x
Cuddio'r dudalen

Y T yn LHDTC➕: Sut Beth Yw E?

Dyma gyfweliad gyda Mina, merch Traws, sydd yn rhannu ei phrofiadau o drawsnewid – sut aeth ati i ddweud wrth bobl, yr anwybodaeth mae’n gorfod wynebu, a’r effaith mae wedi’i gael arni yn feddyliol ac yn emosiynol. Roedd eisiau bod yn agored am ei phrofiadau i helpu addysgu ac ysbrydoli eraill.

Roedd y cyfweliad yma yn rhan o erthygl hirach cyflwynwyd gan berson ifanc i TheSprout yn wreiddiol.

Mae’r erthygl hon yn rhan o Ymgyrch Mis Hanes LHDTC+ Meic – clicia yma i weld mwy.

This article is also available in English – click here

Mae LHDTC+ yn golygu lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol a cwiar. Mae’r + yn symbol cynhwysol sydd yn cynrychioli pobl o bob hunaniaeth o fewn y gymuned. Os wyt ti’n gweld geiriau sydd yn newydd i ti yn y blog yma, fel anneuaidd, rhyngryw ayb, yna mae gan Stonewall Geirfa wych sydd yn egluro beth yw pob un gyda’r geiriau Cymraeg a Saesneg wedi’u rhestru.

Pa mor bell i mewn i’r broses oeddet ti cyn i ti ddweud wrth bobl, a sut dwedaist ti?

Tua diwrnod neu ddau yn dilyn Diwrnod Cofio Trawsrywedd ychydig flynyddoedd yn ôl. Roeddwn wedi bod yn darllen sawl comig ar-lein wedi’u hysgrifennu gan amryw artist Traws ac wedi fy amsugno’n llwyr gyda’r cynnwys. Penderfynais arbrofi gyda fy edrychiad a’m dillad yn fuan wedyn. Roeddwn i wedi bod yn cwestiynu fy hunaniaeth yn ifanc iawn beth bynnag, ond wedi cadw’n ddistaw am y peth.

Dywedais i ddim wrth neb i gychwyn, gan feddwl ei fod yn amlwg, ond fe ddois allan fel traws yn gyhoeddus tua blwyddyn neu ddau yn ôl. Post Facebook syml yn dweud rhywbeth tebyg i ‘Hei, gyda llaw, dwi’n Traws lol’. Mae llawer o’m ffrindiau wedi bod yn gefnogol iawn, ond dwi wedi colli rhai ffrindiau, ac ar hyn o bryd nid yw fy nheulu’n gwybod. Mae’n rhywbeth rwy’n ceisio magu hyder i wneud.

Mae’r ffrindiau sydd wedi bod yn gefnogol wedi bod yn hollol hyfryd, rhai wedi rhannu eu dillad, wedi rhoi clust i wrando, ac ysgwydd i wylo arni. Ychydig wythnosau yn ôl rhoddodd ffrind fronnau silicôn i mi roi mewn bra. Rhywbeth meddylgar iawn gan fod llawer o fy mhryder yn ymwneud â’m mrest.

Ond roedd rhai ‘ffrindiau’ nad oedd mor garedig. Mae’r mwyafrif wedi diflannu o fy mywyd heb rybudd. Eraill wedi penderfynu aros am ychydig i wneud hwyl o fy nheimladau ac i geisio gwneud i mi deimlo’n afiach. Roedd rhai hyd yn oed wedi dechrau rhywioli fi, yn gyrru negeseuon rhywiol ac yn fy ystyried fel rhywbeth i wireddu eu ffetis.

Syniad traws, amlinell person ar ddesg

Wyt ti eisiau dweud wrth dy deulu neu rieni?

Mae wedi cymryd blynyddoedd maith i rai o’m nheulu deimlo’n gyfforddus gyda’r ffaith fod gen i wallt hir. Felly, mae meddwl am ddweud mod i’n ferch Traws yn teimlo fel breuddwyd pell. Maent wedi dweud eu bod yn hapus os ydw i’n hapus, ond mae ganddynt ragfarnau hefyd, bod nhw’n cyfaddef hynny neu beidio. Roeddwn yn cael jôc am y peth gyda ffrind ychydig yn ôl, gan ddweud “ni fyddaf byth yn dod allan iddynt, dim ond disgwyl iddynt ofyn pam fod gen i fronnau” pan fyddaf yn dechrau triniaeth hormonau o’r diwedd.

