x
Cuddio'r dudalen

Hanes Lliwgar y Faner LHDTC➕

Mae’r faner Pride yn symbol o obaith, amrywiaeth a chynhwysiant (cynnwys pobl) yn y gymuned LHDTC➕. Mae wedi cael ei diweddaru sawl gwaith dros y blynyddoedd i gynrychioli mwy o gymunedau yn well. Fel rhan o Fis Hanes LHDTC➕ rydym am edrych ar hanes y faner arbennig hon.

Mae LHDTC+ yn golygu lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol a cwiar. Mae’r + yn symbol cynhwysol sydd yn cynrychioli pobl o bob hunaniaeth o fewn y gymuned.

Mae’r erthygl hon yn rhan o Ymgyrch Mis Hanes LHDTC+ Meic – clicia yma i weld mwy.

This article is also available in English – click here

Os wyt ti’n gweld geiriau sydd yn newydd i ti yn y blog yma, fel anneuaidd, rhyngryw ayb, yna mae gan Stonewall Geirfa wych sydd yn egluro beth yw pob un gyda’r geiriau Cymraeg a Saesneg wedi’u rhestru.

Hanes y faner Pride

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd rodd y Natsïaid yn labelu dynion tybiwyd oedd yn gyfunrywiol (homosexual) gyda thriongl pinc, yn union fel yr oedd y seren Dafydd felen yn cael ei defnyddio i labelu pobl Iddewig. Roedd y dynion a orfodwyd i wisgo’r trionglau pinc, gelwir yn ‘die Rosa-Winkel’, yn cael eu hystyried fel yr ‘bobl waethaf’.

Yn dilyn y rhyfel, penderfynodd rhai pobl LHDTC+ i adennill y symbol triongl pinc. Roedd pobl yn ei wisgo i ddangos cefnogaeth i rai yn y gymuned a oedd yn cael eu cosbi am fod yn hoyw.

Ond, roedd llawer o bobl eisiau symbol newydd o falchder ar gyfer y gymuned LHDTC+. Harvey Milk oedd un o’r bobl yma, un o’r swyddogion etholiadol hoyw gwbl agored cyntaf yn America. Anogodd Gilbert Baker, arlunydd Americanaidd hoyw agored, a oedd hefyd yn gyn-filwr, actifydd a brenhines drag, i greu symbol o falchder ar ran y gymuned LHDTC+.

Lliwiau baner pride gwreiddiol Gilbert Baker - pinc, coch, oren, melyn, gwyrdd, gwyrddlas, indigo a fioled

Ysbrydoliaeth Gilbert

Dywedodd Gilbert bod ysbrydoliaeth am yr enfys wedi dod o gân Over The Rainbow gan Judy Garland o’r ffilm Wizard of Oz. Roedd llawer yn gallu uniaethu â’r gân ac yn sydyn iawn fe ddaeth yn anthem i’r gymuned LHDTC+. Bu farw Judy Garland ar 22ain Mehefin 1969, wythnos cyn terfysgoedd Stonewall. Yn y cyfnod yma, mabwysiadwyd yr enfys fel symbol.

Mae cred bod cynllun streipiog y faner Pride  wedi ei hysbrydoli gan Faner Ddynol Ryw. Defnyddiwyd hwn yn yr 1960au i brotestio am heddwch y byd. Roedd pum streipen iddo  – coch, gwyn, du, brown, a melyn.

Gan ddefnyddio hwn fel ysbrydoliaeth, cynlluniodd Gilbert fersiwn cyntaf y faner Pride yn 1978.

Ystyr y lliwiau

Mae ystyr gwahanol i bob lliw ar y faner Pride. Roedd cynllun gwreiddiol Gilbert yn cynnwys wyth lliw gwahanol:

  • Pinc poeth – Rhyw
  • Coch – Bywyd
  • Oren – Iachau
  • Melyn – Heulwen
  • Gwyrdd – Natur
  • Gwyrddlas – Hud/Celfyddyd
  • Indigo – Tawelwch
  • Fioled – Ysbryd

Ond, daeth y lliwiau pinc a gwyrddlas yn rhy ddrud i’w masgynhyrchu, felly cafwyd gwared ar y rhain flwyddyn wedyn – gan greu’r faner Pride 6 lliw cyffredin gwelir heddiw.

Baner Pride Philadelphia lliwiau du, brown, coch, oren, melyn, gwyrdd, glas a fioled

Baner Pride Philadelphia

Yn 2017 cafwyd dehongliad newydd o’r faner Pride. Fel awgrymir yn yr enw, cynlluniwyd hwn yn Philadelphia, America. Ychwanegwyd streipiau Du a Brown i’r chwe lliw arall i gynrychioli undeb rhwng rhywioldeb, hil a hunaniaeth ryw. Cafodd ei greu i eirioli a chynrychioli pobl LHDTC+ o liw.

Y faner Cynnydd - streipiau  coch, oren, melyn, gwyrdd, glas a fioled; a chevron du, brown, glas golau, pinc a gwyn

Y Faner Cynnydd

Yn 2018 cynlluniwyd baner newydd, y Faner Cynnydd, wedi ei ysbrydoli gan y faner Pride Philadelphia. Tra bod yr ystyr y tu ôl i’r faner Pride Philadelphia yn bwysig iawn, roedd Daniel Quasar, cynllunydd graffeg anneuaidd (non-binary), yn meddwl ei fod yn anodd gweld yr holl liwiau ar y faner mewn ffurf streipiau yn unig. Penderfynodd greu cynllun baner newydd gydag ychwanegiadau.

Mae’r faner Cynnydd yn defnyddio’r faner Pride fel sylfaen, gan ychwanegu chevron ar yr ochr chwith. Mae 5 lliw i’r chevron– du, brown, glas golau, pinc, a gwyn. Mae’r du a brown yn cynrychioli cymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig eraill sydd ar y cyrion. Mae’r glas golau, pinc, a gwyn yn cynrychioli unigolion trawsryweddol (transgender) ac anneuaidd (non-binary).

Bwriad fersiwn yma’r faner yw gosod cymunedau pobl o liw a phobl trawsryweddol sydd ar y cyrion ar y pen blaen. Mae’r saeth yn pwyntio i’r dde i ddangos symud ymlaen ond mae’n eistedd ar yr ochr chwith i ddangos y cynnydd sydd dal angen digwydd.

Mae’r faner newydd yn gwahaniaethu rhwng y defnydd o’r enfys i gefnogi’r GIG yn ystod y pandemig coronafeirws, yn ogystal â chynrychioli’r newidiadau yn ein cymuned a’n byd dros amser.

Y  faner rrhyngryw - streipiau coch, oren, melyn, gwyrdd, glas a fioled; chevron du, brown, glas golau, pinc, gwyn gyda triongl melyn a chylch porffor/

Baner Pride Rhyngryw

Yn 2021 rhannwyd fersiwn newydd o’r Faner Pride Cynnydd wedi ei diweddaru gan Valentino Vecchietti o Intersex Equality Rights UK. Mae triongl melyn a chylch porffor wedi’u hychwanegu i’r chevron i gynrychioli’r gymuned rhyngryw (intersex)

Baneri Pride eraill

Dros y blynyddoedd, mae sawl fersiwn gwahanol o faneri Pride wedi’u cynllunio i gynrychioli rhywioldeb a rhywiau amrywiol y gymuned LHDTC+. Mae’r rhain yn cynnwys baneri Lesbiaidd, Deurywiol, Panrywiol, Anneuaidd, Anrhywiol a Trawsryweddol.

Defnyddiwyd y baneri yma fel ffordd i rannu eu hunaniaeth â balchder gyda phobl eraill. Tra bod amrywiaeth o faneri Pride ar gael, nid oes yr un wedi’i chreu i gymryd lle’r gwreiddiol. Mae pob un yn ychwanegu rhagolwg unigryw a modern i amrywiaeth y gymuned LHDTC+ a’r farn sydd yn newid ar draws y byd.

Cysyllta â Meic

Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim