x
Cuddio'r dudalen

Pobl LHDTC➕ Cymraeg i Frolio’n Uchel

Mae Cymru wedi dod yn lle llawer fwy agored i’r gymuned LHDTC➕, ond nid yw hyn wedi bod yn hawdd. Mae pobl LHDTC➕ yn dal i wynebu heriau, ond mae yna nifer o bobl ledled Cymru sydd yn gweithio’n galed i godi ymwybyddiaeth a gwneud newidiadau ar eu cyfer. Dyma restr o bobl LHDTC➕ Cymraeg i frolio’n uchel.

Mae LHDTC+ yn golygu lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol a cwiar. Mae’r + yn symbol cynhwysol sydd yn cynrychioli pobl o bob hunaniaeth o fewn y gymuned.

Mae’r erthygl hon yn rhan o Ymgyrch Mis Hanes LHDTC+ Meic – clicia yma i weld mwy.

This article is also available in English – click here

Gareth Thomas

Mae Gareth, o Ben-y-bont ar Ogwr,  yn ysbrydoliaeth i lawer o sêr LHDTC+ y byd chwaraeon. Gareth oedd y chwaraewr rygbi undeb proffesiynol cyntaf hoyw agored. Fe ddaeth allan yn gyhoeddus yn 2009 a datgelu yn 2019 ei fod yn HIV bositif gyda statws anghanfyddadwy (undetectable). Ers hynny, mae wedi treulio llawer o amser yn ymgyrchu ac yn codi ymwybyddiaeth o HIV. Yn 2020 cafodd ei apwyntio fel CBE am ei wasanaethau i chwaraeon ac iechyd.

Sarah McCreadie

Mae Sarah yn fardd gair-llafar ac ysgrifennwr o Gaerdydd sydd yn cymryd rhan ymhob agwedd o’r gymuned. Mae’n ysgrifennu am ei bywyd: ei chariad, teulu, ffeministiaeth, pêl-droed (gwyliwch Sarah yn cyfweld â Kieffer Moore), a bod yn ddosbarth gweithiol yng Nghymru. Mae wedi gweithio gyda Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd i rymuso pobl ifanc i fod yn fwy creadigol yn ogystal â gweithio gyda ni yma yn Meic i godi ymwybyddiaeth am berthnasau sydd ddim yn iach (uchod). Mae Sarah yn parhau i greu cynnwys sydd yn codi ymwybyddiaeth o faterion LHDTC+ a hyrwyddo derbyniad.

Owen Hurcum 

Owen yw’r dirprwy faer (ym Mangor) ieuengaf erioed yng Nghymru a’r maer-etholedig rhywedd-cwiar agored cyntaf yn y DU. Maent wedi cymryd rhan mewn llawer o ddigwyddiadau LHDTC+ ledled Cymru, gan gynnwys helpu trefnu’r Pride cyntaf erioed ym Mangor 2019.

Abderrahim El Habachi

Mae Rahim yn geisiwr lloches o Foroco, yn ymroddedig i weithredu a gwirfoddoli am faterion LHDTC+. Mae’n ymgyrchu am ddilead HIV a sicrhau bod ceiswyr lloches yn cael triniaeth deg ledled y DU. Mae hefyd yn gwrifoddoli fel Swyddog Allgymorth y Celfyddydau i Glitter Cymru.

Jess Fishlock

Jess oedd y pêl-droediwr Cymraeg cyntaf i gyrraedd 100 o gapiau. Mae’n eiriolwr ac yn weithredwr hawliau LHDTC+. Yn 2018 derbyniodd MBE ym Mhalas Buckingham am ei gwasanaethau i bêl droed a’r gymuned LHDTC+.

Ashley Lister

Mae Ash yn gynghorydd Llafur deurywiol yn Grangetown, Caerdydd, ac yn ymgyrchydd angerddol dros hawliau LHDTC+. Mae’n aelod o grŵp llywio Fast Track Caerdydd a’r Fro, sydd yn ymgyrchu i roi diwedd ar y stigma o gwmpas HIV.

Tayce Szura-Radix

Mae Tayce yn frenhines drag o Gasnewydd fu’n cystadlu a daeth yn ail orau yn ail gyfres RuPaul’s Drag Race UK. Lansiodd Tayce ymgyrch dillad isaf Pride gyda’r Kaleidoscope Trust yn 2021 i gael gwared ar gyfreithiau gwrth-hoyw mewn 25 o wledydd y Gymanwlad. Mae bod yn hoyw yn anghyfreithlon mewn 35 o’r 54 gwlad sydd yn rhan o’r Gymanwlad. Mae hefyd wedi bod yn wyneb ymgyrch Coca-Cola, wedi herio safonau harddwch gydag ymgyrch Colgate ac wedi cerdded i ddylunwyr dillad fel Jean Paul Gaultier.

Hannah Graf

Cynt yn swyddog yn y Fyddin Brydeinig mae Hannah, ganwyd yng Nghaerdydd, wedi derbyn MBE am ei gwasanaethau. Daeth yn Gynrychiolwr Trawsryweddol (transgender) y Fyddin, yn cynghori ac yn addysgu uwch gomanderiaid ar bolisi trawsrywedd. Fel merch trawsryweddol, bu’n mentora ac yn cefnogi llawer o filwyr trawsryweddol. Yn ddiweddar roedd ei gŵr a hithau yn serennu ar raglen dogfen C4 ‘Our Baby: A Modern Miracle’ i godi ymwybyddiaeth o’r heriau sydd yn wynebu pobl traws i gael babi.

Dr Sophie Quinney

Fel cyfaill traws, Sophie yw’r doctor cyntaf yng Nghymru i arbenigo mewn Meddyginiaeth Hunaniaeth Rhywedd. Mae wedi hyfforddi llawer o ddoctoriaid ledled Cymru i drin cleifion trawsryweddol yn gyfartal, ac mae’n eirioli am ofal meddygol gwell i geiswyr lloches ac ymfudwyr.

Vishal Gaikwad

Mae Vish yn gweithio yn y maes Iechyd Meddwl ac yn ceisio rhoi mwy o lais i leiafrifoedd ethnig LHDTC+ yng Nghymru. Yn 2016 sefydlodd Glitter Cymru, grŵp cymdeithasol cefnogol ar gyfer Pobl Cwiar Traws Rhyngryw Du ac o Liw (QTIBPOC) ledled Cymru. Sefydlwyd y grŵp ar ôl clywed rhwystredigaethau llawer o leiafrifoedd ethnig LHDTC+ a oedd yn teimlo nad oedd aelodau cymunedau LHDTC+ gwyn eraill yn eu gweld na’u clywed.

Cysyllta â Meic

Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim