Gemau Fideo i Ymdopi Gyda Galar
Mae galar yn gallu bod yn heriol iawn. Nid yw pawb yn galaru yn yr un ffordd, ac mae pawb yn ymdopi mewn ffyrdd gwahanol. Gall fod yn anodd deall dy emosiynau a gwybod sut rwyt ti ‘fod i’ ymddwyn. Efallai bydd gemau fideo yn dy helpu di i ddeall dy deimladau ychydig yn well.
Mae’r blog yma yn rhan o’r ymgyrch Byw Gyda Cholled: Ymgyrch Galar.
I weld mwy o gynnwys yr ymgyrch clicia yma.
Efallai bod yr awgrymiad o chwarae gemau fideo i ymdopi gyda galar yn swnio ychydig yn wahanol os wyt ti’n ei gymharu gyda chyngor galaru arferol mae pobl yn ei roi, ond gall fod yn ffordd i archwilio teimladau sydd yn gweithio i ti. Gall hefyd fod yn ffordd i dynnu sylw o’r galar am ychydig.
Mae Hallie, 25, yn rhannu rhestr o 8 gêm fideo* fydd efallai yn gallu helpu ti i brosesu’r golled.
(*Os wyt ti’n sdryglo i brosesu dy alar a theimlo fel y gallai rhai o’r gemau yma sbarduno teimladau negyddol, yna siarada gyda rhywun gallet ti ymddiried ynddynt. Gallet ti siarad â Meic yn gyfrinachol ac am ddim wrth ffonio 080 880 23456 neu sgwrsia gyda ni ar-lein.)
Apart of Me
Ar gael ar y ffôn symudol mae’r antur arobryn rhad ac am ddim yma i bobl ifanc yn caniatáu i chwaraewyr archwilio ynys a derbyn tasgau gan amrywiaeth o gymeriadau. Wrth i ti chwarae, byddi di’n darganfod nodiadau wedi’u hysgrifennu a thrawsgrifiadau sain gan bobl ifanc yn siarad am eu colled, ac anogir i ti gysylltu gyda strategaethau ymdopi i feithrin gwydnwch.
AM DDIM. Ar gael ar App Store a Google Play.
Gris
Mae’r prif gymeriad, Gris, yn ferch ifanc sydd ar goll yn ei thristwch ar ôl profiad poenus. Mae ei byd yn ddu a gwyn, a dim ond ar ôl i ti weithio trwy holl gamau galar (a gwahanol rannau o’r gêm) y mae’r lliw yn dychwelyd i’w byd.
Costau ynghlwm. Ar gael ar Nintendo Switch, Steam, PlayStation, ac iOS.
That Dragon, Cancer
Mae’r gêm pwyntio a chlicio yma yn ailadrodd stori Joel Green yn ymladd canser am 4 mlynedd. Mae’n canolbwyntio ar yr uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau a brofir wrth alaru.
Costau ynghlwm. Ar gael ar App Store.
Spiritfarer
Stella yw’r spiritfarer newydd a’i thasg yw tywys eneidiau i’r meirw yn yr ôl fywyd. Y nod yw sicrhau bod yr eneidiau’n gyfforddus wrth gwblhau tasgau fel coginio bwyd, adeiladu llefydd iddynt orffwys, a’u helpu i gyflawni eu dymuniadau olaf.
Costau ynghlwm. Ar gael ar Steam, Xbox, Nintendo Switch, a PlayStation.
The Last Campfire
Gêm posau yw The Last Campfire ble mae’r chwaraewr yn chwarae rhan yr enaid Ember, sydd yn gorfod datrys posau i helpu cyd-eneidiau trist sydd wedi colli gobaith i ddarganfod eu pwrpas.
Costau ynghlwm. Ar gael ar Steam, Epic Games, Nintendo Switch, PlayStation, Xbox One, Apple Arcade.
What Remains of Edith Finch
Mae’r antur nofel weledol yma yn caniatáu i ti chwarae fel Edith, sydd yn archwilio cartref eu plentyndod ac yn darganfod cyfrinachau teuluol ac yn datrys y dirgelwch o pam mai hi yw’r unig Finch sydd dal yn fyw. Yn cael ei chwarae yn y person cyntaf, byddi di’n archwilio straeon aelodau teulu Edith ac yn helpu Edith trwy’i galar.
Costau ynghlwm. Ar gael ar PlayStation, Xbox, Steam, Nintendo Switch, iOS.
Lost Ember
Rwyt ti’n chwarae blaidd gyda’r gallu i reoli anifeiliaid eraill. Byddi di’n helpu eneidiau coll i groesi i’r ôl fywyd. Byddi di’n darganfod adfeilion hen ddiwylliannau coll sydd yn adrodd straeon gobaith, colled, uchelgais a methiant.
Costau ynghlwm. Ar gael ar Steam, PS4, Xbox One, Nintendo Switch, Gog.com
Cael help
Efallai bod chwarae gemau fideo i helpu gyda galar ddim yn briodol i bawb. Mae Meic wastad yma i ti os wyt ti angen siarad gyda rhywun am dy deimladau neu gael cyngor a chymorth. Manylion cyswllt isod, yn ogystal ag ychydig o sefydliadau galar gall helpu.
Hope Again
Gwefan ieuenctid gan Gymorth Galar Cruse. Lle diogel i ddysgu gan bobl ifanc eraill am sut i ymdopi gyda galar a theimlo’n llai unig. Ffonia’r llinell gymorth Cruse ar 0808 808 1677 rhwng 9:30 a 5yh dydd Llun a dydd Gwener neu rhwng 9:30 a 8yh dydd Mawrth, Mercher, ac Iau. Ymwela â’r wefan i ddarganfod cymorth yn dy ardal.
Winston’s Wish
Helpu plant a phobl ifanc i ganfod eu traed pan fydd eu bywydau yn cael eu troi wyneb i waered gan alar. Mae eu gwefan Help 2 Make Sense yn cynnwys cyngor a straeon go iawn gan bobl ifanc eraill sy’n galaru. Ymwela â’r wefan am wybodaeth am y cymorth galar sydd ar gael, gan gynnwys sgwrs byw, e-bost, llinell gymorth, cwnsela, adnoddau a gweithgareddau.
Grief Encounter
Cefnogi plant a phobl ifanc mewn profedigaeth. Mae’r llinell gymorth Grieftalk yn cynnig cymorth ac arweiniad emosiynol, cyfrinachol, i unrhyw un sydd wedi ei effeithio gan alar. 0808 802 0111 9yb-9yh yn ystod yr wythnos. Ymwela â’u gwefan am fanylion cwnsela, gweithdai ac adnoddau eraill gall helpu.
Siarad â Meic
Llinell gymorth ddwyieithog, cyfrinachol ac am ddim, i blant a phobl ifanc hyd at 25 yng Nghymru. Cysyllta os wyt ti’n poeni am rywbeth, gyda chwestiynau, neu angen gwybodaeth neu gyngor. Gallem dy roi ar y llwybr cywir os wyt ti’n cael trafferth gwybod pwy i gysylltu. Gallem hyd yn oed helpu ti i siarad gydag eraill os yw hyn yn anodd i ti. Ffonia’r llinell gymorth o 8yb tan hanner nos bob dydd: 080 880 23456 neu sgwrsia ar-lein.