad i fyfyrwyr yn y Coleg neu Brifysgol, byddi di’n  dechrau talu hwn yn ôl yn syth o dy gyflog TWE ar ôl gorffen y cwrs ac unwaith bydd dy gyflog dros £27,295 y flwyddyn (y trothwy incwm).

Dim ond canran o’r arian rwyt ti’n ennill dros y trothwy uchod rwyt ti’n talu yn ôl. Os wyt ti’n ennill £30,000 y flwyddyn, nid oes rhaid talu 9% o’r swm cyfan. Rwyt ti’n talu’r gwahaniaeth rhwng hwn a’r trothwy – felly 9% o £2,705 sydd yn rhaid talu dros y flwyddyn.

Nid yw’r mwyafrif o bobl yn debygol o dalu’r benthyciad i fyfyrwyr yn ôl yn gyfan gwbl. Mae’n cael ei ddileu ar ôl 30 mlynedd (neu pan rwyt ti’n cyrraedd 65 oed i rai pobl). Ond paid poeni. Nid yw benthyciadau i fyfyrwyr yr un peth a dyledion eraill. Ni yw’n effeithio ar sgôr credyd ac nid yw’n cyfrif pan rwyt ti’n gwneud cais am gerdyn credyd neu forgais.

businessman protection money on table with tree. concept saving

Cyfraniadau Pensiwn

Efallai nad wyt ti’n ystyried beth fydd yn digwydd ar ôl i ti ymddeol pan rwyt ti’n ifanc, ond gorau po gyntaf i ti gychwyn taliadau pensiwn. Mae pensiwn yn fath o gynilo di-dreth hirdymor. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid talu treth incwm ar y swm rwyt ti’n talu i mewn i dy bensiwn. Ar ôl i ti ymddeol, bydd y pensiwn yn cael ei dalu i ti bob mis yn debyg i gyflog. Y mwyaf rwyt ti’n talu i mewn, y mwyaf o arian gallet ti ei gael bob mis ar ôl ymddeol. Byddi di hefyd yn derbyn pensiwn gwladol (yn seiliedig ar dy gyfraniadau YG) pan fyddi di’n cyrraedd oedran pensiwn gwladol. Ond bydd cynilo ar gyfer pensiwn preifat yn gallu gwneud bywyd yn fwy cyfforddus ar ôl i ti ymddeol. Rwyt ti’n gallu hawlio’r pensiwn yma yn gynt hefyd.

Os wyt ti dros 22 oed, byddi di’n cael dy gofrestru ar gynllun pensiwn dy gwmni yn awtomatig. Os wyt ti’n ieuengach mae posib dewis cael dy gofrestru (eithrio i mewn). Bydd y mwyafrif o gyflogwyr yn cyfrannu swm o arian tuag at dy bensiwn ar ben yr hyn rwyt ti’n cyfrannu.

Os wyt ti eisiau help yn penderfynu beth sydd orau i ti, yna mae HelpwrArian yn cynnig cyngor ac arweiniad diduedd, am ddim, ar bensiynau. Manylion i gyd am sut i’w cysylltu yma.

Cymorth pellach

Meic – rhywun sydd wastad ar dy ochr di. Os yw pethau’n anodd ac rwyt ti angen siarad à rhywun neu gyda chwestiwn sydd angen ateb, yna cysyllta â Meic yn gyfrinachol, yn ddienw ac am ddim ar y ffôn, neges testun neu neges ar-lein o 8yb tan hanner nos bob diwrnod y flwyddyn. Byddem yn siarad drwy dy opsiynau ac yn helpu ti i ddarganfod y llwybr gorau i ti er mwyn gallu symud ymlaen.

Apiau a Gwefannau i Helpu Gyda Chostau Byw – Blog Meic

HelpwrArian – gwasanaeth am ddim sy’n cael ei ddarparu gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau. Yn gwneud dewisiadau arian a phensiwn yn fwy clir. Yn torri trwy’r jargon a’r cymhlethdod, egluro beth rwyt ti angen ei wneud a sut gallet ti wneud hynny, yn dy roi di mewn rheolaeth gyda chymorth diduedd am ddim gellir ei ddarganfod yn sydyn, ei ddefnyddio’n hawdd ac mae’n cael ei gefnogi gan y llywodraeth. Sgwrsia ar-lein, gyrra neges ar WhatsApp +44 77 0134 2744 neu ffonia 0800 138 7777.

Turn2Us– elusen genedlaethol sydd yn cynnig help ymarferol i bobl sydd yn cael trafferthion ariannol.

Llywodraeth Cymru – Cael help gyda chostau byw – darganfod pa gefnogaeth ariannol a allai fod ar gael i dy helpu, o filiau dŵr, trydan a nwy, i dai a budd-daliadau, i ysgol ac addysg uwch.

Llinell Ddyled Genedlaethol – National Debtline – Elusen yn cynnig cyngor dyled am ddim i bobl yn y DU. Mae ganddynt hwb costau byw sydd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth sydd ar gael.