Trawsnewid o CAMHS i AMHS: Canllaw i Bobl Ifanc

Wrth i ti newid o fod yn blentyn i fod yn oedolyn, mae’n bwysig i ti fod yn ymwybodol o newidiadau i wasanaethau iechyd meddwl. Mae cymorth Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) yn gallu bod yn wahanol iawn i Wasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion (AMHS).
Deall y trawsnewid
Mae’n debyg bydd y tîm cymorth CAMHS yn trafod y newid yma gyda thi ac yn rhoi gwybodaeth am yr opsiynau sydd ar gael yn yr ardal.
Mae’n bwysig deall bod meini prawf i dderbyn cymorth AMHS yn wahanol i CAMHS ac efallai bydd rhaid i ti gael ailasesiad.
Mae meini prawf AMHS yn llymach nag CAMHS fel arfer. Oes oeddet ti’n derbyn cymorth CAMHS cynt, efallai na fyddi di’n cyrraedd meini prawf AMHS nawr. Os hynny, dylet ti gael gwybodaeth am opsiynau arall sy’n agored i ti ar ôl gadael CAMHS.
CAMHS i AMHS
Os wyt ti’n cyrraedd y meini prawf ar gyfer AMHS, yna efallai bydd newidiadau i’r cymorth, gan gynnwys:
- Gwahanol staff cymorth – efallai bydd gen ti therapyddion, doctoriaid, cwnselwyr neu weithwyr achos newydd
- Gwahanol leoliadau – efallai bydd apwyntiadau yn digwydd mewn llefydd newydd
- Apwyntiadau llai aml – efallai byddi di’n cael llai o sesiynau nag yr oeddet ti yn CAMHS
- Llai o gyswllt â’r tîm cymorth – efallai bydd llai o ryngweithio gyda dy ddarparwyr gofal
- Meini prawf mynediad – yn aml mae meini prawf i gael cymorth AMHS yn fwy llym nag CAMHS
Gall y newidiadau yma fod yn frawychus ac yn heriol i rai pobl ifanc. Mae’n bwysig cofio nad wyt ti ar ben dy hun. Mae llawer o bobl eraill wedi llwyddo i drawsnewid o CAMHS i AMHS.
Meithrin gwytnwch ac annibyniaeth
Mae trawsnewid i fod yn oedolyn yn golygu dysgu sut i ymdopi â heriau ar ben dy hun. Nid yw hyn yn golygu bod rhaid i ti wneud popeth ar ben dy hun, ond bydd datblygu gwytnwch, annibyniaeth a hyder yn helpu ti yn dy fywyd.
Rwyt ti’n debygol o fod wedi derbyn gwybodaeth am ffyrdd i ymdopi ar ben dy hun yn barod, ond mae’n syniad da i ti fod ag ychydig o opsiynau at gyfnod pan fydd gen ti ddim mynediad i gymorth allanol.
Dyma gyngor i ddysgu sut i feithrin y sgiliau yma:
- Dysgu technegau ymdopi – ymarfer strategaethau hunanofal fel meddylgarwch, myfyrdod neu ymarfer corff
- Ymuno â grwpiau cymorth – cysyllta ag eraill sy’n mynd trwy brofiadau tebyg
- Chwilio am wasanaethau gwahanol – archwilia opsiynau fel therapi, cwnsela, neu adnoddau ar-lein
Cofia nid yw’n realistig i rywun deimlo’n dda trwy’r adeg. Weithiau byddi di’n teimlo fel nad yw dim yn gweithio, ond gallet ti ymarfer bod yn gyfforddus gyda theimlo emosiynau negyddol yn ogystal ag emosiynau positif. Gall dysgu technegau ymdopi sy’n llwyddiannus i ti fod o gymorth mawr pan fydd pethau’n teimlo’n ormod.
Darganfod cymorth ar ôl CAMHS
Hyd yn oed os nad wyt ti’n cyrraedd meini prawf AMHS, mae yna lawer o adnoddau i ti gall helpu gyda iechyd meddwl.
Efallai bydd y cyngor lleol yn gallu darparu gwybodaeth am grwpiau cymorth ac elusennau yn dy arda. Gall y tîm CAMHS hefyd gyfeirio ti at wasanaethau eraill. Paid ofni gofyn i’r tîm CAMHS am yr opsiynau yma a gweld pa gymorth sydd ar gael i ti.
Mae sawl opsiwn therapïau wyneb i wyneb, ar y ffôn neu ar-lein ar gael. Efallai mai elusen sy’n cynnig y gwasanaeth yma, felly mae posib iddo fod am ddim neu yn gost isel iawn. Mae rhai gwasanaethau yn costio ac yn gallu bod yn eithaf drud. Pa bynnag un rwyt ti’n dewis, gall rhestrau aros fod yn hir i rai o’r gwasanaethau yma.
Chwilia yn dy ardal leol am opsiynau gwahanol fel grwpiau cymorth a chefnogaeth un i un. Efallai bydd yna gynnig cymorth sy’n fwy addas i ti a dy ffordd o fyw, felly bydda’n feddwl agored ac archwilia’r hyn sydd ar gael.
Herio penderfyniadau am dy ofal
Gall pethau newid dros amser. Hyd yn oed os nad oeddet ti’n bodloni’r meini prawf AMHS gynt, mae iechyd meddwl rhywun yn gallu dirywio. Siarada gyda’r meddyg i weld pa gymorth gall fod yn agored i ti. Gall hyn ddigwydd unrhyw dro, hyd yn oed os wyt ti wedi symud o ofal CAMHS flynyddoedd yn ôl.
Os wyt ti wedi cyrraedd pwynt lle mae gen ti bryderon difrifol am dy driniaeth iechyd meddwl, mae gen ti hawl i wneud cwyn. Mae posib y gallet ti gael cymorth eiriolwr i helpu ti trwy’r broses cwyno.
Cael help nawr
Mae elusennau fel Mind ac YoungMinds yn rhannu gwybodaeth ddefnyddiol am yr hyn sy’n digwydd pan fyddi di’n symud o CAMHS i AMHS a’r heriau y gallet ti eu hwynebu ar hyd y ffordd.
Os wyt ti eisiau cymorth ond ddim yn siŵr ble i fynd, mae Meic yma i gynnig cefnogaeth ac i helpu ti i weithio trwy’r broblem. Mae Meic yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth am ddim i rai dan 25 oed yng Nghymru. Cysyllta ar y ffôn, neges WhatsApp, tecst neu sgwrs ar-lein rhwng 8yb a hanner nos bob dydd.
Mae llinellau cymorth eraill ar gael sydd yn cynnig cymorth iechyd meddwl penodol a llawer un ohonynt ar gael 24 awr y dydd, fel y Samariaid, Shout a Papyrus.
Cofia, ti ddim ar ben dy hun. Mae yna bobl sy’n poeni amdanat ti ac eisiau helpu. Cysyllta am gefnogaeth pan fyddi di angen.