Dwi’n trio tawelu meddwl mam yn araf bach gan sôn am bynciau trawsrywedd wrth sgwrsio, i geisio gweld ei hymateb, ond mae’n newid y pwnc bob tro. Ar y llaw arall, gwelodd dad lun ohonof yn gwisgo ffrog ar Facebook unwaith. Ffoniodd yn flin i gyd. Felly, dwi’n meddwl bydd rhaid croesi’r bont yma pan fydd rhai i mi, er hoffwn edrych ar y map gyntaf! Yn ffodus, dwi ddim yn dibynnu ar mam a dad. Dwi’n byw gyda fy ngwraig felly nid allant fy nhaflu o’r tŷ. Dwi wir yn teimlo dros y rhai sydd ddim â’r fath ryddid.

Ydy hyn wedi newid dy berthynas gyda dy wraig?

Dwi heb sylwi ar unrhyw newidiadau yn ein perthynas. Mae’n gariad ac yn gefnogol iawn. Rydym yn rhannu dillad, a cholur, ac fel hen gwpl priod. Dwi’n ffodus iawn ohoni.

Yn fy marn i, mae’n haws gan fod fy ngwraig yn cwiar. Nid yw hyn yn golygu na all person heterorywiol fynd allan gyda pherson traws wrth gwrs. Ond gan fod y ddau ohonom yn cwiar, mae’n atal unrhyw ddryswch a theimlo’n annifyr.

Trawsffurfiad pili-pala i gynrychioli trawsnewid fel Traws

Sut a pryd oeddet ti’n gwybod dy fod di eisiau trawsnewid?

Un o’r atgofion cynharaf o gwestiynu fy rhywedd oedd pan oeddwn i tua 14. Roedd yn well gen i fod gyda’r genethod yn yr ysgol yn hytrach na’r bechgyn. Dwi’n meddwl mod i’n teimlo’n fwy cyfforddus ac yn gallu perthnasu mwy â nhw. Roeddwn yn arfer dwdlo lluniau mewn llyfrau nodiadau o ffrogiau a’r hyn roeddwn i’n meddwl bydda’n edrych yn brydferth.

Yn fy nyddiau ysgol, roeddwn i’n hoff iawn o’r sîn Goth, felly gwallt hir, lledr a cholur fel panda. Ar ôl ysgol roeddwn i’n rhan o’r sîn metel trwm ac yn teimlo pwysau i wisgo’n fwy dynol nag yr oeddwn cynt. Gan edrych yn ôl, dwi’n difaru ildio i’r fath bwysau, ac fe ddylwn i wedi gwisgo yn union fel yr oeddwn i eisiau. Dwi’n deall yn well bellach, a dwi’n fwy pendant.

Sut brofiad wyt ti wedi cael gyda’r doctoriaid?

Dim ond un cyfarfod gyda doctor am bethau yn ymwneud a rhywedd dwi wedi’i gael, ac roedd hynny’n ymwneud a gwirio pwysau gwaed a phwysau. Roeddent yn ddigon caredig i beidio datgelu fy mhwysau, lol. Roedd y doctor yn y cyfarfod yma yn reit dda. Er, fel dwi’n ddweud, dim ond un cyfarfod dwi wedi’i gael hyd yn hyn.

Pa effaith mae hyn yn ei gael yn feddyliol ac yn emosiynol?

Mae yna lawer o gasineb yn y byd tuag at bobl Traws, a gall hyn dy daro yn galed iawn weithiau. Rwyt ti’n clywed y straeon yma am y trais drwg iawn mae merched traws wedi gorfod wynebu a phobl yn ei cholli hi wrth feddwl amdanom yn defnyddio’r tŷ bach. Mae’n dechrau dweud ar rywun, ond mae gen i ffrindiau a phobl dwi’n caru i godi fi pan dwi’n isel. Dwi’n trio meddwl yn bositif ac yn edrych ymlaen at yr hyn a ddaw yfory, ond dwi hefyd yn eithaf sinigaidd.

Arwr Traws - delwedd cartŵn pinc a glas o ferch gyda byns ar ei phen yn ymladd dwylo ffyrnig

Wyt ti wedi profi casineb yn gyhoeddus o’r blaen?

Dwi wedi cael dipyn go lew yn syllu arnaf, ac yn chwerthin yn ddistaw. Dwi’n cofio dyn hŷn yn edrych arna i ar y bws un diwrnod, a’i glywed yn glir yn dweud rhywbeth fel “Iesu Grist…”. Dwi hefyd wedi cael y sarhad clasurol “Tr***y” yn cael ei waeddi mwy nag unwaith.

Dwi’n trio anwybyddu. Celwydd fydda dweud nad yw’n cael effaith arna i. Dwi ddim eisiau i bethau droi yn cwffio. Dwi’n berson bach iawn sydd ddim yn ffit. Dwi ddim yn un sy’n gallu cwffio.

Wyt ti wedi difaru neu deimlo’n ansicr am dy benderfyniad?

Mae gen i lawer o bethau rwy’n difaru yn fy mywyd, ac er mod i’n aml yn teimlo’n anniogel, dyw bod yn agored â mi fy hun fel merch Traws ddim rhywbeth dwi’n ei ddifaru.

Mae yna frwydrau yn dod gyda bod yn Traws ond dwi’n teimlo’n hapusach yn fy hun nag yr ydw i erioed. Nid oes rhaid i mi ddweud celwydd wrth fy hun mwyach. Ers derbyn fy hunaniaeth dwi’n bod yn onest am unwaith. Mae’n teimlo fel cam yn y cyfeiriad cywir.

Symbol Trawsrywedd

Oes unrhyw rannau eraill o dy fywyd sydd wedi cael ei effeithio gan y trawsnewidiad?

Mae gorfod smalio peidio bod yn Traws gyda theulu yn fy ngwneud i’n drist. A mynd i siopa am ffrogiau newydd ciwt ac yna sylweddoli nad oes gen i’r un geiniog. Nid yr un mor drist, ond dal!

Mae’n anodd gorfod ymdopi gyda cam-ryweddu a chamenwi gan fy nheulu. Dwi’n gorfod dal fy nhafod, gwenu a nodio ar hyn o bryd. Ac mae dod o hyd i ddillad yn anodd hefyd, yn enwedig gyda fy holl ansicrwydd fel fy mreichiau. Dwi wir ddim yn hoff o fy mreichiau, na fy ysgwyddau, ond dwi’n fwy ansicr am ddangos fy mrest. Felly, dim dillad sydd yn dangos fy mronnau nes i mi ddod dros yr ansicrwydd yma.

Pa gyngor fydda ti’n ei roi i unrhyw un sydd yn cwestiynu eu rhywedd neu’n ystyried trawsnewid?

Pan ddaw at ffrindiau, byddwn i’n codi’r pwnc ac yn gweld eu hymateb. Mae’n beth anodd dweud (er bod sawl un yn dweud), ond os nad yw ffrind yn gefnogol yna rwyt ti’n gwastraffu dy amser. Ond, ceisia fod yn amyneddgar â dy ffrindiau hefyd. Er eu bod nhw’n dy garu di ac yn dy gefnogi, efallai byddant yn cymysgu rhagenwau weithiau. Wrth gwrs, rhaid dweud os ydynt yn defnyddio’r rhagenw anghywir, ond rho amser iddynt.

Pan ddaw at aros yn bositif ac ymdopi gyda’r pethau negyddol, cofia, er bod y byd yn lle tywyll ac ofnus, mae yna bobl sydd yn dy garu di. Fel dywedais, os nad yw pobl yn gefnogol paid gwastraffu dy amser arnynt.

Paid byth â gadael i neb ddweud wrthyt ti pwy wyt ti neu beth wyt ti. Dim ond ti sydd yn cael penderfynu hynny. A hefyd, gofynna i dy ffrindiau i wneud dy golur, mae’n llawer rhatach!

Cysyllta â Meic

Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim