x
Cuddio'r dudalen

Arwyr Pwysig Hanes LHDTC➕

Mae nifer o bobl LHDTC➕ wedi gwneud cyfraniadau mawr i’r byd dros y degawdau. Rhai ddim wedi cael cydnabyddiaeth am hynny. Rhai yn cael eu cosbi hyd yn oed! Mae Mis Hanes LHDTC➕ yn gyfle i gofio am yr arwyr yma, ac i fedru dathlu eu llwyddiannau o’r diwedd.

Mae LHDTC+ yn golygu lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol a cwiar. Mae’r + yn symbol cynhwysol sydd yn cynrychioli pobl o bob hunaniaeth o fewn y gymuned.
Mae’r erthygl hon yn rhan o Ymgyrch Mis Hanes LHDTC+ Meic – clicia yma i weld mwy.
This article is also available in English – click here

Soccer ball icon. Flat vector illustration in black on white background.

Lily Parr (1905-1978)

Roedd Lily Parr yn chwarae pêl droed mewn oes pan fu newid enfawr yn y gêm i ferched. Sgoriodd bron i 1000 o goliau yn ei gyrfa pêl droed. Roedd yn ysbrydoliaeth enfawr i enethod ifanc a merched. Parhaodd Parr i chwarae pêl droed er i’r Gymdeithas Pêl Droed osod cyfyngiadau ac ymgyrchu yn erbyn yr hawl i ferched chwarae’r gamp.

vector illustration of classic airplane

Alan Turing (1912 – 1954) 

Roedd Alan Turing yn un o’r rhai helpodd i dorri’r Cod Enigma yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cod oedd yn cael ei ddefnyddio gan y Natsïaid i gyfathrebu â’i gilydd. Roedd cracio’r cod yma wedi helpu’r cynghreiriaid (allies) i ennill yr Ail Ryfel Byd, gan gwtogi’r rhyfel o tua 2 flynedd ac achub miliynau o fywydau. Yn 1952, 7 mlynedd ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd, cafodd Turing ei farnu’n euog am fod yn hoyw. Y gosb am hynny yn 1952 oedd un ai carchar neu driniaeth hormon. Cafodd Turing ei ysbaddu (castrated) yn gemegol fel cosb am fod yn hoyw. Yn 2012, 58 mlynedd ar ôl ei farwolaeth, derbyniodd bardwn am ei euogfarn am fod yn gyfunrywiol. Gellir dysgu mwy am fywyd Alan Turing yn y ffilm The Imitation Game.

Bayard Rustin (1912 – 1987)

Roedd Bayard Rustin yn ddyn hoyw ac yn prif drefnydd Gorymdaith Washington lle roddodd Martin Luther King ei araith enwog “I have a dream” yn 1963. Treuliodd ei fywyd yn brwydro newid cymdeithasol a gwleidyddol mewn cyfnodau o anghydraddoldeb (inequality). Gwobrwywyd â Medal Rhyddid Arlywyddol gan yr Arlywydd Barack Obama yn 2013.

Modern icon syringe, background green and flat style, urgency, long shadow. vector illustration

Michael Dillon (1915 – 1962) 

Pan symudodd Michael Dillon, graddedig Rydychen, o Friste fe glywodd am y doctor George Foss, a oedd yn dod yn enwog am drin merched gyda thestosteron. Roedd y merched yn aml yn cwyno am effaith testosteron – blew ar y wyneb, lleisiau dyfnach, a mwy o gyhyrau. Clywodd am y sgil effeithiau yma ac roedd eisiau cymryd testosteron ei hun er mwyn edrych yn fwy gwrywaidd. Yn fuan wedyn clywodd am y llawfeddyg cosmetig Sir Harold Gillies, a helpodd Dillon i gael pidyn gyda 13 o lawdriniaethau cosmetig. Er bod dynion traws eraill wedi derbyn llawdriniaethau cyn hyn, Dillon oedd un o’r cyntaf i ddefnyddio testosteron, a’r cyntaf i dderbyn pidyn trwy lawdriniaeth gosmetig.

Stage curtains with shining microphone vector illustration. Standup comedy show concept

Labi Siffre (1945 – Presennol) 

Mae Labi Siffre yn ysgrifennu ac yn perfformio caneuon, yn fardd, ac yn actifydd. Gydag ychydig o albymau yn yr 1970au, cafodd ei lwyddiant cyntaf yn 1971 gyda It Must Be Love, cân a gafodd ei ail ryddhau wedyn gan Madness. Yn 1985 daeth ei sengl fwyaf llwyddiannus (Something Inside) So Strong, ymateb i Apartheid ac wedi’i ysbrydoli gan ei brofiadau fel dyn hoyw. Mae Siffre wedi bod yn agored am y ffaith ei fod yn ddyn hoyw trwy ei yrfa ac wedi cyfeirio at hiliaeth a homoffobia yn ei waith.

Rocket and planet draw design, Spaceship aircraft start up shuttle technology and travel theme Vector illustration

Sally Ride (1951 –2012) 

Ymunodd Sally Ride â NASA fel gofodwr a ffisegydd yn 1978. Yn 1983 hi oedd y ddynes Americanaidd cyntaf, a’r person LHDTC+ cyntaf hyd y gwyddwn, i fynd i’r gofod. Hi oedd y trydedd ferch i fynd i’r gofod yn gyfan gwbl.

Silhouette Hard Hat,  Safety Helmet on a Light Background ,Black and White Vector Illustration

Mark Ashton (1960 – 1987) 

Mark Ashton oedd cyd-sefydlydd Lesbians and Gays Support the Miners (LGSM) ynghyd â Mike Jackson. Bu Ashton yn brwydro am hawliau LHDT+ mewn cyfnod o homoffobia cryf yn y DU, yn ogystal â chefnogi’r gymuned mwyngloddi yn Ne Cymru yn arbennig. Wedi derbyn diagnosis HIV/AIDS aeth i Ysbyty Guys yn Llundain ar 30 Ionawr 1987 a bu farw 12 diwrnod wedyn. Gellir dysgu mwy am Mark Ashton yn y ffilm Pride.

Typewriter colored icon with paper and flying letters, vector illustration

Jan Morris (1926-2020) 

Roedd Jan Morris yn hanesydd, awdur, ac ysgrifennydd teithio trawsryweddol (transgendered). Hi oedd un o’r bobl gyntaf i gyrraedd copa Everest yn 1953 pan oedd yn gweithio fel newyddiadurwr yn dogfennu’r ddringfa gyntaf enwog gyda Edmund Hillary a Tenzing Norgay.

Cysyllta â Meic

Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim