x
Cuddio'r dudalen

Sut i Osgoi Camryweddu

Camryweddu ydy pan fyddi di’n cyfeirio at rywun gyda rhagenw (pronoun) neu deitl (fel Miss neu Syr) sydd ddim yn adlewyrchu eu hunaniaeth rhywedd (gender identity) cywir. Gall camryweddu ypsetio a chorddi rhywun, felly dyma awgrymiadau sut i beidio pechu.

Mae’r erthygl hon yn seiliedig ar gyflwyniad i TheSprout gan berson ifanc yn byw yng Nghaerdydd.

Mae LHDTC+ yn golygu lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol a cwiar. Mae’r + yn symbol cynhwysol sydd yn cynrychioli pobl o bob hunaniaeth o fewn y gymuned.

Mae’r erthygl hon yn rhan o Ymgyrch Mis Hanes LHDTC+ Meic – clicia yma i weld mwy.

This article is also available in English – click here

Os wyt ti’n gweld geiriau sydd yn newydd i ti yn y blog yma, fel anneuaidd, rhyngryw ayb, yna mae gan Stonewall Geirfa wych sydd yn egluro beth yw pob un gyda’r geiriau Cymraeg a Saesneg wedi’u rhestru.

Mae’r byd rydym yn byw ynddi heddiw yn tyfu’n sydyn, a gyda’r tyfiant yma mae pobl yn dod yn fwy parod i dderbyn y gymuned LHDTC+. Rwy’n panrywiol sydd yn cyfeirio at fy rhywioldeb. Rwyf hefyd yn cydryweddol (cisgender), sydd yn golygu bod fy hunaniaeth rhywedd yn cyd-fynd â’r rhyw penodwyd ar fy ngenedigaeth. Fel rhan o’r gymuned yma fy hun, rwy’n deall pa mor bwysig yw defnyddio’r rhagenw cywir ac i beidio camryweddu.

Defnyddia’r rhagenwau cywir

Mae rhagenwau yn eiriau defnyddir i gyfeirio at berson pan nad wyt ti’n defnyddio’u henw. Rhagenwau cyffredin yw ‘fi’, ‘ti’, ‘fe’, ‘hi’, ‘ni’ a ‘nhw’. Mae rhagenwau fel ‘hi’ ac ‘fe’ yn ymwneud â rhyw, gyda ‘fe’ yn cael ei ddefnyddio fel arfer gan bobl sydd yn uniaethu fel gwrywaidd, a ‘hi’ fel arfer yn cael ei ddefnyddio gan bobl sydd yn uniaethu fel benywaidd. Mae rhagenwau fel ‘nhw’, ‘ze’ ac ‘ey’ yn niwtral o ran rhywedd.

Gofynna i bobl am eu rhagenwau

Mae’n hollol iawn i ofyn am ragenwau rhywun os wyt ti’n ansicr sut i gyfeirio atynt. Bydda’n well gan y mwyafrif o fy ffrindiau sydd yn rhyweddcwiar (genderqueer) i bobl ofyn pa ragenwau a rhywedd maent yn uniaethu ag ef, yn hytrach na chael eu camryweddu.

Mae rhai pobl yn dewis newid eu henw i adlewyrchu eu hunaniaeth rhywedd. Camenwi yw galw rhywun eu henw genedigol ar ôl iddynt newid eu henw ac mae hyn yn amharchus iawn.

Defnyddio ‘nhw’ yn fwy aml

Mae ‘nhw’ yn rhagenw niwtral o ran rhywedd, felly mae’n ddiogel defnyddio hwn i gyfeirio at rywun nes y byddi di’n ymwybodol o’u hunaniaeth rhywedd.

Hawdd yw stereoteipio pobl yn ôl y dillad a’r gemwaith maent yn gwisgo. Cofia, nid oes rhywedd i ddillad a gemwaith. Gall pobl wisgo beth bynnag maent eisiau, ac mae hyn yn adlewyrchu eu steil yn hytrach na’u hunaniaeth rhywedd yn aml. Gofala i beidio barnu hunaniaeth rhywedd pobl oherwydd pethau fel hyd wallt, gwisgo colur a pa mor ddwfn yw eu llais.

Ymddiheura a chywiro dy hun

Mae cael dy gamryweddu yn boenus, felly efallai bydd y person rwyt ti’n camryweddu yn ypset. Ceisia beidio bod yn amddiffynnol ac ymddiheura’n gwrtais yn lle hynny, a chywira dy hun gan ddefnyddio’u rhagenwau cywir. Os wyt ti’n ansicr am eu rhagenwau, gofynna a cheisia defnyddio’r un cywir y tro nesaf.

Chat to Meic

If you need to talk to someone about anything that’s bothering you, then call Meic to talk to a friendly advisor.

Meic is an information and advocacy helpline for children and young people aged 0-25 in Wales. We are open 8am to midnight, 7 days a week. You can contact us free on the phone (080880 23456), text message (84001) or online chat.