x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Beth i’w wneud os fydd dy bartner yn dod allan yn drawsryweddol

Merch gyda lliwiau'r flag trawsryweddol o'i chwmpas

Mae dysgu bod dy bartner yn drawsryweddol yn gallu gwneud i ti deimlo cymysgedd o emosiynau. Gall wneud i ti deimlo cariad, teimlo’n ddryslyd a theimlo’n ansicr. Felly, beth wyt ti’n fod i wneud nesaf?

Creu gofod diogel

Mae dy bartner wedi rhannu rhywbeth personol iawn. Rŵan yw’r amser i greu gofod diogel, heb feirniadaeth. Gad iddyn nhw arwain y sgwrs a rho amser iddyn nhw fynegi eu teimladau a’u profiadau heb dorri ar draws. Gad iddyn nhw wybod dy fod yn gwrando a bod eu teimladau yn ddilys.

Gwrando

Gwranda’n astud ar beth mae dy bartner yn ddweud, ar lafar ac yn ddi-eiriau. Tala sylw i dôn eu llais ac iaith eu corff. Dangosa empathi a dealltwriaeth.

Baner trawsryweddol yn chwifio yn y gwynt

Addysga dy hun am hunaniaethau trawsryweddol

Addysga dy hun. Ymchwilia am faterion trawsryweddol gan ffynonellau dibynadwy fel Umbrella Cymru. Bydd hyn yn helpu ti ddeall profiadau dy bartner ac osgoi gwneud rhagdybiaethau a dibynnu ar stereoteipiau.

Parchu eu hunaniaeth

Parcha eu henw dewisol a’u rhagenwau, hyd yn oed mewn sgyrsiau preifat. Os wyt ti’n gwneud camgymeriad, cywira dy hun a symud ymlaen.

Dau berson yn dal dwylo gyda fflag trawryweddol o'u cwmpas

Bydd yn amyneddgar

Mae trawsnewid yn broses, nid yw’n ddigwyddiad. Bydd cyfnodau da a chyfnodau anodd, i’r ddau ohonoch chi. Bydd yn amyneddgar gyda dy bartner a ti dy hun. Rho amser i dy hun addasu a dysgu.

Parchu eu dewis

Cefnoga eu penderfyniad am drawsnewid yn feddygol ac yn gymdeithasol. Gofynna beth yw’r ffordd gorau i ti eu cefnogi nhw yn ystod y broses. Eu siwrne nhw yw hon, a dy rôl di yw bod yno i’w cefnogi a’u caru.

Tri person mewn glas a pinc yn rhoi cwtsh i'w gilydd

Bydd yn gyfaill

Bydd yn gefn i dy bartner yn erbyn gwahaniaethu a rhagfarn. Eiriola drostyn nhw mewn gofodau ble byddant yn teimlo’n fregus. Efallai bydd hyn yn golygu cywiro eraill am eu rhagenwau nhw neu herio sylwadau trawsffobig.

Cydnabod dy deimladau

Mae’n iawn cael dy deimladau a dy gwestiynau dy hun. Mae am gymryd amser i ti addasu hefyd. Rho amser i dy hun i brosesu dy emosiynau.

Mae’n bosib bydd dy deimladau tuag atynt yn newid. Mae hyn yn brofiad normal a dilys. Mae hunaniaeth rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol yn gymhleth, ac mae profi trawsnewidiad dy bartner yn gallu newid sut ti’n teimlo amdanynt. Bydda’n onest gyda dy hun am dy deimladau, a rho amser i dy hun i brosesu nhw.

Mae’n iawn os ydych chi’n teimlo’n wahanol am eich gilydd. Os yw hynny’n digwydd, mae’n bwysig eich bod yn parhau i drin eich gilydd gyda pharch ac empathi.

Baner drawsryweddol

Chwilio am gymorth

Ystyria chwilio am gymorth, yn unigol neu fel cwpl. Mae siarad gyda rhywun proffesiynol yn creu gofod diogel i chi brosesu eich teimladau a datblygu ffyrdd o ymdopi. Mae grwpiau cefnogaeth ar gyfer partneriaid pobl drawsryweddol yn gallu bod yn gymuned ddefnyddiol i rannu profiadau.

Siarada â Meic, llinell gymorth sy’n cynnig cyngor, gwybodaeth ac eiriolaeth yn rhad ac am ddim yng Nghymru. Rydym yn cynnig cefnogaeth yn ddienw dros y ffôn, neges Whatsapp, neges destun a sgwrs ar-lein.