x
Cuddio'r dudalen

Cyngor i Helpu Ti i Gael Dy Swydd Gyntaf

Pa un ai wyt ti’n chwilio am swydd llawn amser neu waith rhan amser, i gael ychydig o bres gwario ar y penwythnos neu yn cymryd y cam cyntaf ar dy lwybr gyrfa, bydd y cyngor yma yn helpu ti wrth i ti chwilio am dy swydd gyntaf.

Boy smiling with flowers growing from his head

1. Deall dy hun

Meddylia am dy ddiddordebau, sgiliau, ac argaeledd. Wyt ti’n berson pobl sy’n ffynnu mewn amgylchedd prysur a chyflym? Neu oes well gen ti rôl dawelach sy’n ymwneud â’r manylion fwy? Bydd deall dy gryfderau yn helpu ti i ddod o hyd i rywbeth sy’n ffitio’n dda, a gall hyn olygu dy fod di’n fwy tebygol o gael y swydd.

Man working on computer at home illustration

2. Archwilio opsiynau

Mae llawer o gyfleoedd gwych ar gael, o fanwerthu a lletygarwch i wirfoddoli a phrentisiaethau. Ymchwilia wahanol fathau o swyddi a diwydiannau i weld beth sy’n tanio’r diddordeb.

Cofia, nid oes rhaid i’r swydd gyntaf ddiffinio llwybr gyrfa’r dyfodol, felly bydda’n rhydd i archwilio. Mae pob swydd, boed fawr neu fach, yn gyfle i ddysgu sgiliau gwerthfawr a gweithio ar yr hyder. Cofia, gall camau bach arwain at gyfleoedd mawr!

3. Creu CV gwych

Hyd yn oed os wyt ti’n ifanc, mae cael CV (Curriculum Vitae) da yn bwysig. Mae angen ei gadw’n fyr; mae un dudalen yn ddigon, a chanolbwyntio ar wybodaeth berthnasol fel manylion cyswllt, addysg, ac unrhyw brofiad gwaith blaenorol (gan gynnwys gwirfoddoli neu brosiectau ysgol). Defnyddia iaith glir, prawfddarllen yn ofalus (defnyddio offer rhad ac am ddim fel Cysill yn y Gymraeg neu Grammarly yn Saesneg), a chofia teilwro’r CV ar gyfer pob swydd benodol rwyt ti’n gwneud cais amdani.

4. Llwyddo yn y cyfweliad

Mae argraff gyntaf yn bwysig! Gwisga’n briodol ar gyfer y cyfweliad (hyd yn oed ar gyfer swydd achlysurol), cyrraedd ar amser, a chyfarch y cyfwelydd gyda gwên hyderus. Bydda’n barod i ateb cwestiynau cyffredin am dy hun, dy sgiliau, a pam bod gen ti ddiddordeb yn y swydd. Mae ymchwilio’r cwmni cyn y cyfweliad yn dangos diddordeb; efallai byddant yn gofyn cwestiwn am eu gwaith. Paid ofni gofyn cwestiynau hefyd – mae’n dangos diddordeb a menter. Maen nhw’n debygol o ofyn a oes gen ti unrhyw gwestiynau iddyn nhw, felly bydd yn helpu ti i feddwl am un neu ddau cyn y cyfweliad.

Employees giving hands and helping colleagues to walk upstairs. Team giving support, growing together. Vector illustration for teamwork, mentorship, cooperation concept

5. Gofyn am gymorth

Cofia, ti ddim ar ben dy hun, mae gen ti bobl o dy gwmpas gall helpu. Gofyn am gyngor a chefnogaeth gan ffrindiau, teulu, neu gynghorydd gyrfa yn yr ysgol, coleg neu brifysgol. Gallant helpu gyda CV, ymarfer sgiliau cyfweliad, a chynnig anogaeth.

Angen Mwy o Gymorth?

Cer i wefan Gyrfa Cymru neu gwna apwyntiad gyda Chynghorydd Gyrfa. Gallant helpu ti i gynllunio dy yrfa, paratoi i gael swydd neu ddod o hyd i brentisiaethau, cyrsiau neu hyfforddiant addas a gwneud cais amdanynt.

Os wyt ti’n wynebu unrhyw heriau wrth i ti chwilio am swydd, cysyllta â Meic am gyngor a chymorth cyfrinachol rhad ac am ddim. Ffonia 080880 23456 neu sgwrsia ar-lein. Rydyn ni’n rhywun ar dy ochr di.

Meic contact details banner