x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Byw Gyda Cholled: Ymgyrch Galar

Rydym wedi creu cyfres o flogiau yn edrych ar bwnc sensitif iawn, galar. Nod yr ymgyrch yma yw helpu os wyt ti’n sdryglo gyda cholli rhywun, yn gwybod dy fod di am golli rhywun, neu eisiau helpu rhywun sydd yn galaru.

Dyma’r blogiau sydd wedi’u creu fel rhan o’n hymgyrch:

Rhuban ymwybyddiaeth ddu ar gefndir gwyn. Symbol galar a galaru

Beth yw galar?

Pan fydd rhywun ti’n adnabod yn marw, mae’n gallu bod yn ofnadwy o anodd. Efallai dy fod di’n galaru oherwydd marwolaeth neu golled aelod o’r teulu, ffrind, cyfoed, cyd-weithiwr, neu anifail anwes.

Nid oes un ffordd o alaru. Mae dy berthynas gyda’r person, diwylliant, cred, neu agwedd dy ffrindiau, teulu a chymuned tuag at farwolaeth i gyd yn gallu dylanwadu hyn.

Mae galar yn gallu cynnwys sawl emosiwn gwahanol, fel tristwch, dicter, drwgdeimlad, sioc, euogrwydd a rhyddhad. Gallet ti deimlo’n ddideimlad hefyd. Mae’n gallu effeithio’r ffordd ti’n teimlo, yn feddyliol ac yn gorfforol.

Mae posib galaru am bobl sydd yn dal yn fyw hefyd. Gellir teimlo galar ar ôl newid mewn perthynas, fel perthynas yn chwalu neu’n symud yn bell i ffwrdd o’r bobl ti’n caru. Gellir teimlo galar os yw rhywun agos i ti yn cael salwch fel dementia neu ganser hefyd.

Cannwyll wedi ei thanio yn cynrychioli galar

Ymdopi gyda galar

Mae galar yn broses. Nid oes cyfnod penodol iddo, ac nid oes rhaid i ti deimlo neu feddwl mewn ffordd benodol chwaith. Weithiau, bydd yn dy daro ar gyfnodau annisgwyl, efallai rhai blynyddoedd wedyn.

Mae’r mwyafrif o bobl yn cael cymorth trwy’r galar gan y bobl o’u cwmpas, fel ffrindiau, teulu, a chymunedau. Mae’n gallu bod yn ynysig iawn, felly mae siarad yn ffordd dda i ddod drwyddi. Os nad wyt ti’n teimlo medri di siarad gyda’r bobl o’th gwmpas, gallet ti chwilio am gymorth gan wasanaeth cwnsela galar a llinellau cymorth fel Meic (gweler isod).

Mae mynegi dy hun yn gallu helpu gyda’r broses galaru. Gallet ti ysgrifennu llythyr i’r person sydd wedi marw yn dweud popeth rwyt ti eisiau dweud. Gallet ti gadw dyddiadur teimladau neu ysgrifennu cerdd, rap, neu gân er cof amdanynt. Neu, gallet ti ddarlunio neu beintio llun ohonynt. Mae creu bocs atgofion neu lyfr sgrap yn llawn lluniau ac eitemau sydd yn dy atgoffa ohonynt yn gallu helpu hefyd.

Delwedd fector ar gyfer galar. Dwylo yn ymestyn allan at ei gilydd fel symbol o gymorth. Calon uwchben y dwylo.

Symud ymlaen o alar

Mae rhai pobl yn teimlo’n euog am beidio teimlo galar dwys ddim mwy, a gallu parhau gyda’u bywydau. Nid yw hyn yn golygu nad wyt ti’n caru’r person rwyt ti wedi’i golli. Gallet ti symud ymlaen a pharhau dy fywyd yn y ffordd rwyt ti eisiau.


Cael help

Logo hope again

Hope Again

Gwefan ieuenctid gan Gymorth Galar Cruse. Lle diogel i ddysgu gan bobl ifanc eraill am sut i ymdopi gyda galar a theimlo’n llai unig. Ffonia’r llinell gymorth Cruse ar 0808 808 1677 rhwng 9:30 a 5yh dydd Llun a dydd Gwener neu rhwng 9:30 a 8yh dydd Mawrth, Mercher, ac Iau. Ymwela â’r wefan i ddarganfod cymorth yn dy ardal.

Logo Winston's Wish

Winston’s Wish

Helpu plant a phobl ifanc i ganfod eu traed pan fydd eu bywydau yn cael eu troi wyneb i waered gan alar. Mae eu gwefan Help 2 Make Sense yn cynnwys cyngor a straeon go iawn gan bobl ifanc eraill sy’n galaru. Ymwela â’r wefan am wybodaeth am y cymorth galar sydd ar gael, gan gynnwys sgwrs byw, e-bost, llinell gymorth, cwnsela, adnoddau a gweithgareddau.

Logo grief encounter

Grief Encounter

Cefnogi plant a phobl ifanc mewn profedigaeth. Mae’r llinell gymorth Grieftalk yn cynnig cymorth ac arweiniad emosiynol, cyfrinachol, i unrhyw un sydd wedi ei effeithio gan alar. 0808 802 0111 9yb-9yh yn ystod yr wythnos. Ymwela â’u gwefan am fanylion cwnsela, gweithdai ac adnoddau eraill gall helpu.

Logo Meic

Siarad â Meic

Llinell gymorth ddwyieithog, cyfrinachol ac am ddim, i blant a phobl ifanc hyd at 25 yng Nghymru. Cysyllta os wyt ti’n poeni am rywbeth, gyda chwestiynau, neu angen gwybodaeth neu gyngor. Gallem dy roi ar y llwybr cywir os wyt ti’n cael trafferth gwybod pwy i gysylltu. Gallem hyd yn oed helpu ti i siarad gydag eraill os yw hyn yn anodd i ti. Ffonia’r llinell gymorth o 8yb tan hanner nos bob dydd: 080 880 23456 neu sgwrsia ar-lein.