x
Cuddio'r dudalen

Galar Rhagweledol: Teimlo Colled Cyn Marwolaeth

Merch yn eistedd ar ei chwrcwd yn edrych yn drist gyda chraciau o'i chwmpas - blog galar rhagweledol

Yn aml mae pobl yn meddwl am alar fel rhywbeth sydd yn digwydd ar ôl marwolaeth, ond gellir teimlo galar yn hir cyn i rywun farw. Gad i ni edrych ar alar rhagweledol.

Mae’r blog yma yn rhan o’r ymgyrch Byw Gyda Cholled: Ymgyrch Galar.
I weld mwy o gynnwys yr ymgyrch clicia yma.

Beth yw galar rhagweledol?

Galar rhagweledol yw pan fyddi di’n teimlo colled cyn i rywun farw, yn bosib hir cyn iddynt farw.

Efallai byddi di’n profi galar rhagweledol os yw rhywun agos i ti yn cael diagnosis o salwch sydd yn cael effaith arnynt am gyfnod hir cyn iddynt farw, fel canser terfynol neu ddementia.

Merch drist mewn galar yn gafael yn dynn yn ei choesau, wedi gwisgo mewn du gyda blodau pigog du y tu ôl iddi a chalon du wedi torri uwchben

Sut mae galar rhagweledol yn teimlo?

Yn union fel galar, mae posib profi galar rhagweledol mewn ffyrdd gwahanol. Mae rhai yn teimlo ofn, unigedd, tristwch neu ddryswch, a llawer o emosiynau eraill. Nid oes ffordd gywir nac anghywir i deimlo.

Yn ogystal â galaru am y person sydd ddim yn dda, efallai dy fod di’n galaru newidiadau yn eich perthynas neu hunaniaeth. Efallai byddi di’n sdryglo gyda chynlluniau’n gorfod newid, fel gwybod na fyddant yno ar gyfer digwyddiad arbennig yn y dyfodol fel graddio, priodi, neu enedigaeth plentyn.

Weithiau, mae profi galar rhagweldol yn golygu bod ymdopi gydag amser yn anodd wrth i ti boeni bod amser yn rhedeg allan.

Person yn helpu person arall allan o gadair olwyn. Llun fector ar gyfer galar rhagweledol

Cefnogi rhywun trwy alar rhagweledol

Efallai bydd pobl sy’n profi galar rhagweledol yn gwerthfawrogi cael gwybod am sefydliadau a gwasanaethau sy’n cynnig cymorth. Gellir darganfod cymorth yma neu ar waelod y dudalen.

Osgoi dweud pethau fel “o leiaf maen nhw dal yma” neu “mae gennych chi amser efo’ch gilydd o hyd”. Bydd bywyd rhywun wedi newid yn gwybod eu bod am golli rhywun agos, tra hefyd yn gofalu amdanynt efallai, ac mae’n gallu bod yn anodd teimlo’n werthfawrogol. Gall ddweud y math yma o bethau achosi iddynt deimlo’n euog.

Cyniga ofod diogel iddynt siarad a rhannu teimladau heb farnu os ydynt eisiau hynny. Gwranda. Nid oes rhaid i ti wneud na gwneud dim i geisio trwsio’r sefyllfa.


Cael help

Ceisia beidio teimlo’n euog am y ffordd ti’n teimlo os wyt ti’n teimlo fod pethau’n ormod. Mae’n iawn i ti deimlo fel hyn, mae’n iawn i ti gymryd amser allan i ti dy hun, ac mae’n iawn i ti chwilio am gymorth os wyt ti ei angen. Nid oes neb angen galaru ar ben eu hunain, ac mae derbyn cymorth yn golygu y gallet ti barhau i gefnogi’r person sy’n wael. Mae siarad am dy deimladau yn gallu helpu, ac mae yna lawer o wasanaethau sy’n gallu cynnig hyn.

Mae’n bwysig cofio nad yw galaru cyn i rywun farw yn golygu dy fod di’n teimlo llai o alar pan fydd y
person yn marw.  Yn aml, mae’n gallu teimlo fel dy fod di’n colli rhywun agos unwaith eto.

Logo Marie Curie

Marie Curie

Yn darparu gofal a chymorth i bobl sy’n byw gyda salwch terfynol a’u teuluoedd. Mae’r llinell gymorth (i rai 18+) yn cynnig cymorth profedigaeth i bobl yng Nghymru. 0800 090 2309.

Hope Again

Gwefan ieuenctid gan Gymorth Galar Cruse. Lle diogel i ddysgu gan bobl ifanc eraill am sut i ymdopi gyda galar a theimlo’n llai unig. Ffonia’r llinell gymorth Cruse ar 0808 808 1677 rhwng 9:30 a 5yh dydd Llun a dydd Gwener neu rhwng 9:30 a 8yh dydd Mawrth, Mercher, ac Iau. Ymwela â’r wefan i ddarganfod cymorth yn dy ardal.

Logo Winston's Wish

Winston’s Wish

Helpu plant a phobl ifanc i ganfod eu traed pan fydd eu bywydau yn cael eu troi wyneb i waered gan alar. Mae eu gwefan Help 2 Make Sense yn cynnwys cyngor a straeon go iawn gan bobl ifanc eraill sy’n galaru. Ymwela â’r wefan am wybodaeth am y cymorth galar sydd ar gael, gan gynnwys sgwrs byw, e-bost, llinell gymorth, cwnsela, adnoddau a gweithgareddau.

Grief Encounter

Cefnogi plant a phobl ifanc mewn profedigaeth. Mae’r llinell gymorth Grieftalk yn cynnig cymorth ac arweiniad emosiynol, cyfrinachol, i unrhyw un sydd wedi ei effeithio gan alar. 0808 802 0111 9yb-9yh yn ystod yr wythnos. Ymwela â’u gwefan am fanylion cwnsela, gweithdai ac adnoddau eraill gall helpu.

Logo Meic

Siarad â Meic

Llinell gymorth ddwyieithog, cyfrinachol ac am ddim, i blant a phobl ifanc hyd at 25 yng Nghymru. Cysyllta os wyt ti’n poeni am rywbeth, gyda chwestiynau, neu angen gwybodaeth neu gyngor. Gallem dy roi ar y llwybr cywir os wyt ti’n cael trafferth gwybod pwy i gysylltu. Gallem hyd yn oed helpu ti i siarad gydag eraill os yw hyn yn anodd i ti. Ffonia’r llinell gymorth o 8yb tan hanner nos bob dydd

delwedd manylion cyswllt meic