x
Cuddio'r dudalen

Sut i Fod yn Gyfaill LHDTC➕ Gwych

Mae cyfaill LHDTC➕ yn rhywun sydd yn uniaethu fel heterorywiol ac sy’n cydryweddol (cis), sy’n cefnogi hawliau cyfartal, cyfartaledd rhyw a symudiadau cymdeithasol LHDTC➕. Mae’n syniad da addysgu dy hun am sut i fod yn gyfaill mwy cefnogol. Dyma 8 awgrym.

Mae LHDTC+ yn golygu lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol a cwiar. Mae’r + yn symbol cynhwysol sydd yn cynrychioli pobl o bob hunaniaeth o fewn y gymuned.

Mae’r erthygl hon yn rhan o Ymgyrch Mis Hanes LHDTC+ Meic – clicia yma i weld mwy.
To read this article in English, click here.

1. Deall hanes Pride

Mae deall y siwrne mae pobl LHDTC+ wedi gorfod bod drwyddi yn hanfodol wrth gefnogi pobl LHDTC+ a’u brwydr am hawliau cyfartal. Mae gan Stonewall ddarn blog gwych The Stonewall Uprising: 50 Years Of LGBT History. Mae Meic yn cynnal ymgyrch LHDTC+ yn ystod mis Chwefror – cer draw yma i weld y blogiau.

2. Addysgu dy hun ar iaith LHDTC➕

Mae deall gwahanol rhywioldebau a hunaniaethau rhyw yn bwysig iawn i fod yn gyfaill LHDTC+. Bydd yn helpu ti i ddeall mwy nag ‘syth’ neu ‘hoyw’ a ‘bachgen’ neu ‘merch’. Lle da i gychwyn bydda eirfa termau Stonewall gyda diffiniadau o ystyr pob term.

3. Paid dweud “mae hynna mor gay”

Os wyt ti’n dweud, “mae hynna’n gay”, rwyt ti angen cwestiynu dy iaith. Mae’n debyg nad wyt ti wedi bwriadu cyfeirio at bobl hoyw wrth ddweud hyn, ond, nid yw defnyddio’r gair mewn ffordd negyddol yn braf iawn i bobl hoyw. Ceisia bod yn ymwybodol o’r iaith rwyt ti’n defnyddio a beth allai feddwl i rywun arall.

4. Cofia bod gan bobl hawl i breifatrwydd

Yn aml, mae pobl LHDTC+ yn cael eu holi’n dwll am eu rhywioldeb a’u hunaniaeth rywiol. Mae’r gymuned yn taclo cwestiynau am beth yw ystyr bod yn LHDTC+, eu profiadau a’u hagwedd i gyfreithiau blaengar. Mae’n iawn i ofyn cwestiynau yn barchus, ond ceisia ymchwilio a deall pethau dy hun gyntaf os fedri di. Mae gan Google yr ateb i bron bopeth!

(Cofia bod posib cysylltu â Meic yn gyfrinachol os oes gen ti gwestiynau i’w gofyn neu deimladau i’w harchwilio.)

5. Sefyll gyda phobl LHDTC➕

Mae bod yn gyfaill da yn fwy nag chwifio baner enfys mewn parêd Pride, gwisgo glityr a chanu Lady Gaga gyda gorfoledd. Ceisia daclo gwahaniaethu a rhagfarnu wrth godi dy lais, arwyddo deisebau a mynd i brotestiadau am newid positif.

6. Gwylio ffilmiau a rhaglenni a darllen llyfrau LHDTC➕

Mae yna dangynrychiolaeth pobl LHDTC+ yn y cyfryngau. I ddangos cefnogaeth ceisia gysylltu gyda straeon am bobl LHDTC+ neu gyda darnau celf wedi’i greu ganddynt. Lle da i gychwyn bydda edrych ar restr ’10 Peth i’w Wylio ar gyfer Mis Hanes LHDT’ ar theSprout.

(Noder – gall rhai o’r rhaglenni yma fod yn anaddas ar ran oedran i rai o’n darllenwyr. Os wyt ti’n ansicr chwilia am y rhaglen ar wefan Common Sense Media lle maent yn rhoi syniad i ba oedran mae’r rhaglen yn addas. Neu gofynna i rywun gallet ti ymddiried ynddynt.)

7. Prynu gan fusnesau LHDTC➕ bach

Nid oes angen i ti gerdded o gwmpas trwy’r dydd, bob dydd, wedi gwisgo o dy gorun i dy sawdl mewn enfys i ddangos dy fod di’n gyfaill da. Ond, os wyt ti’n mynd i ddigwyddiad ac eisiau bod yn fwy lliwgar, yna siopa’n ofalus. Mae’n hawdd disgyn i mewn i drap o brynu gan gorfforaethau mawr sydd yn elwa o Pride. Ceisia fod yn ymwybodol o hyn a darganfod busnesau bach gan unigolion LHDTC+ i gefnogi pobl cwiar.

8. Derbyn y byddi di’n gwneud camgymeriadau

Weithiau bydd pobl yn dweud neu wneud pethau’n anghywir, ac mae hynny’n iawn – nid oes neb yn berffaith. Esiampl berffaith o hyn yw camryweddu rhywun neu ddefnyddio’r rhagenwau anghywir. Os wyt ti’n gwneud hyn yn ddamweiniol, paid poeni’n ormodol am y peth. Ymddiheura a chywiro dy hun! Mae’n ymarfer da i ofyn beth yw rhagenw rhywun fel y gallet ti osgoi eu camryweddu. Cer i weld ein blog Sut i Osgoi Camryweddu.

Eisiau siarad?

Os wyt ti angen siarad y gyfrinachol am unrhyw beth sydd yn dy boeni, bod hynny i ymwneud â rhywbeth LHDTC+ neu unrhyw beth arall, yna mae Meic yma i wrando a chynnig cyngor bob dydd rhwng 8yb a hanner nos. Neges testun, Ffôn neu Sgwrs Ar-lein.