x
Cuddio'r dudalen

Sut i Greu CV Gwych sy’n Sefyll Allan

Os wyt ti’n chwilio am waith rhan amser dros yr haf, neu megis cychwyn ar dy yrfa, mae creu argraff dda cyntaf yn hanfodol. Yma ceir cyngor i greu CV y byddi di’n falch o ddangos i unrhyw ddarpar gyflogwr.

Mae CV (Curriculum Vitae) yn gyfle i arddangos dy hun a chreu argraff ar ddarpar gyflogwyr. Mae’n crynhoi dy addysg, sgiliau, cymwysterau, hanes swydd, ac ati. Dyma fydd yr argraff gyntaf ohonot ti, felly mae angen iddo gyfrif!

Cadwa’n fyr ac yn gryno

Meddylia am dy CV fel ciplun cyflym o dy sgiliau a phrofiadau. Mae cyflogwyr yn aml yn cael llawer o geisiadau am swydd, felly mae angen cadw’n fyr ac yn gryno a rhoi syniad cyflym iddynt o bwy wyt ti cyn iddynt ddiflasu ar ddarllen. Yn ddelfrydol, dylai CV fod yn un dudalen. Defnyddia bwyntiau bwled a phenawdau clir fel ei fod yn haws i’w darllen.

Smiling teen girl making phone call

Manylion cyswllt

Cychwynna gyda gwybodaeth gyswllt. Sicrha bod dy enw, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost ar frig y dudalen, ac ystyried ychwanegu dolen i dy bortffolio ar-lein, fel LinkedIn, neu broffiliau cyfryngau cymdeithasol (os yn briodol i’r swydd).

Rhestru dy brofiad

Hyd yn oed os wyt ti’n ifanc, mae’n debyg bod gen ti fwy o brofiad nag yr wyt ti’n meddwl! Cofia gynnwys pethau fel:

  • Swyddi rhan-amser: e.e. gwarchod plant, mynd â chŵn am dro, neu weithio mewn siop leol
  • Gwaith gwirfoddol: helpu mewn digwyddiad elusennol, prosiect cymunedol, neu glwb ysgol
  • Prosiectau ysgol, coleg neu brifysgol: wyt ti wedi arwain prosiect grŵp neu gymryd rhan mewn cystadleuaeth? Sonia am y sgiliau a’r gwaith tîm

Defnyddia’r profiad fwyaf diweddar. Ceisia ddewis y pethau rwyt ti wedi’u gwneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Young boy handpicking litter from the river at the park.

Amlygu dy sgiliau

Dyma dy gyfle i ddisgleirio! Rhestra sgiliau perthnasol, fel cyfrifiaduron, cyfathrebu, gwaith tîm, neu’r ieithoedd rwyt ti’n gallu siarad.

Paid â’u rhestru yn unig; dangos dy hun! Defnyddia ferfau gweithredu i ddisgrifio sut rwyt ti wedi defnyddio’r sgiliau yma yn y gorffennol:

Er enghraifft:
Gwirfoddolais mewn lloches anifeiliaid lleol, gan ddangos sgiliau gwaith tîm a chyfathrebu rhagorol wrth gydlynu digwyddiadau codi arian.

Os yn bosib, cynnwys rhifau i gefnogi’r datganiad.

Er enghraifft:
Codais £150 yn gwerthu cacennau ar gyfer Cymorth Canser Macmillan
neu
Gweithiais mewn tîm agos o 5 i greu ymgyrch cyfryngau cymdeithasol.

Teilwra dy CV

Ymchwilia’r swydd benodol rwyt ti’n ceisio amdani ac addasu’r CV i amlygu’r sgiliau a’r profiadau penodol maent yn chwilio amdanynt. Sicrha eu bod nhw’n gweld bod gen ti’r hyn y maent yn chwilio amdano.

Diweddara dy CV

Mae’n bwysig bod y CV yn gyfoes. Bob tro fyddi di’n gwneud rhywbeth ac yn meddwl, ‘bydd hwn yn edrych yn dda ar fy CV’, cer yn ôl a’i ychwanegu. Mae’n haws ei ddiweddaru aml yn hytrach na cheisio cofio popeth pan rwyt ti angen ei ddefnyddio. Mae pob profiad newydd, hyd yn oed gweithgaredd gwirfoddoli byr, yn werth ei ychwanegu!

Young girl using laptop on sofa with headphones

Prawfddarllen

Gall gwallau teipio a gramadegol greu argraff wael. Gofynna i ffrind, aelod o’r teulu, neu gynghorydd gyrfaoedd i brawfddarllen dy CV cyn i ti wneud cais. Gallet ti hefyd ddefnyddio offer fel Cysill, Grammarly neu SpellCheck ar Microsoft Word neu Docs i helpu.

Cadw copïau

Ar ôl i ti greu’r CV trawiadol, paid â gadael iddo ddiflannu i’r affwys digidol! Dyma ychydig o ffyrdd i sicrhau bod gen ti gopi bob tro:

Gofyn am help

Gall creu CV fod yn anodd, ond nid oes rhaid i ti ei wneud ar ben dy hun! Mae llawer o gyngor CV ac enghreifftiau ar wefan Gyrfa Cymru.

Gallet ti hefyd ein ffonio ar linell gymorth Meic os wyt ti eisiau cefnogaeth. Rydym yn cynnig cyngor cyfrinachol, cefnogaeth ac arwyddbostio ar faterion amrywiol, gan gynnwys gyrfaoedd a cheisiadau am swyddi. Ffonia ar 080880 23456 neu sgwrsia ar-lein.

Manylion cyswllt Meic