x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Awyr Iach a Thalu’n Ôl: Cyfleoedd Gwirfoddoli Awyr Agored

Chwilio am ffordd i gysylltu â natur, gwneud gwahaniaeth, a hybu lles? Mae gwirfoddoli yn yr awyr agored yn ffordd wych o wneud y 3! Mae llawer o gyfleoedd i faeddu’r dwylo (mewn ffordd dda!) wrth gefnogi achosion gwych.

Picking up plastic bottle from sandy beach
Cyfleoedd Gwirfoddoli Awyr Agored

Mynd i’r afael â llygredd morol

Mae’r Gymdeithas Cadwraeth Forol yn dod a gwirfoddolwyr at ei gilydd i geisio mynd i’r afael â llygredd arfordirol a morol. Dychmyga dy hun yn cerdded traethau Cymru, yn chwilio am wastraff plastig, offer pysgota, a malurion eraill i’w casglu, yn amddiffyn ein harfordiroedd a’n bywyd môr. Efallai y byddi di’n helpu i gasglu data, yn cofnodi ac yn categoreiddio’r mathau o lygredd a ganfyddir, sy’n helpu i lywio strategaethau cadwraeth y dyfodol. Mae’r Gymdeithas Cadwraeth Forol yn cynnig cyfleoedd i godi ymwybyddiaeth am lygredd morol gyda sgyrsiau addysgol neu ddigwyddiadau cymunedol.

Group of children and teenagers in community garden, smiling at camera, surrounded by freshly picked produce and flowers

Helpu dy gymuned leol i flodeuo

Mae llawer o drefi a phentrefi yn rhedeg mentrau i gynnal parciau, rhandiroedd neu erddi cymunedol. Rho help llaw wrth blannu coed, gweithgaredd gwerth chweil sy’n creu mannau gwyrdd ffres i bawb eu mwynhau. Gallet ti hefyd gymryd rhan mewn bôn-docio, sef techneg rheoli coetir traddodiadol sy’n cynnwys torri coed i hybu twf newydd, gan greu cynefin amrywiol ac iach i fywyd gwyllt. Maent hefyd angen cymorth gyda thasgau cynnal a chadw gerddi arferol, fel chwynnu, plannu, a chynnal gwelyau blodau. Mae gwirfoddoli gyda gerddi cymunedol lleol yn ffordd wych i gwrdd â phobl newydd sydd hefyd yn mwynhau bod yn yr awyr agored.

Group of people planting a tree in a forest
Cyfleoedd Gwirfoddoli Awyr Agored

Dod yn stiward y coedwigoedd

Mae prosiectau coedwigaeth yn aml yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu gyda phlannu coed, rheoli coetir, a chynnal a chadw llwybrau. Mae plannu coed brodorol fel derw, onnen a bedwen yn helpu i greu cynefinoedd hanfodol i adar, pryfed a bywyd gwyllt fel arall. Gallai tasgau rheoli coetir gynnwys cael gwared ar rywogaethau ymledol neu glirio canghennau sydd wedi cwympo i sicrhau twf iach. Mae gwirfoddoli gyda chynnal a chadw llwybrau yn helpu i gadw’r mannau hardd yma yn ddiogel ac yn agored i gerddwyr, beicwyr, a phobl eraill sy’n ymddiddori ym myd natur.

Wooden bug hotel

Cefnogi dy Ymddiriedolaeth Natur ranbarthol

Mae pob ymddiriedolaeth yn cynnig cyfleoedd gwirfoddol amrywiol i gymryd rhan mewn arolygon rhywogaethau, yn helpu i fonitro poblogaethau pethau fel barcutiaid coch neu ddyfrgwn. Gallet ti helpu gyda rheoli cynefinoedd, creu a chynnal blychau nythu ar gyfer adar neu adeiladu gwestai trychfilod i annog bioamrywiaeth pryfed. Gallai prosiectau garddio gynnwys plannu blodau gwyllt sy’n denu peillwyr fel gwenyn a gloÿnnod byw. Mae digwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd, fel teithiau tywys neu sgyrsiau ar fywyd gwyllt lleol, hefyd yn bosibilrwydd.

Teenage boy walking a dog on a sandy beach
Cyfleoedd Gwirfoddoli Awyr Agored

Arwain y ffordd

Gwirfoddola i fynd â chŵn am dro yn dy gymuned i’r rhai sydd yn cael trafferth i wneud eu hunain. Mae pawb ar eu hennill – rwyt ti’n cael ymarfer corff ac awyr iach yn ogystal â chwmni ffrind bach blewog! Bydd y ci yn cael hwyl ac yn cael cymdeithasu. Cysyllta â dy loches anifeiliaid lleol, milfeddyg, neu bentref ymddeol, i weld os oes ganddynt raglen cerdded ci sydd angen gwirfoddolwyr. Os wyt ti’n chwilio am rywbeth llai ffurfiol, gallet ti ofyn i gymydog rwyt ti’n adnabod eisoes, neu gyflwyno dy hun i rai newydd.

Teenage boy mowing the lawn

Dod yn arwr lleol

Sicrha bod dy ardal leol yn edrych ar ei orau. Os wyt ti’n gweld bod lawnt cymydog angen ei dorri neu fod yr ardd yn dod yn ormod iddynt, yna cynnig helpu i dorri’r gwar neu gydag ychydig o dasgau gardd hawdd. Mae un weithred fach o garedigrwydd yn mynd yn bell.  Efallai bod cymydog oedrannus yn ei chael hi’n anodd cwblhau tasgau garddio. Gall torri lawnt neu docio gwrychoedd wneud gwahaniaeth mawr iddyn nhw er mwyn iddynt gael mwynhau eu gofod awyr agored unwaith eto.

Cofia…

Mae gwirfoddoli yn yr awyr agored yn cynnig cyfle i ti wella dy iechyd corfforol a meddyliol wrth gysylltu â natur a chyfrannu at achosion da. Felly bydda’n barod i gael effaith bositif!

Mae yna lawer o wybodaeth am wirfoddoli, gofalu am yr amgylchedd, a ffyrdd i wella dy iechyd meddwl a lles ar Meic.

Os wyt ti eisiau siarad â chynghorwr Meic, cysyllta rhwng 8yb a hanner nos unrhyw ddydd. Mae’n ffordd rad ac am ddim i gael gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth heb neb yn barnu. Ffonia (080880 23456) neu sgwrsia gyda chynghorwr ar-lein ar ein gwefan.